Skip to Main content

Seibiant drwy wasanaethau hamdden i ofalwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful

Dyddiad diweddaru diwethaf: 6 Mawrth 2026

Beth yw'r prosiect?

Mae Rhaglen Seibiant Gofalwyr Halo Leisure yn rhoi cyfle i ofalwyr di-dâl gymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff, ymlacio a llesiant trwy eu canolfan hamdden leol.

Mae'n rhoi cyfle i ofalwyr wella eu llesiant corfforol a meddyliol mewn lleoliad hamddenol. 

Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn gofalu am bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel dementia, clefyd Parkinson, niwropathi, arthritis, nam gwybyddol, canser, anableddau sy'n newid bywydau, a phryderon iechyd meddwl difrifol. 

Mae pob rhaglen yn para chwe wythnos ac yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb. Mae aelodaeth canolfan hamdden tymor byr hefyd yn cael ei roi i ofalwyr sy'n cwblhau'r rhaglen, i'w hannog i gynnal eu ffordd iach o fyw. Yn ystod y sesiynau dwy awr wythnosol, gall cyfranogwyr gysylltu â'i gilydd, rhannu straeon, dysgu rheoli straen, derbyn gwybodaeth maeth broffesiynol, dysgu am hawliau a chefnogaeth gofalwyr, a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi'i deilwra. 

Maen nhw hefyd yn cael mynediad i gyfleusterau iechyd a llesiant Halo Leisure a gofal amgen yn ystod y rhaglen.

Yn ystod y rhaglen, mae sesiynau gwybodaeth hefyd yn cael eu darparu gan sefydliadau fel: 

  • Gofal a Thrwsio
  • Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO)
  • Gwasanaeth Llesiant TuVida
  • Alzheimer’s Society
  • Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
  • timau gwaith cymdeithasol awdurdodau lleol. 

Mae gofalwyr yn cael eu cyfeirio gan:

  • meddygon teulu
  • gweithwyr iechyd
  • timau iechyd meddwl
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Partneriaeth Gofalwyr Digyflog Merthyr Tudful
  • canolfannau gofalwyr
  • cymdeithasau gwirfoddol, gan gynnwys BAVO a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
  • Alzheimer’s Society
  • Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
  • cyn-gyfranogwyr y rhaglen.

Gall gofalwyr hefyd hunan-gyfeirio.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnal sesiwn gyd-gynhyrchu 15 munud yn ystod y sesiwn olaf. Maen nhw'n gofyn i ofalwyr sut mae'r rhaglen wedi bod iddyn nhw a beth y gellid ei wella.

Pam mae'n cael ei gyflawni?

Ar gyfer gofalwyr hŷn pobl sy'n byw gyda dementia a materion iechyd cymhleth eraill, mae lefelau uchel o straen cyson sy'n aml yn arwain at:

  • iselder
  • gorbryder
  • ynysu
  • iechyd corfforol a meddyliol gwael.

Mae gofalwyr heb gymorth yn fwy tebygol o ddod i ben ar bwynt argyfwng. Gall hyn arwain at ddau berson angen cael mynediad at wasanaethau ychwanegol y GIG, gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol. 

Nod y prosiect hwn yw gwella llesiant corfforol a meddyliol gofalwyr di-dâl, gan ddefnyddio cyfleusterau'r ganolfan hamdden, a'u cysylltu â'r gymuned leol ar yr un pryd.

Cafodd Halo ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal ymgynghoriad i benderfynu a fyddai gofalwyr ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dymuno mwy o gyfleoedd a gweithgareddau iechyd a llesiant ac, os felly, sut y gellid gwneud y gweithgareddau hynny yn fwy hygyrch. 

Dywedodd gofalwyr eu bod eisiau cymorth i reoli straen a phryder (68 y cant), ac i reoli pwysau neu fwyta'n fwy iach (55 y cant). Fe wnaeth Halo darganfod hefyd fod 60 y cant o ofalwyr eisiau cymryd rhan gyda gofalwyr eraill, ond bod costau, hyder a diffyg gofal amgen yn atal hyn. 

