Skip to Main content

Gwaith Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru

Dyddiad diweddaru diwethaf: 26 Gorffennaf 2024

Beth yw’r prosiect?

Mae Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru (Hwb CARh) yn cydlynu gweithgareddau ymchwil, arloesi a gwella yng Ngogledd Cymru ynghylch sut y gall gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wella’r ffordd y maen nhw'n gweithio gyda’i gilydd.

Un o’r cyrff y mae’r Hwb CARh yn ei gefnogi yw Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru (BPRhP). Mae’r hwb yn dwyn ynghyd ymchwil, ystadegau a straeon plant a theuluoedd ym mhob un o feysydd blaenoriaeth y BPRhP. Eleni cyhoeddodd ganfyddiadau ei ffocws ar anabledd a salwch.

Roedd hefyd yn canolbwyntio ar niwroamrywiaeth. Ar gyfer hyn, sefydlodd grŵp llywio bach a chododd cwestiynau am yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau niwroddatblygiadol a'r ffyrdd gorau o gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd. Edrychodd ar ystod eang o dystiolaeth i geisio ateb y cwestiynau hyn a thynnodd y cyfan at ei gilydd mewn pecyn gwybodaeth 100 tudalen, gan gynnwys straeon gan deuluoedd am fyw gyda niwroamrywiaeth.

Fel rhan o weithdy yn seiliedig ar y pecyn gwybodaeth, gwyliodd y BPRhP fideo am brofiadau teulu lleol o aros am asesiad niwroddatblygiad.

Archwiliodd y BPRhP gwestiynau am sut y gallai aelodau gydweithio’n well i ddarparu cymorth.

Pam mae’n cael ei gynnal?

Gall gymryd amser hir i gael asesiad i weld a oes gan blentyn neu berson ifanc gyflwr niwroddatblygiadol.

Un ffordd yr hoffai’r BPRhP wella’r broses hon yw cefnogi plant a theuluoedd yn seiliedig ar yr anghenion sydd ganddyn nhw yn hytrach na’r diagnosis. Maen nhw’n galw’r ymagwedd hon yn ‘drws cywir’. Ble bynnag ewch chi i ddod o hyd i gefnogaeth - yn yr ysgol, gwasanaeth cymunedol, gwasanaeth cymdeithasol, neu wasanaeth iechyd - fe gewch chi help. Mae hefyd yn rhan o’r egwyddorion craidd a nodir yn fframwaith NYTH.

Mae’r Hwb CARh yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn Cymru Iachach i sefydlu rhwydwaith o hybiau sydd wedi’i gydlynu yn genedlaethol i lywio modelau integredig newydd o iechyd a gofal cymdeithasol.

Ble a phryd mae'r gwaith yn digwydd?

Cafodd yr Hwb CARh ei lansio ym mis Mawrth 2020 ac mae’n cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2025, ond y gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn gallu parhau y tu hwnt i hynny.

Mae’r ffocws ar niwroamrywiaeth wedi dod i ben, ond mae’r hwb yn parhau i weithio gyda’r BPRhP i helpu i sicrhau bod y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd yng Ngogledd Cymru. Er enghraifft, drwy gefnogi gwaith i wella rhannu gwybodaeth fel y gall sefydliadau gydweithio’n well i gefnogi teuluoedd â niwroamrywiaeth.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae’r Hwb CARh yn gwahodd pobl sy’n ymwneud ag unrhyw brosiectau ymchwil, arloesi neu wella iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gydag ef i hyrwyddo eu gwaith a gwneud cysylltiadau â phrosiectau eraill.

Mae’n cefnogi Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant.

Mae’r Hwb CARh wedi bod yn arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o ddod â phobl ynghyd i ddysgu a dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio. Gan adeiladu ar ei waith blaenorol gyda’r prosiect Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP), mae Lab Cyd-gynhyrchu Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r hwb fel hwylusydd i ddod o hyd i atebion creadigol i gael y gorau o gyfarfodydd.

Beth maen nhw wedi'i ddysgu o'r gwaith?

Rhai o’r themâu a ddeilliodd o’r drafodaeth ar niwroamrywiaeth oedd:

  • pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol
  • cael ‘llais y teulu’ wrth galon cynllunio a darparu gwasanaethau
  • yr angen am systemau data effeithiol, gan alluogi rhannu data a darparu darlun cyfoethog i lywio penderfyniadau
  • heriau diwylliannol cydweithio aml-asiantaeth effeithiol
  • pwysigrwydd meithrin perthnasoedd a sefydlu ymddiriedaeth, i bob cyfeiriad.

O’r gwaith hwn, dysgodd yr hwb a’r BPRhP hefyd fod llawer yn digwydd eisoes i geisio gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc niwroamrywiol yng Ngogledd Cymru. Mae rhai enghreifftiau i’w gweld ar dudalen we niwroddatblygiad ffocws y BPRhP ar blant a phobl ifanc.

Roedd yr Hwb CARh yn gobeithio cynhyrchu pecyn gwybodaeth cryno am niwroamrywiaeth mewn plant. Ond fe wnaethon nhw ddarganfod bod cymhlethdod y pwnc yn golygu bod 100 tudalen mor fyr ag y gallen nhw ei gael heb golli gwybodaeth allweddol.

Sut i gysylltu

I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Sarah Bartlett yn Hwb CARh Gogledd Cymru.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

Contact name:

Sarah Bartlett