Recriwtio Lleol
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Ebrill 2024
Beth yw’r prosiect?
Mae Recriwtio Lleol yn brosiect gan Gyngor Abertawe sy’n ceisio hwyluso recriwtio cynorthwywyr personol gofal cymdeithasol o gymunedau lleol er mwyn cefnogi eu cymunedau.
Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar:
- mynd â’r gwaith o recriwtio i mewn i gymunedau
- cysylltu â rhanddeiliaid allweddol
- nodi pobl sy’n gallu ymuno â’r gweithlu gofal cymdeithasol, neu ddychwelyd iddo, er mwyn gweithio yn eu cymunedau a manteisio ar y gwerth cymdeithasol y mae hyn yn ei gynhyrchu
- helpu pobl i wneud synnwyr o’r system Taliadau Uniongyrchol ac annog a chefnogi ceisiadau cynorthwywyr personol.
Mae’r prosiect yn gweithio ar y cyd â’r gwaith Taliadau Uniongyrchol sydd eisoes wedi’i wneud ac sy’n helpu pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol mewn ffordd sy’n hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth.
Mae’r prosiect ar gyfer cynorthwywyr personol presennol a darpar gynorthwywyr personol, yn ogystal â phobl sy’n cael mynediat at gymorth drwy’r system Taliadau Uniongyrchol.
Pam mae’n cael ei gynnal?
Un o brif fanteision y prosiect yw ei fod yn annog system lle mae pobl leol yn cefnogi pobl leol.
Mae hyn yn golygu bod pobl yn gweithio mewn ffyrdd sy’n seiliedig ar le, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol a datblygu adnoddau yn y gymuned gyda chefnogaeth y tîm.
Mae’r prosiect yn cymryd agwedd bersonol i recriwtio lleol ac yn galluogi pob i feithrin cydberthnasau yn eu cymunedau.
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn cynhyrchu mwy na 100 o geisiadau’r mis am rolau cynorthwywyr personol sydd wedi’u hysbysebu, i fyny o bron ddim.
O ganlyniad i’r gwaith, gwelwyd newid hefyd i weithio mwy cydweithredol, ac ar hyn o bryd mae’r tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr a chefnogwyr i gyflawni dyheadau’r prosiect.
Ble a phryd mae’r gwaith yn cael ei wneud?
Mae’r gwaith yn digwydd mewn cymunedau yn ardal Cyngor Abertawe.
Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2022. Nid oes dyddiad terfyn penodol, ond mae’r tîm yn disgwyl adeiladu ar y gwaith da sydd wedi’i wneud hyd yma a gweithio’n ddeinamig yn dibynnu ar anghenion y cleientiaid.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar y prosiect hwn, gan gynnwys Gweithffyrdd, Canolfan Byd Gwaith, canolfannau cymunedol, cynrychiolwyr etholedig a chydlynwyr ardal leol.
Mae’r prosiect hefyd wedi manteisio ar gymorth Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys ein gwasanaeth anogaeth arloesedd a’r gymuned gofal sy’n seiliedig ar le.
Beth maen nhw wedi’i ddysgu hyd yn hyn?
Un o wersi allweddol y prosiect yw gwerth mynd i’r cymunedau a gweithio gyda nhw, gwerthfawrogi’r arbenigedd sydd yno a defnyddio’r arbenigedd a’r cymorth hwn i greu sail i recriwtio’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Ymhlith yr heriau a wynebodd y tîm oedd:
- cynnydd sydyn yn nifer y ceisiadau cymorth personol, gan gynnwys rhai nad ydyn nhw’n hyfyw
- allgáu digidol
- dod o hyd i’r cydbwysedd gyda’r ‘agwedd bersonol’, galluogi yn hytrach na gwneud ar ran
- problemau capasiti
- gweithio mewn system gymhleth.
I oresgyn rhai o’r heriau hyn, maen nhw’n:
- rhoi prosesau ychwanegol ar waith i gefnogi’r recriwtio, gan gynnwys cytundebau a sgyrsiau gyda thimau eraill i egluro disgwyliadau
- helpu pobl heb fynediad digidol neu sgiliau digidol i gwblhau ceisiadau a chynyddu eu hyder wrth ddefnyddio technoleg
- cynnal trafodaethau rheolaidd a gwerthusiadau gwaith i weld lle mae gwelliannau’n bosibl a sut maen nhw’n gallu grymuso pobl a chefnogi eu taith
- cymryd amser i feithrin perthynas â phartneriaid allweddol, yn ogystal ag ‘agor eu drysau’ i gysylltiadau newydd i hybu effeithlonrwydd gweithio a chefnogi cydweithwyr
- llunio a datblygu tîm sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd
- meithrin diwylliant lle mai’r ffocws ar ddysgu ac angerdd, gyda’r tîm yn canolbwyntio ar eu cryfderau mewn rolau penodol
- sôn wrth bobl am eu gwaith, y llwyddiannau a’r heriau, a rhoi gwybod i bobl am unrhyw gynnydd.
Darganfod mwy
I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â Victoria Morgan yng Nghyngor Abertawe.
Darganfod mwy
Gwefan y prosiect:
Contact name:
Victoria Morgan