Roedd 34 y cant o ofalwyr yn ymarfer llawer llai o ganlyniad i ofalu, ac roedd 80 y cant o ofalwyr di-dâl yn teimlo'n unig neu'n gymdeithasol ynysig. 

Mae Halo yn gweithio i gefnogi gofalwyr i oresgyn y rhwystrau hyn i fyw'n dda a chyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain.

Ble a phryd mae'r gwaith yn digwydd?

Mae Halo yn darparu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, ac yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyflawni yn Rhondda Cynon Taf.

Dechreuodd y prosiect yn 2022 ac mae'n parhau, yn dibynnu ar gyllid.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Ym Mhen-y-bont, mae’r prosiect yn cael ei gyflawni gan Halo mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Daeth yr arian cychwynnol gan Lywodraeth Cymru drwy BAVO. Ers hynny, mae’r rhaglen wedi cael ei hariannu drwy Gyllid Integreiddio Rhanbarthol a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr, tra bod cyllid parhaus gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi galluogi darpariaeth ychwanegol yn yr ardal hynny.

Beth maen nhw wedi'i ddysgu o'r gwaith?

Mae cyfranogwyr yn gwerthfawrogi'r gofal sy’n cael ei ddarparu i'w hanwyliaid sy'n caniatáu iddyn nhw gymryd rhan yn y rhaglen. 

Er mwyn mesur eu heffaith, mae Halo yn cynnal arolygon gyda chyfranogwyr cyn ac ar ôl y rhaglen, gan ofyn iddyn nhw hunanasesu eu hiechyd meddwl a chorfforol, cysylltiadau o fewn y gymuned a gwybodaeth am gymorth. 

Pan ofynnwyd iddyn nhw ar raddfa o un i bump, gyda phump yn fwyaf hyderus, pa mor hyderus maen nhw'n teimlo wrth reoli eu llesiant eu hunain, yr ymateb cyfartalog cychwynnol oedd 2.2. Ar ôl chwe wythnos o gymryd rhan yn y rhaglen, roedd hyn wedi dringo i 4.3.

Dywedodd un person a gymerodd ran yn y rhaglen: "Fe wnes i gofrestru ar gyfer Seibiant Gofalwyr yn rhannol i ddarganfod mwy o wybodaeth am ba wasanaethau oedd ar gael ac i rannu profiadau gydag eraill sy'n ei gael. Yr atyniad oedd eu bod yn darparu gofal i fy mam. I brofi'r dyfroedd mewn gwirionedd, dyna oedd y cam cyntaf." 

Dywedodd un arall: "Rhaglen ardderchog. Yn enwedig wrth i ofal gael ei ddarparu ar gyfer fy ngŵr. Fel arall, ni fyddwn wedi gallu mynychu."

Mae'r prosiect wedi cynyddu llesiant a gwytnwch gofalwyr, yn ogystal â'u gwybodaeth am gymorth cymunedol. Roedd hefyd yn helpu sefydliadau atgyfeirio i reoli eu gwaith trwy gymorth ychwanegol sy’n cael ei gynnig gan Halo Leisure.

Cyfrifodd y tîm werth Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) i feintioli'n well yr effeithiau cadarnhaol ar yr holl randdeiliaid, gan gynnwys gofalwyr, pobl sy'n defnyddio gofal, teuluoedd, sefydliadau atgyfeirio, a'r gymuned ehangach. Mae SROI yn fframwaith ar gyfer mesur a chyfrif am newid.

Mewn blwyddyn, mae Seibiant Gofalwyr yn cynhyrchu gwerth £301,099.49 gyda buddsoddiad o £20,000. Mae hynny'n golygu, am bob £1 sy'n cael ei fuddsoddi yn Seibiant Gofalwyr, mae £14.69 o werth cymdeithasol yn cael ei greu.

Cysylltwch

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ryan Statton yn Halo Leisure ar ryan.statton@haloleisure.org.uk.

Darganfod mwy

Gwefan y prosiect:

Contact name:

Ryan Statton