Skip to Main content

Gwella cymorth i bobl awtistig yn Wrecsam

Dyddiad diweddaru diwethaf: 14 Medi 2026

Beth yw'r prosiect?

Nod y prosiect hwn gan Potens yw helpu staff mewn cartref preswyl yn Wrecsam i ddarparu cymorth gwell i bobl awtistig.

Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar weithio tuag at Wobr Arbenigedd Awtistiaeth y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, gyda'r nod o wreiddio ymarfer person-ganolog o ansawdd uchel.

Mae'r wobr yn darparu fframwaith cydnabyddedig ar gyfer gwella canlyniadau ansawdd bywyd drwy gyfranogiad ystyrlon a gwell dealltwriaeth.

Prif ffocws y gwaith yw sicrhau bod lleisiau'r bobl sy'n derbyn cymorth yn cael eu clywed.

Pam mae'r gwaith yn cael ei wneud?

Mae'r gwaith yn cael ei wneud i wella ansawdd, cysondeb ac effaith y cymorth sy'n cael ei ddarparu i bobl awtistig, gan sicrhau bod ymarfer yn cyd-fynd â safonau rhagoriaeth sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Pan gymerodd Potens gyfrifoldeb am y cartref am y tro cyntaf, roedden nhw am fynd i'r afael â nifer y digwyddiadau a oedd yn deillio o rwystredigaeth, gyda'r teimlad nad oedd preswylwyr yn gallu cyfathrebu yn y ffyrdd roedden nhw'n eu ffafrio.

Roedd Potens hefyd yn teimlo bod angen gwella'r ffordd yr oedd anghenion synhwyraidd preswylwyr yn cael eu diwallu a'u mynediad at y gymuned, felly daeth y rhain yn feysydd ffocws allweddol.

Nod y prosiect yw gwella cyfathrebu a chanlyniadau, lleihau gorbryder a nifer y digwyddiadau heriol, a datblygu sgiliau newydd a ffyrdd newydd o weithio.

Ble a phryd mae'r gwaith yn digwydd?

Mae'r prosiect yn cael ei gynnal mewn cartref preswyl sy'n eiddo i Potens yn Wrecsam.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Chwefror 2027.

Ar ddiwedd y prosiect, bydd panel allanol yn penderfynu a fydd y wobr yn cael ei dyfarnu, yn dilyn cyfres o asesiadau ac ymgysylltu â theuluoedd, staff a'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae Potens wedi ariannu'r prosiect ac wedi gweithio gyda chydweithwyr ym maes therapi lleferydd ac iaith a chymorth ymddygiad cadarnhaol i'w gyflawni.

Cawson nhw gymorth hefyd gan wasanaeth anogaeth arloesedd Gofal Cymdeithasol Cymru. Trwy gyfres o weithdai, helpodd y gwasanaeth y tîm i feddwl yn wahanol am sut i ddatblygu syniadau ar gyfer gwella.

Beth maen nhw wedi'i ddysgu?

Mae'r tîm yn dweud mai'r prif fudd hyd yma yw gwell cyfathrebu rhwng staff a'r bobl sy'n cael mynediad at gymorth.

Mae grŵp gweithredu ansawdd, sy'n cynnwys pedwar gweithiwr cymorth ac arweinydd tîm, wedi'i sefydlu i arwain ar wahanol agweddau ar y gwaith. Defnyddir sesiynau briffio boreol, ymarfer ac hyfforddiant i gyfathrebu unrhyw newidiadau i'r tîm ehangach.

Maen nhw wedi gweithio gyda chydweithwyr therapi lleferydd ac iaith i gyflwyno adnoddau gweledol newydd, llyfrau cyfathrebu ac iPads. Mae'r rhain yn helpu i roi strwythur i drefniadau dyddiol preswylwyr ac yn eu galluogi i wneud mwy o benderfyniadau am eu gweithgareddau eu hunain, fel beth i'w fwyta.

Mae'r newidiadau hyn wedi helpu preswylwyr i fynegi sut maen nhw'n teimlo yn well, ac wedi arwain at lai o ddigwyddiadau, llai o orbryder a gwell ansawdd bywyd.

Yn ddiweddar, aeth un preswylydd ar ei wyliau cyntaf ers dros 10 mlynedd, a dechreuodd preswylydd arall ei swydd wirfoddoli gyntaf erioed.

Cysylltwch

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â Jamie Wadman yn Potens ar jamie.wadman@potens-uk.com.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

Contact name:

Jamie Wadman