Skip to Main content

Defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau i gefnogi gofalwyr di-dâl

Dyddiad diweddaru diwethaf: 4 Tachwedd 2024

Beth yw'r prosiect?

Mae Credu yn elusen sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed yn ardaloedd Powys, Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion.

Mae'r elusen wedi datblygu model o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, sydd wedi dod yn rhan ganolog o'r ffordd y mae'n gweithio.

Mae'r dull hwn yn helpu'r elusen i roi gofalwyr wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud, ac i'w helpu i ddeall mai nhw yw'r arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain.

Mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn cefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol cynaliadwy yn eu bywydau. Mae'r dull wedi'i ymgorffori yn systemau, ymarfer a recriwtio Credu yn ogystal â'r ffordd y mae'n cefnogi ei dimau, a'i recordio ac adrodd.

Er enghraifft, mae'r elusen wedi datblygu disgrifiadau swyddi sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar werthoedd, egwyddorion a phrofiad, yn hytrach na chymwysterau.

Mae Credu yn hyfforddi ei staff a'i wirfoddolwyr newydd yn y dull hwn yn gynnar yn eu cyfnod sefydlu. Mae staff yn cael cymorth i ddysgu ac ymarfer eu sgiliau mewn sesiynau myfyriol wythnosol.

Mae rhai aelodau o dîm Credu yn defnyddio’u profiad i hyfforddi a chefnogi eraill. Maen nhw’n cynnal sesiynau i'r holl staff yn rheolaidd, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae hyn yn helpu'r sefydliad i barhau i fireinio sgiliau a gwybodaeth ei staff a'i wirfoddolwyr.

Mae'r elusen yn myfyrio'n barhaus ar sut mae'n cofnodi ac yn adrodd ar ei gwaith, sydd wedi helpu i ddangos yr effaith y mae'r dull newydd yn ei chael. Mae'n defnyddio'r adborth i lywio cynlluniau hyfforddi a datblygiad gwasanaethau a systemau.

Pam mae'n cael ei gynnal?

Mae gwneud ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn rhan o'i gwaith bob dydd yn cefnogi gwerthoedd ac egwyddorion sefydliadol Credu yn uniongyrchol.

Roedd Credu yn teimlo y gallai'r ffordd hon o weithio greu newid cynaliadwy ym mywydau gofalwyr, ac y byddai'n cefnogi gweithlu cryf sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u clywed.

Mae'r dull gweithredu yn golygu y gall Credu barhau i wneud yr hyn sy'n bwysig, pan fydd yn bwysig, a dangos effaith hyn.

Ble a phryd mae'r gwaith yn cael ei wneud?

Mae'r dull hwn wedi'i wreiddio gan yr elusen ar ei safleoedd ledled Cymru.

Mae'r gwaith yn dal i fynd wrth i Credu barhau i ddatblygu ei ymarfer.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae gan Credu ei dîm ei hun o fentoriaid ac mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol yn y pum sir y mae'n eu cefnogi - Powys, Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion.

Mae Credu hefyd yn gweithio gyda'r byrddau iechyd, y trydydd sector a chymunedau lleol yn yr ardaloedd hyn.

Mae tîm gwella Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cefnogi'r prosiect drwy ddod â mentoriaid o bob rhan o Gymru ynghyd, i rannu ymarfer a thrafod gydag eraill sut maen nhw'n hyrwyddo ac yn gweithredu'r dull hwn.

Beth maen nhw wedi'i ddysgu o'r gwaith?

Un o'r prif bethau mae tîm Credu wedi'i ddysgu o'r prosiect hwn yw bod angen sylw a sbardun o'r arweinwyr o fewn sefydliad ar y ffordd hon o weithio.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Credu Becky Evans: "Mae angen i bobl ddeall pam ei fod yn gwneud gwahaniaeth.

"Mae angen i chi edrych ar y systemau a'u newid fel eu bod yn eich helpu chi i weithio fel hyn yn hytrach na mynd yn y ffordd."

