Peilot ap asesu poen deallusrwydd artiffisial yng nghartrefi gofal Gwent
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Ebrill 2024
Beth yw’r prosiect?
Roedd y prosiect hwn yn treialu’r defnydd o ap deallusrwydd artiffisial i ddarparu asesiadau llinell sylfaen o boen sy’n cael ei brofi gan bobl sydd â gallu cyfyngedig i gyfathrebu neu sydd methu cyfathrebu o gwbl mewn cartrefi gofal.
Nod y prosiect oedd creu dealltwriaeth fwy cywir o ddifrifoldeb poen y preswylwyr a theilwra dulliau rheoli poen priodol.
Mae’r ap, o’r enw PainChek, yn defnyddio fframwaith asesu poen modern.
Gan ddefnyddio camera ffôn clyfar i edrych ar wyneb person, mae PainChek yn defnyddio technoleg adnabod wyneb datblygedig i asesu symudiadau cyhyrau’r wyneb sy’n arwydd o boen pan nad yw’n amlwg i’r llygad ddynol.
Mae PainChek wedyn yn cyfrifo sgôr poen cyffredinol y gellir ei ddefnyddio i roi cynlluniau gofal poen priodol ac unigol ar waith.
Pam y cafodd ei gyflawni?
Gallai’r ap hwn arwain at leihau’r defnydd o feddyginiaeth gan ei fod yn gallu rhoi mesuriadau mwy cywir o boen i bobl â dementia.
Ar ben hynny, gall cael mesur llinell sylfaen mwy cywir o ddifrifoldeb poen helpu i leihau’r gofynion ar gyfer gofal un-i-un, gan ganiatáu ailddyrannu amser staff yn briodol.
Mae potensial hefyd i leihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty drwy wella atebion rheoli poen oherwydd data manylach am boen.
Ble a phryd cafodd y gwaith ei wneud?
Digwyddodd y gwaith hwn rhwng mis Hydref 2022 a Ionawr 2024.
Cafodd y dechnoleg ei gyflwyno i 13 o gartrefi gofal ledled Gwent, a hyfforddwyd staff i'w defnyddio.
Pwy oedd yn rhan o’r gwaith?
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent drwy’r Gronfa Gofal wedi’i Alluogi gan Dechnoleg.
Helpodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gyda’r cydweithio ar draws sefydliadau a rhanddeiliaid, yn ogystal â darparu rheolaeth prosiect drwy gydol y peilot.
Bydd y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) yn casglu data o'r peilot i asesu canlyniadau.
Beth maen nhw wedi’i ddysgu?
Mae'r prosiect bellach wedi dod i ben ac mae PainChek wedi'i fabwysiadu yn rhai o'r cartrefi gofal yn y tymor hir.
Mae cartrefi gofal mewn rhanbarthau eraill o Gymru ac yn Lloegr hefyd yn edrych i fabwysiadu'r dechnoleg.
Mae ATiC yn y broses o orffen ei werthusiad o'r prosiect.
Er bod y prosiect wedi'i anelu'n wreiddiol at bobl â dementia, cafodd ei ehangu'n ddiweddarach i bobl ag anabledd dysgu a phroblemau iechyd meddwl, a fu'n effeithiol.
Darganfod mwy
Ewch i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i gael gwybod mwy, neu cysylltwch â nhw ar: helo@hwbgbcymru.com.
Darganfod mwy
Contact name:
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru