
Iechyd a gofal integredig yn y Borth
Dyddiad diweddaru diwethaf: 2 Awst 2024
Beth yw'r prosiect?
Mae'r prosiect hwn yn defnyddio dull tîm amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar y claf i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal integredig i gleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Borth yng Ngheredigion.
Mae cymuned y Borth a'r ardal gyfagos yn gartref i lawer o bobl hŷn, yn ogystal â phoblogaeth ffermio wledig. Mae'r grŵp hwn yn aml yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gryn amser ar ôl i'w hanghenion iechyd neu ofal cymdeithasol ddod i’r amlwg.
Mae gan y gymuned feddygfa a dwy fferyllfa gymunedol, yn ogystal â nifer o dimau iechyd a gofal cymunedol. Mae'r timau cymunedol yn cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Ceredigion, yn ogystal â nifer o sefydliadau trydydd sector.
Yn hanesyddol, nid oes llawer o gydlyniad wedi bod rhwng y gwahanol sefydliadau wrth gynnig cefnogaeth i unigolion yn y gymuned. Mae hyn wedi arwain at ddyblygu gwaith, mwy o alw ar sefydliadau iechyd a gofal statudol, amseroedd aros hirach, a dirywiad mewn iechyd a llesiant.
Cafodd y prosiect ei sefydlu i drawsnewid y ffordd roedd y gwahanol sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd. Trwy alluogi'r gymuned leol, gan gynnwys partneriaid statudol ym maes iechyd a gofal, i gydweithio, nod y prosiect oedd gwella iechyd a llesiant y boblogaeth leol.
Pam y cafodd ei gyflawni?
Cynyddodd y pandemig COVID-19 anghenion iechyd a gofal cyffredinol y boblogaeth, amseroedd aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, a heriau recriwtio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y galw cynyddol am feddygaeth deulu yn golygu bod llai o glinigwyr gofal sylfaenol ar gael i reoli anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cleifion yn y gymuned. Arweiniodd hyn at fwy o atgyfeiriadau at wasanaethau gofal iechyd ychwanegol a gwasanaethau awdurdod lleol.
Nod y prosiect oedd datblygu gwaith tîm amlasiantaethol gwell yn y gymuned. Cafodd hyn ei gyflawni drwy sefydlu cyfarfod tîm amlasiantaethol wythnosol rheolaidd a chyflogi cydlynydd gofal clinigol i gydlynu gofal cleifion a chadeirio'r cyfarfodydd.
Mae’r cyfarfodydd tîm amlasiantaethol yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams ac maen nhw’n para awr. Bwriad y cyfarfodydd oedd darparu gofal amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar y claf a’r hyn sy’n bwysig i'r unigolyn. Gallai unrhyw aelod o'r tîm amlasiantaethol drafod unrhyw glaf a oedd wedi cofrestru gyda Meddygfa Borth yn y cyfarfod wythnosol.
Cafodd y cleifion a drafodwyd yn y cyfarfodydd tîm amlasiantaethol eu rhannu’n grwpiau at ddibenion gwerthuso er mwyn gweld effeithiolrwydd y tîm amlasiantaethol ar bob grŵp. Rhannwyd cleifion yn seiliedig ar natur eu hachos neu sut daethon nhw i gysylltiad â'r tîm amlasiantaethol i ddechrau.
Ble a phryd cafodd y gwaith ei wneud?
Mae'r prosiect wedi'i gwblhau, ond mae'r cyfarfod tîm amlasiantaethol yn parhau i gael ei gynnal yn wythnosol. Cafodd y cyfarfodydd hyn eu cynnal am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2022.
Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar boblogaeth Meddygfa Borth yng Ngheredigion.
Pwy oedd yn rhan o'r gwaith?
Rhai o'r sefydliadau cymerodd rhan oedd:
Beth maen nhw wedi'i ddysgu?
Mae'r canlyniadau’n dangos:
- gostyngiad yng nghymhlethdod anghenion gofal cleifion sy’n cael ei atgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol
- cynnydd yn y gefnogaeth roedd cleifion yn ei chael gan y trydydd sector
- llai o ddyblygu prosesau yn y gwahanol asiantaethau
- mwy o bobl yn derbyn gofal diwedd oes disgwyliedig yn y gymuned yn hytrach nag yn yr ysbyty
- cynnydd yn sgoriau iechyd meddwl a llesiant cleifion
- gwelliant o ran boddhad swydd staff
- gostyngiad sylweddol yn hyd arhosiad cleifion yr oedd y broses o’u rhyddhau o'r ysbyty yn cael ei rheoli trwy'r cyfarfodydd tîm amlasiantaethol
- gostyngiad sylweddol mewn apwyntiadau meddyg teulu ar gyfer cleifion cafodd eu hanghenion wedi'u diwallu gan y cyfarfodydd tîm amlasiantaethol
- mwy o ddefnydd o dechnoleg i alluogi cleifion i fynychu'r cyfarfodydd tîm amlasiantaethol.
Wynebodd y tîm nifer o heriau yn ystod y prosiect. Fe wnaethon nhw oresgyn llawer o'r rhain, ond mae rhai’n parhau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- gweithio seilo – roedd gwaith tîm amlasiantaethol yn heriol gan fod gwahanol systemau a phrosesau’n cael eu defnyddio ar draws sefydliadau, ac nid oedden nhw bob amser yn cyd-fynd. Roedd yna amharodrwydd cychwynnol hefyd i newid arferion gwaith. Gwnaeth y tîm reoli'r rhain drwy symleiddio prosesau ac annog risgiau cadarnhaol
- seilos ariannu – ffeindiodd y tîm fod cyllid yn aml yn canolbwyntio naill ai ar iechyd neu ofal, heb fawr o gyfle i sefydliadau gronni cyllid er budd yr unigolyn
- systemau TG yn rhwystro gwaith integredig – roedd waliau tân sefydliadol yn ei gwneud hi’n anodd rhannu gwybodaeth am brosiectau a chleifion yn electronig
- diffyg adnoddau - gwnaeth y prosiect nodi nifer o wasanaethau yr oedd eu capasiti’n gyfyngedig a gwasanaethau nad oedden nhw’n bodoli bellach.
Sut i gysylltu
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, ewch i wefan Comisiwn Bevan neu cysylltwch ag arweinydd y prosiect, Dr Sue Fish yn sue.fish@btinternet.com.
Darganfod mwy
Contact name:
Dr Sue Fish