Treial o dechnoleg digidol ar gyfer rheoli meddyginiaeth ym Mhen-y-bont
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30 Ebrill 2024
Beth yw’r prosiect?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio ar system ddigidol i reoli meddyginiaethau.
Gall y dechnoleg hon helpu defnyddwyr meddyginiaethau i gymryd y feddyginiaeth gywir ar yr adeg iawn gan eu cefnogi i reoli eu hiechyd a’u lles yn annibynnol.
Gall hefyd gefnogi staff a gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda rheoli adnoddau drwy leihau’r ddibyniaeth ar alwadau cartref ac ysgogiadau teleofal.
Cafodd y technoleg YourMeds ei gyflwyno i grŵp cychwynnol o gyfranogwyr yn 2023.
Pam mae’n cael ei gynnal?
Gall technoleg digidol ar gyfer rheoli meddyginiaethau gwella annibyniaeth i’r rheini sy’n dibynnu ar feddyginiaethau rheolaidd, yn ogystal â thawelwch meddwl i berthnasau a gofalwyr gan ddefnyddio ap sy'n nodi pryd y cafwyd mynediad at feddyginiaeth.
Gyda gostyngiad disgwyliedig mewn galwadau gofal wyneb yn wyneb dyddiol ac ysgogiadau teleofal, gallai hyn arbed amser ac arian. Yna gellir ail-ddyrannu'r ddau adnodd, gan symleiddio llifoedd gwaith a deall meysydd allweddol o angen.
Gan fod derbyniadau i’r ysbyty yn gyffredin â chamreoli meddyginiaethau, mae bwriad i weld gostyngiad yn y niferoedd hyn wrth i’r risg o gamgymeriadau gael ei leihau, a gall defnyddwyr meddyginiaethau gael gafael ar eu meddyginiaethau ar yr adeg iawn a chael y nifer cywir.
Ble a phryd mae’r gwaith yn cael ei wneud?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno’r prosiect i unigolion ar draws yr ardal sy’n defnyddio meddyginiaethau bob dydd.
Daeth cam un y prosiect i ben ym mis Rhagfyr 2023 ac mae adroddiad yn cael ei baratoi. Dechreuodd yr ail gam ym mis Ionawr a disgwylir iddo barhau am flwyddyn.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn darparu’r cyllid.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r gwaith o edrych ar y dechnoleg sydd ar gael yn barod a chynnig datrysiad sy’n seiliedig ar y prif flaenoriaethau a nodwyd.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithredu fel arweinydd prosiect, yn goruchwylio’r gwaith o gydlynu prosiectau ac yn rhoi arbenigedd ar amserlenni a mesur costau, yn cefnogi’r gwaith o ysgrifennu cynigion cyllido, ac yn cynnig cyngor gwrthrychol.
Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI hefyd wedi cydweithio ar y prosiect.
Darganfod Mwy
Ewch i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i gael gwybod mwy, neu cysylltwch â nhw ar helo@hwbgbcymru.com.
Darganfod mwy
Gwefan y prosiect:
Contact name:
Louise Baker