PREDICAMENT
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Ebrill 2024
Beth yw'r prosiect?
Tarddiad yr enw PREDICAMENT yw ‘predicting risk of entry and re-entry into care and risk of placement instability from early life experiences amongst children in Wales’.
Bydd y prosiect ymchwil hwn yn helpu i nodi ffactorau risg allweddol y gellir eu haddasu a’u gweithredu i lywio a chefnogi gwasanaethau atal ac ymyrryd cynnar
Bydd yr ymchwil yn helpu ymarferwyr i nodi pa blant a theuluoedd sydd angen cymorth ac ymyriadau bywyd cynnar, a sut y gallai’r cymorth hwnnw edrych.
Trwy ddeall y ffactorau risg, gallwn ni leihau’r angen i blant gael mynediad at ofal, neu ddychwelyd i ofal, a chynyddu eu sefydlogrwydd a’u lles.
Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- pennu’r ffactorau risg bywyd cynnar ar gyfer mynediad a dychwelyd i ofal, yn ogystal ag ansefydlogrwydd lleoliadau i blant yng Nghymru
- datblygu dulliau ar-lein i ymarferwyr gofal cymdeithasol adnabod grwpiau o blant sy’n wynebu’r risg fwyaf, a pham
Nod y prosiect yn y pen draw yw gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol i blant a rhieni yng Nghymru.
Mae deall ffactorau risg o ran mynediad at ofal, dychwelyd i ofal ac ansefydlogrwydd lleoliadau yn gallu ein helpu ni i ddeall a phennu blaenoriaethau ymchwil i’r dyfodol. Gall hynny lywio datblygiad gwasanaethau wedi’u targedu a’r ffordd maen nhw’n cael eu rhoi ar waith.
Pam mae’n cael ei gynnal?
Mae cynnydd cyson i'w weld yn nifer a chyfradd y plant mewn gofal yng Nghymru ers 2002. O’i gymharu â gweddill y DU, mae mwy o blant wedi bod mewn gofal fesul 10,000 o’r boblogaeth yn gyson yng Nghymru.
Mae lleihau nifer y plant sydd angen gofal, a gwneud hynny mewn ffordd ddiogel, yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.
Bydd lleihau nifer y plant sy’n mynd i mewn i’r system ofal ac yn dychwelyd iddi, a chynyddu sefydlogrwydd i’r rhai sydd eisoes mewn gofal, yn helpu i leihau lefelau salwch yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gall hyn wella iechyd corfforol a meddyliol plant, gan arwain at Gymru iachach a mwy llewyrchus.
Hyd yn hyn, mae ymchwil ar blant mewn gofal wedi dibynnu’n bennaf ar adroddiadau data blynyddol gan awdurdodau lleol i Lywodraeth Cymru, sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae astudiaethau unigol i brofiadau plant hefyd wedi bod yn gyfyngedig.
O’r herwydd, prin yw’r wybodaeth am lwybrau plant mewn gofal yn y dyfodol a’r cysylltiadau ag iechyd blaenorol, teulu ac amgylchiadau amgylcheddol eraill.
Bydd gan y prosiect hwn oblygiadau polisi uniongyrchol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol plant yng Nghymru.
Bydd yr ymchwil yn helpu ymarferwyr i nodi pa blant a theuluoedd sydd angen cymorth ac ymyriadau bywyd cynnar, a sut y gallai’r cymorth hwnnw edrych.
Ble a phryd mae’r gwaith yn cael ei wneud?
Bydd yr ymchwil yma’n cael ei gynnal ledled Cymru.
Dechreuodd y prosiect tair blynedd ym mis Hydref 2023, gyda’r nod o orffen ym mis Medi 2026.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Mae’r ymchwil yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe ac yn cael ei gynnal gan ddefnyddio Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).
Bydd grwpiau llywio’r astudiaeth yn cynnwys mewnbwn a chymorth gan Ofal Cymdeithasol Cymru ac ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.
Darganfod mwy
I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Laura Cowley ym Mhrifysgol Abertawe.
Darganfod mwy
Gwefan y prosiect:
Contact name:
Laura Cowley