Helpu pobl hŷn yng nghymuned ffermio Powys i aros yn ddiogel, yn annibynnol ac yn gysylltiedig
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Hydref 2026
Beth yw'r prosiect?
Mae Mamwlad yn wasanaeth ymweld â chartrefi am ddim sy'n helpu'r gymuned ffermio ym Mhowys i barhau i fyw gartref yn ddiogel ac yn annibynnol.
Mae'r brosiect yn cael ei ddarparu gan Care & Repair ym Mhowys ac Age Cymru Powys i helpu pobl dros 50 oed yn y gymuned ffermio i barhau i fyw gartref yn ddiogel ac yn annibynnol, ac i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi ffermwyr, gweithwyr fferm a phobl sydd wedi ymddeol o ffermio.
Mae gweithwyr achos y prosiect eu hunain yn dod o gefndir ffermio, sy'n eu helpu i ddeall yr heriau y gall pobl eu hwynebu a meithrin perthnasoedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth.
Mae Care & Repair ym Mhowys yn darparu cyngor i breswylwyr ynghylch opsiynau i addasu, atgyweirio a chynnal a chadw eu cartref, dim ots ydyn nhw'n berchen arno neu'n ei rentu. Mae Care & Repair ym Mhowys hefyd yn cynnig:
- Asesiad Cartref Iach am ddim i helpu i nodi risgiau a gwella effeithlonrwydd ynni
- cyfleoedd i wneud addasiadau i'r cartref, fel gosod gafaelion yn yr ystafell ymolchi neu reiliau ychwanegol ar y grisiau
- cymorth i ganfod cefnogaeth dechnegol, cyllid neu gontractwyr dibynadwy, a sicrhau bod preswylwyr yn fodlon ar unrhyw waith sy'n cael ei gyflawni.
Gall Age Cymru Powys gynnal gwiriad budd-daliadau cyfrinachol am ddim a darparu cymorth i lenwi ffurflenni budd-daliadau lles. Mae hefyd yn cynnig:
- gwasanaethau cyfeillio, wedi'u darparu gan wirfoddolwyr Age Cymru
- cefnogaeth iechyd meddwl i leihau straen
- cefnogaeth leol ar gyfer cymorth ymarferol o amgylch y cartref
- cynllunio nodau diweddarach mewn bywyd a pharatoi ar gyfer y dyfodol
- eiriolaeth a chymorth i breswylwyr sicrhau bod eu dymuniadau'n cael eu clywed.
Gall preswylwyr hefyd gael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau hyn.
Pam mae'r gwaith yn cael ei gyflawni?
Mewn arolwg a gynhaliwyd yn Sioe Llangurig, dywedodd pobl o'r gymuned ffermio fod hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau mewn ardaloedd gwledig.
Dyma rai o'r pethau a ddywedon nhw:
- "Mae angen i wasanaethau fod yn fwy gweladwy mewn cymunedau gwledig."
- "Dydy pobl ddim yn gwybod pa gymorth sydd ar gael."
- "Alla i ddim cael mynediad at y rhyngrwyd."
- "Mae pethau'n costio arian ac nid oes gan lawer o bobl arian dros ben i dalu biliau."
- "Mae angen symud cyn i bethau fynd yn rhy anodd."
- "Dw i eisiau ffermio cyhyd ag y bydda i'n gallu."
Defnyddiwyd y wybodaeth hon i gefnogi cais cychwynnol am gyllid i sefydlu'r gwasanaeth.
Nod y prosiect yw helpu pobl hŷn ym Mhowys sy'n wynebu arwahanrwydd i gael mynediad at wasanaethau cymorth a all wella ansawdd eu bywyd.
Yn aml, mae gan bobl yn y gymuned ffermio gysylltiad cryf â'u hardal leol, felly mae aros yn eu cartrefi cyhyd â phosibl yn bwysig iawn iddyn nhw. Mewn llawer o achosion, mae'r un teulu wedi byw a gweithio ar y tir dros sawl cenhedlaeth.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar y bobl hyn, sy'n aml yn annibynnol iawn ac yn gallu bod yn amharod i ofyn am gymorth.
Dyna pam aeth y prosiect ati i ddarparu'r gwasanaethau wyneb yn wyneb, yn bennaf drwy ymweliadau cartref, ble bynnag y mae'r cartref hwnnw.
Ble a phryd mae'r gwaith yn digwydd?
Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni ym Mhowys a bydd yn rhedeg rhwng 2020 a 2027.
Pwy sy'n rhan o'r gwaith?
Mae'r prosiect yn cael ei ddarparu gan Care & Repair ym Mhowys ac Age Cymru Powys, ac mae wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Beth maen nhw wedi'i ddysgu?
Ers mis Ebrill 2020, mae'r prosiect wedi cefnogi 1,604 o bobl hŷn o'r gymuned ffermio ym Mhowys ac wedi nodi 874 o bobl eraill sydd wedi elwa'n anuniongyrchol o'r gwaith. Gallai'r rhain fod yn aelodau o'r teulu sy'n byw yn yr un cartref ac sydd wedi elwa ar addasiadau i'r cartref neu gynnydd yn incwm y cartref, neu berthnasau a gofalwyr eraill sydd bellach yn gweld hi'n haws helpu gyda gofynion dyddiol yr unigolyn.
Mae hyn yn dangos effaith ehangach y prosiect, sydd o fudd nid yn unig i unigolion ond hefyd i'w teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae Mamwlad wedi helpu'r bobl y mae'n eu cefnogi i hawlio mwy na £1.8 miliwn mewn budd-daliadau lles. Mae hefyd wedi cynnal dros 700 o Asesiadau Cartref Iach am ddim a chwblhau mwy na 600 o addasiadau i gartrefi i helpu pobl i aros yn ddiogel gartref.
Un o'r gwersi pwysicaf o'r prosiect yw pwysigrwydd meithrin cysylltiadau a chwrdd â phobl yn eu cymunedau eu hunain. Ar ddechrau'r prosiect, treuliodd gweithwyr achos amser yn ymgysylltu â'r gymuned ffermio ac yn adeiladu cysylltiadau â sefydliadau sy'n cefnogi ffermwyr.
Roedd hyn yn cynnwys pethau fel mynd i sioeau amaethyddol lleol a siarad â milfeddygon a siopau bwyd anifeiliaid. Maen nhw wedi mynd i 41 o sioeau a digwyddiadau amaethyddol ac wedi siarad â mwy na 900 o bobl am y prosiect. Mae'r digwyddiadau wyneb yn wyneb hyn wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect.
Hyd yma, pandemig Covid-19 oedd yr her fwyaf i'r prosiect. Bu'n rhaid iddo addasu i gyfyngiadau newydd ar gyswllt wyneb yn wyneb cyn dychwelyd at gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn 2023.
Cysylltwch
I gael mwy o wybodaeth am Mamwlad, e-bostiwch Debbie Brooks ar dbrooks@crpowys.co.uk.
Darganfod mwy
Gwefan y prosiect:
Contact name:
Debbie Brooks