Logo Gwobrau 2024

Ennillydd yng Ngwobrau 2024

Enillodd Becky Evans y wobr 'Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau' yng Ngwobrau 2024 yn ei rôl flaenorol fel arweinydd tîm Powys.

Cafodd Becky ei henwebu gan Gydlynydd Ymgyrchoedd Credu, Sally Duckers, am fod yn "sbardun cryf yn ein sefydliad o ran arfer sy'n seiliedig ar gryfderau".

Dywedodd Sally fod Becky wedi defnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau yn ei holl ryngweithio â rheolwyr, ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, comisiynwyr a chyllidwyr y sefydliad.

Ychwanegodd Sally fod Becky wedi addasu systemau'r sefydliad i ddal straeon gofalwyr di-dâl, yn enwedig eu cryfderau, a diolch i waith Becky, mae lleisiau gofalwyr bellach wrth wraidd gwaith y mudiad.

Hefyd, creodd Becky ‘Stori’r Gofalwr', astudiaeth achos sy'n dangos effaith gwaith y sefydliad gyda gofalwyr di-dâl, gan gydnabod y cryfderau a'r rhwydweithiau cymorth y mae teuluoedd yn eu cynnig i'w straeon eu hunain.

Trawsgrifiad y fideo - Cliciwch i ehangu

Becky Evans, Rheolwr Tim

Rwy'n cefnogi'r tîm o fewn Powys. Y gweithwyr allgymorth, y cynghorwyr, y gwirfoddolwyr a'r gofalwyr i wneud y gwaith gorau posibl.

Boed hynny'n edrych ar ôl rhywun yn eu cartref neu cefnogi llwyth achos o bobl neu cefnogi rhywun mewn rôl cwnsela.

Sally Duckers, Gweithiwr Allgymorth

Felly, un o'r prif resymau a enwebais Becky yn benodol oedd ei bod hi wedi bod yn allweddol iawn yn newid y ffordd yr ydym yn cofnodi ein hymyriadau gyda gofalwyr fel ein bod nawr yn canolbwyntio yn wirioneddol ar gryfderau'r person hwnnw yn gyntaf ac yn bennaf.

Ruth Jenkins, Gweithiwr Allgymorth

Mewn sgyrsiau gyda Becky, rydw i wedi cael caniatâd i ac wedi fy annog i archwilio'r pethau sydd o ddiddordeb mawr i mi.

Os yw'n mynd i gael effaith gadarnhaol i ofalwyr a'r bobl rwy'n gweithio gyda nhw, rwy'n cael fy annog i ddod â hynny i'r rôl.

Becky Evans

Rwyf wrth fy modd â’r hyfforddiant yn y gweithdy datblygu yr wyf yn ei wneud a helpu pobl i adeiladu ar y cryfderau sydd ganddyn nhw yn barod ond hefyd i wella'r pethau nad ydyn nhw'n gwneud cystal.

Mae'n ymwneud â'r hyn y maent yn canolbwyntio ar yn tyfu. Felly, maen nhw'n canolbwyntio ar y cryfderau yn yr ystafell, ac maen nhw'n ennill gwybodaeth oddi wrth ei gilydd, yn ogystal â'r profiad a rennir yn yr ystafell. Felly dwi wir yn mwynhau y rhan honno o fy swydd.

Kim Spelman, Gofalwr Gwirfoddol

Rwyf wedi gweld amryw o ofalwyr dros y blynyddoedd rwyf wedi bod o gwmpas Credu ac rydw i wedi eu gweld yn tyfu.

Mae i gyd yn gredyd i'r gwaith mae Becky yn ei wneud oherwydd mae hi'n gallu dod â phethau allan nad oeddech chi'n gwybod oedd gennych chi.

Sut i gysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Becky ar becky@credu.cymru, neu ewch i wefan Credu.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

http://credu.cymru

Contact name:

Becky Evans

Email address:

becky@credu.cymru