Deall beth sy’n sbarduno newid yn y gweithlu gofal, a’i oblygiadau
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16 Hydref 2024
Beth yw’r prosiect?
Mae dau brif nod i’r astudiaeth hon gan Ganolfan Gofal y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Yn gyntaf, mae’n bwriadu ymchwilio i effeithiau’r diwygiadau diweddar i bolisi gofal cymdeithasol ar y gweithlu, gan fynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:
- Beth yw’r prif sbardunau polisi ar gyfer newid yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn y DU?
- Pa ganlyniadau bwriadol ac anfwriadol y mae’r sbardunau polisi hyn wedi’u cael o ran y gweithlu gofal cymdeithasol?
Yn ail, mae’r astudiaeth yn bwriadu archwilio gweithlu gofal cymdeithasol y dyfodol drwy ofyn y cwestiwn:
- Sut gall diwygiadau polisi a sbardunau eraill ryngweithio a chreu newid hirdymor?
Mae'r tîm ymchwil wedi cynnal adolygiad llenyddiaeth ac wedi trafod y canfyddiadau gyda grŵp amrywiol o randdeiliaid.
Mae’r rhanddeiliaid wedi cynnwys pobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, cynrychiolwyr gweithwyr gofal a chyflogwyr, cynrychiolwyr o gyrff cenedlaethol perthnasol, fel Gofal Cymdeithasol Cymru, ac arbenigwyr mewn melinau trafod a phrifysgolion.
I archwilio’r newid yn y gweithlu yn y dyfodol, mae’r tîm ymchwil wedi addasu dulliau rhagofal ac wedi gofyn i randdeiliaid greu senarios dychmygol yn damcaniaethu sut bydd gwahanol ffactorau wedi siapio’r gweithlu gofal cymdeithasol erbyn 2035.
Pam mae'n cael ei gynnal?
Amcangyfrifir bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn cynnwys dros 1.7 miliwn o swyddi yn y DU.
Mae’r gweithlu’n cynnwys menywod yn bennaf, gyda nifer uchel o weithwyr mudol ac unigolion o grwpiau ethnig lleiafrifol. Mae’r gweithlu hwn yn ddeinamig, gyda rolau’n esblygu a thasgau newydd yn dod i’r amlwg.
Mae esblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol yn cael ei siapio gan dueddiadau tymor hir yn y farchnad lafur, fel cyfran gynyddol o fenywod yn y gweithlu, amodau gwaith ansicr, a sefyllfaoedd lle mae unigolion yn debygol o fod yn gweithio’n hyblyg ar draws sawl swydd a rhwng cyflogwyr.
Mae ffactorau allanol annisgwyl diweddar, fel Brexit a phandemig COVID-19, hefyd wedi effeithio ar ansawdd swyddi’r gweithlu gofal cymdeithasol, a’u canlyniadau.
Mae’r gweithlu gofal yn wynebu heriau hirsefydlog, gan gynnwys cyfraddau swyddi gwag uchel, lefel uchel o drosiant, cyflogau isel, a chyfleoedd cyfyngedig i ddatblygu gyrfa.
Ble a phryd mae’r gwaith yn cael ei wneud?
Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar bedair gwlad y DU. Dechreuodd ym mis Gorffennaf 2022 a bydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Mae'r astudiaeth yn rhan o ymdrechion parhaus y Grŵp Ymchwil i Newid yn y Gweithlu yng Nghanolfan Gofal ESRC, ac mae wedi'i hariannu gan ESRC a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Cymerodd Gofal Cymdeithasol Cymru ran yn yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid.
Beth maen nhw wedi’i ddysgu hyd yn hyn?
Gan ddefnyddio canfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth a'r ymgyngoriadau â rhanddeiliaid, mae'r tîm ymchwil wedi nodi diwygiadau polisi allweddol sy'n siapio'r newid yn y gweithlu gofal.
Mae syniadau a phrofiad arbenigwyr sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi helpu i lywio ymgyngoriadau â rhanddeiliaid, fel wrth drafod tâl gweithwyr gofal a chofrestru gorfodol.
Gan ddefnyddio’r diwygiadau polisi allweddol fel blociau adeiladu, mae’r rhanddeiliaid wedi creu senarios dychmygol yn damcaniaethu am newid hirdymor yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn y dyfodol.
Mae'r tîm ymchwil wedi cyflwyno canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o'r prosiect mewn dwy gynhadledd, ac ar hyn o bryd maen nhw'n gweithio ar adroddiad y prosiect ac erthyglau ar gyfer cyfnodolion.
Darganfod mwy
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hon, cysylltwch â'r Athro Shereen Hussein neu Dr Erika Kispeter, neu ewch i wefan y Ganolfan Gofal.
Darganfod mwy
Contact name:
Dr Erika Kispeter