Skip to Main content

MyST Model Preswyl – Caerffili

Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Ebrill 2024

Beth yw’r prosiect?

Enw'r prosiect yw 'Fy Nhîm Cymorth’, wedi ei dalfyrru i MyST (o My Support Team). 

Mae’n dod â gwahanol rwydweithiau ynghyd i helpu plant sy’n derbyn gofal i aros yn eu cymunedau lleol, neu dychwelyd iddynt.

Mae Prosiect Model Preswyl Caerffili yn canolbwyntio ar alluogi oedolion i fod y gorau a gallant fod wrth edrych ar ôl plant sydd wedi dioddef trawma a gofalu amdanynt. Ac mae hefyd yn rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a’u teuleuoedd gymryd rhan mewn gwaith seicolegol sy’n canolbwyntio ar adferiad a newid trwy ymarfer perthynol.

Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar bontio pobl ifanc allan o ofal preswyl i fewn i leoliadau cymunedol fel teulu neu ofal maeth.

Mae'r prosiect:

  • yn darparu gwasanaeth seicolegol dwys i bobl ifanc yng nghartrefi plant Caerffili
  • yn cefnogi staff preswyl i ddarparu gofal therapiwtig a datblygu diwylliant ymwybodol o seicoleg ar draws cartrefi plant Caerffili
  • yn gweithio i bontio pobl ifanc allan o ofal preswyl i leoliadau cymunedol fel teulu neu ofal maeth
  • yn cynnig cefnogaeth cofleidiol ar gyfer lleoliadau cymunedol ar ôl cyfnod pontio o gartref plant sy’n cael ei redeg gan awdurdod lleol
  • yn darparu ymgynghoriad seicolegol i weithwyr proffesiynol phobl ifanc mewn cartrefi gofal a phreswyl preifat
  • yn cynnwys teuluoedd biolegol ac yn cydnabod gwerth eu mewnbwn.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar Fodel Cymunedol MyST, sydd wedi bodoli ers dros 20 mlynedd ac wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc a’u rhwydwaith oedolion, ochr yn ochr ag arbedion ariannol.

Pam mae’n cael ei gynnal?

Mae awdurdodau lleol (ALl), sy’n gweithio gyda phobl ifanc mewn gofal preswyl, wedi pwysleisio ers blynyddoedd yr angen am ofal sy'n ystyriol o drawma. Yn ogystal â chyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu a gwella. Ac y dylai'r rhain fod yn rhan o’r hyn y mae pob cartref ALl yn ei gynnig i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r prosiect Model Preswyl MyST yn anelu at:

  • leihau risg sy'n cael ei gyflwyno ymhlith pobl ifanc â lefelau uchel o anghenion cymhleth
  • wella iechyd meddwl pobl ifanc yng nghartrefi plant Caerffili
  • gefnogi pobl ifanc i bontio o ofal preswyl i leoliadau cymunedol
  • ddatblygu arferion sy’n ystyriol o seicoleg a gofal therapiwtig ymysg staff preswyl
  • ddarparu cymorth argyfwng 24/7 drwy wasanaeth ar alwad i’r cartrefi preswyl.

Er mai megis dechrau yw'r tystiolaeth ynghylch y Model Preswyl, mae enghreifftiau gyda ni'n barod o ganlyniadau cadarnhaol a throsglwyddiadau llwyddianus o ofal preswyl i leoliadau cymunedol.

Ble a phryd mae’r gwaith yn cael ei wneud?

Mae’r gwaith yn digwydd yng Nghaerffili.

Dechreuodd Model Preswyl MyST ym mis Tachwedd 2020 gydag un ymarferydd yn cael ei neilltuo i weithio gyda chartrefi preswyl Caerffili yn Nhîm MyST Cymunedol Caerffili.

Mae’r tîm wedi ehangu ers hynny. Ac yn 2024 mae pedwar ymarferydd – un rheolwr ymarfer therapiwtig a thri ymarferydd therapiwtig arweiniol.

Mae gwaith y tîm hefyd yn gael ei gefnogi gan strwythyrau rhanbarthol o fewn rhaglen ehangach MyST.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Eiddo Bwrdd Partneriaeth Gwent yw'r prosiect MyST ac mae'n cael ei ariannu drwyddo. Mae’n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a’r teuluoedd.

Oherwydd llwyddiant Cymunedol MyST, mae’r Model Preswyl wedi derbyn cyllid craidd ar gyfer gwasanaethau plant. A rhai grantiau  sefydlu cychwynnol o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.

Beth maen nhw wedi'i ddysgu hyd yn hyn?

Mae’r tîm wedi dysgu gwersi pwysig o’u gwaith sefydlu a datblygu'r gwasanaeth ers 2020.

Mae rhai o’u dysgu allweddol yn cynnwys:

  • pwysigrwydd gwreiddio gwerthoedd a diwylliant, gan sicrhau bod staff yn teimlo eu bod wedi'u hyfforddi, eu cefnogi, eu goruchwylio a’u bod yn meddu ar y sgiliau i wneud eu gwaith
  • sut i ddylanwadu'n effeithiol ar gartrefi preswyl a gweithio gyda nhw mewn ffordd wirioneddol gydweithredol sy'n annog ymrwymiad ar bob lefel o'r sefydliad, o weithwyr gofal preswyl i Unigolion Cyfrifol
  • bod y model yn esblygu ac yn addasu i anghenion y timau pobl ifanc a staff – nid i'r gwrthwyneb
  • pwysigrwydd cydnabod a pharchu’r ffordd mae pobl yn gweithio'n gyfredol, pam eu bod yn ei wneud, â'u hybu i ymuno gyda thrywydd unedig y tîm
  • dod â phobl at ei gilydd i drafod risg a pherson ifanc, i gasglu syniadau da a meithrin perthnasoedd sy’n gwethfawrogi’r profiad y gall eraill gyfrannu at y sefyllfa
  • pwysigrwydd gweld pethau o safbwynt pobl eraill a'r gallu i ddod o hyd i dir canol.

Darganfod mwy

I wybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Rhydian Morris, Rheolwr Ymarfer Therapiwtig ar dîm Preswyl Caerffili neu Jennie Welham, Cyfarwyddwr Rhaglen Rhanbarthol MyST.

Darganfod mwy

Contact name:

Rhydian Morris

Email address:

morrir4@caerphilly.gov.uk