Defnyddio methodolegau DEEP i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot
Dyddiad diweddaru diwethaf: 8 Mai 2024
Beth yw'r prosiect?
Defnyddio methodolegau Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i wella gwasanaethau a chanlyniadau i bobl sy’n cael eu cefnogi gan wasanaethau cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r gwaith hwn yn annog defnyddio'r dulliau 'newid mwyaf arwyddocaol' a 'chymuned ymholi' i ddatblygu ymarfer a llywio polisi.
Mae’r newid mwyaf arwyddocaol yn ddull o gasglu ac archwilio canlyniadau ‘newid’ drwy straeon, tra bod cymuned ymholi’n galluogi pobl i greu ac archwilio cwestiynau mewn ymateb i dystiolaeth.
Mae cymuned ymholi yn galluogi pobl i greu ac archwilio cwestiynau mewn ymateb i dystiolaeth.
Pam mae'n cael ei gynnal?
Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar waith partneriaeth blaenorol Castell-nedd Port Talbot gyda'r Athro Fiona Verity a Nick Andrews yng nghyn-Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch defnyddio tystiolaeth mewn ymarfer.
Mae'r tîm wedi canolbwyntio ar gasglu ac ymgysylltu â thystiolaeth 'profiad byw' gan y bobl y maen nhw’n eu cynorthwyo, gyda'r nod o wella canlyniadau iddyn nhw.
Mae hyn yn cyd-fynd â'u gwaith presennol yn ymwneud â datblygu ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau personol, sy'n gosod llais y bobl y maen nhw’n eu cefnogi wrth wraidd penderfyniadau am eu gofal.
Ble a phryd mae'r gwaith yn cael ei wneud?
Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud yn bennaf yng ngwasanaethau plant Castell-nedd Port Talbot, ond mae bellach wedi'i ymestyn i wasanaethau oedolion.
Ers mis Ebrill 2023, mae'r tîm wedi dysgu o straeon ymarferwyr, rhieni, teuluoedd a phlant mewn cyfres o baneli casglu a dethol straeon newid mwyaf arwyddocaol.
Mae ymarferwyr a rhieni wedi cyflawni hyfforddiant DEEP hefyd.
Pwy sy'n cymryd rhan?
Mae gan y prosiect gefnogaeth cyfarwyddwr ac uwch dîm rheoli'r awdurdod lleol ac mae wedi cael ei sbarduno gan weithwyr cymdeithasol ymgynghorol yng ngwasanaethau cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r gwaith wedi cynnwys rheolwyr, ymarferwyr a'r bobl maen nhw'n eu cefnogi, gan gynnwys aelodau o'r Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni (PAN).
Beth maen nhw wedi'i ddysgu hyd yn hyn?
Mae'r tîm wedi dysgu ei bod yn ymddangos bod eu canfyddiadau’n adlewyrchu adolygiadau cenedlaethol ymarfer plant.
Er bod archwiliadau o ffeiliau achos yn digwydd, maen nhw’n adlewyrchu barn ymarferwyr yn aml. Mae'r newid mwyaf arwyddocaol yn tynnu sylw at deimladau rhieni a phlant, sydd wedi helpu sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' a datblygu polisi ac ymarfer cysylltiedig.
Mae ffyrdd perthynol o weithio – fel y newid mwyaf arwyddocaol neu gymuned ymholi – yn cefnogi gwell canlyniadau i bobl nag ymarfer sy'n cael ei sbarduno gan broses, sy'n aml yn amhersonol ac yn amharod i wynebu risg.
Mae pobl sy'n ymwneud â'r gwaith hwn wedi gweld bod y straeon sy’n cael eu casglu yn adlewyrchu cymhlethdod a dyngarwch bywydau pobl a sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn effeithio arnyn nhw.
Mae'r dull hwn a'r gwaith hyd yma wedi gwneud cyfraniad sylweddol at newid diwylliannol yn y gyfarwyddiaeth.
Mae'n cefnogi meithrin perthynas ar draws y sefydliad ac mae wedi dod â dealltwriaeth ddyfnach o'r hyn sy'n bwysig i bobl, a'r ffordd orau i'w cefnogi.
Darganfod mwy
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carla Dewick yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.
Darganfod mwy
Contact name:
Carla Dewick