ENACT: Gwerthuso hyfforddiant staff a gweithredu'r Ddeddf Galluedd Meddyliol mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Ebrill 2024
Beth yw'r prosiect?
Mae'r astudiaeth Gwella Gweithredu'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, neu ENACT, yn cael ei harwain gan Brifysgol Sheffield a'i nod yw gwella sut mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cael ei rhoi ar waith a'i defnyddio mewn cartrefi gofal.
Bydd yn gwneud hyn drwy archwilio ymchwil presennol a chasglu data ar sut mae sefydliadau'n defnyddio'r Ddeddf wrth greu a chynnal hyfforddiant i'w staff, yn ogystal â sut maen nhw’n rhoi'r hyfforddiant hwn ar waith.
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar yr effaith y mae hyn yn ei chael ar breswylwyr a pherthnasau, a'r hyn y maen nhw’n meddwl sy'n gweithio'n dda a ddim cystal.
Bydd yn cyflawni'r nodau hyn trwy bedwar darn o waith: adolygiad o'r ymchwil a wnaed hyd yma yn y maes hwn, archwiliad cenedlaethol o hyfforddiant mewn cartrefi gofal, astudiaethau achos sy'n edrych ar ofal mewn cartrefi gofal, a llunio canllawiau arfer gorau mewn gweithdai ar y cyd.
Pam mae’n cael ei gynnal?
Cyflwynwyd y Ddeddf yng Nghymru a Lloegr i gynorthwyo pobl sy'n cael anawsterau gyda'u cof, cyfathrebu neu ddealltwriaeth i wneud penderfyniadau pwysig. Mae'n bwysig i staff sy'n gweithio gyda phreswylwyr cartrefi gofal sydd â dementia.
Mae pryderon nad oes gan staff cartrefi gofal ddealltwriaeth dda o'r Ddeddf bob amser, sy'n golygu efallai na fydd ganddyn nhw’r sgiliau na'r wybodaeth bob amser i gynorthwyo preswylwyr â dementia yn briodol.
Mae'r astudiaeth hon yn gobeithio cael effaith uniongyrchol ar bobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal ledled Cymru a Lloegr, gan nodi arfer gorau ar gyfer hyfforddi staff.
Bydd yn llunio argymhellion ac arweiniad ar gyfer cartrefi gofal. Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at welliannau mewn gofal i breswylwyr, a'r perthnasau sy'n eu cefnogi.
Bydd y tîm y tu ôl i'r astudiaeth yn llunio crynodebau hawdd eu darllen o'u canfyddiadau allweddol, yn ogystal ag adnoddau eraill fel ffeithluniau, posteri neu fideos.
Ble a phryd mae'r gwaith yn cael ei wneud?
Mae cartrefi gofal ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn gymwys i gymryd rhan yn yr ymchwil hon.
Gall cartrefi gofal gymryd rhan drwy anfon e-bost at enact@sheffield.ac.uk.
Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2023 a bydd yn cael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2026.
Pwy sy'n cymryd rhan?
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Sheffield a'i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn aelod o Grŵp Ymchwil Rhanddeiliaid y prosiect ac mae'n cynghori ar ddylunio a darparu pob pecyn gwaith.
Mae'r tîm y tu ôl i'r astudiaeth yn gobeithio y bydd gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi, yn cefnogi’r broses o roi ei ganfyddiadau ar waith.
Beth maen nhw wedi'i ddysgu hyd yn hyn?
Mae'r astudiaeth yn dal i fod yn ei chamau cynnar, ond un o'r heriau y mae'r tîm wedi'i hwynebu yw sicrhau bod eu harolygon gyda staff cartrefi gofal yn hygyrch ac nid yn faich i'w cwblhau.
Er mwyn goresgyn yr her hon, maen nhw wedi gweithio'n agos gyda rheolwyr cartrefi gofal a grŵp cynghori lleyg - sy'n cynnwys aelodau'r cyhoedd sydd â diddordeb personol yn y pwnc ymchwil - i lunio'r arolwg mewn ffordd sy'n hyrwyddo hygyrchedd a defnydd rhwydd.
Darganfod mwy
I gymryd rhan yn yr ymchwil neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Alys Griffiths a Dr Louis Stokes o adran niwrowyddoniaeth Prifysgol Sheffield ar enact@sheffield.ac.uk.
Darganfod mwy
Contact name:
Dr Alys Griffiths a Dr Louis Stokes