
Gwerthuso effaith yr elusen People Speak Up
Dyddiad diweddaru diwethaf: 29 Gorffennaf 2025
Beth yw'r prosiect?
Mae People Speak Up yn elusen gymdeithasol, iechyd meddwl, celfyddydau, iechyd a llesiant cymunedol.
Mae'n cysylltu cymunedau trwy adrodd straeon, ysgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol.
Mae'r elusen yn cynnig gweithdai, hyfforddiant a digwyddiadau, yn ogystal â chyfleoedd i wirfoddoli a sgyrsiau.
Mae hyn yn cynnwys trefnu grwpiau ar gyfer pobl â dementia a'u gofalwyr, grwpiau pobl ifanc, grŵp sgwrs dynion ac amrywiaeth o weithgareddau eraill.
Datblygodd People Speak Up brosiect i werthuso ei effaith trwy gasglu straeon gan bobl a fynychodd rai o'r gwahanol grwpiau maen nhw'n eu cynnig.
Gweithiodd yr elusen gyda Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i wneud hyn, gan ddefnyddio'r dull newid mwyaf arwyddocaol.
Mae newid mwyaf arwyddocaol yn casglu straeon i ddeall yr hyn sydd wedi newid i bobl o ganlyniad i fenter neu ymyrraeth. Gall y dysgu o'r straeon gael ei archwilio gan baneli o bobl sy'n trafod y straeon ac yn dewis pa un maen nhw'n teimlo yw'r stori fwyaf arwyddocaol.
Pam y cafodd ei gyflawni?
Un o brif nodau'r sefydliad yw hyrwyddo iechyd a llesiant trwy ymarfer creadigol. Mae'n gwneud hyn trwy ddefnyddio dulliau adrodd straeon i gefnogi pobl i ddod o hyd i'w lleisiau.
Nod y sesiynau yw cryfhau'r ymdeimlad o gymuned a mynd i'r afael ag unigrwydd. Gall hyn gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant y bobl sy'n cymryd rhan.
Cafodd y prosiect gwerthuso ei gynnal i ddangos yr effaith mae People Speak Up yn ei gael.
Ble a phryd cafodd y gwaith ei wneud?
Cafodd y prosiect ei gynnal rhwng Hydref 2023 a Mawrth 2024, ac mae'r elusen wedi'i lleoli yn Llanelli.
Pwy oedd yn rhan o'r gwaith?
Mae'r elusen wedi cael ei chefnogi gan DEEP, sy'n cael ei ariannu gan Ofal Cymdeithasol Cymru.
Beth maen nhw wedi'i ddysgu?
Mae'r tîm People Speak Up wedi dysgu eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, trwy gysylltu cymunedau trwy adrodd straeon, ysgrifennu creadigol a'r celfyddydau cyfranogol.
Mae cyfranogwyr wedi tynnu sylw at y ffaith bod lle i gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi helpu i leihau unigrwydd.
Dywedodd tîm y prosiect fod yr angen am gysylltiad yn y gymuned yn cynyddu, a bod angen i fynediad at wasanaethau cefnogol fod ar gael i bawb, i fynd i'r afael ag unigrwydd, ynysu a chefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Sut i gysylltu
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Eleanor Shaw ar eshaw@peoplespeakup.co.uk.
Darganfod mwy
Contact name:
Eleanor Shaw