Defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi gwaith cyfleoedd dydd sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Rhagfyr 2024
Beth yw'r prosiect?
Mae’r tîm cyfleoedd dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn defnyddio ap digidol ar-lein i gefnogi ei waith i wreiddio dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar gryfderau.
Enw'r ap yw ForMi ac mae'n cefnogi unigolion a'u teuluoedd i gymryd perchnogaeth o'u cynlluniau personol eu hunain, cofnodi eu cyflawniadau, a monitro eu cynnydd a'u canlyniadau.
I'r awdurdod lleol, mae'n cynnig tystiolaeth o effaith ei waith.
Y cam cyntaf ar gyfer cyflwyno'r ap oedd cyfnod prawf byr. Ers hynny, mae'r tîm wedi parhau i fireinio'i ddefnydd o'r ap ac mae bellach yn rhannu’r hyn y mae’n ei ddysgu gyda thimau mewn rhannau eraill o'r awdurdod lleol.
Pam mae'r gwaith yn cael ei wneud?
Yn draddodiadol, roedd cynlluniau ac adolygiadau gofal yn ddogfennau ysgrifenedig safonedig, a all ei gwneud hi'n anodd casglu, cofnodi a rhannu gwybodaeth mewn ffordd syml.
Cyflwynodd y prosiect hwn fodel rhyngweithiol, lle gall yr unigolyn lunio'r cynllun ei hun trwy gofnodi'r hyn sy'n bwysig iddo, ei nodau a'r gefnogaeth sydd ei hangen arno.
Gan ddefnyddio'r ap, mae pobl yn gwneud cofnodion gan ddefnyddio geiriau, lluniau neu fideos byr. Gall teuluoedd a gweithwyr proffesiynol weld lluniau o’r unigolyn a'r gweithgareddau maen nhw wedi bod yn cymryd rhan ynddo.
Mae'r dull gweithredu yn gynhwysol, gan fod gan bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth fynediad i weld beth sy'n cael ei gofnodi. Mae'n rhoi mwy o reolaeth i bawb, gan gynnwys unigolion a'u teuluoedd.
Mae'r tîm yn dweud bod y dull gweithredu hefyd wedi rhoi mwy o le i staff fod yn greadigol yn y gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu.
Ble a phryd mae'r gwaith yn cael ei wneud?
Dechreuodd Torfaen ddefnyddio ForMi yn 2021. Mae'r ap hefyd wedi cael ei ddefnyddio yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Abertawe.
Pwy sy'n rhan o’r prosiect?
Mae'r prosiect hwn wedi cynnwys cydweithredu agos rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a datblygwyr yr ap ForMi. Mae'r cyngor wedi gallu dylanwadu ar ddatblygiad a gwelliannau i’r ap drwy adborth rheolaidd. Mae'r sefydliadau wedi dysgu oddi wrth ei gilydd a thrin ei gilydd fel partneriaid yn ystod y prosiect hwn.
Derbyniodd yr ap ForMi gyllid gan y Fenter Ymchwil Busnesau Bach, tra bod y tîm yn Nhorfaen wedi derbyn cyllid mewnol ar gyfer y prosiect.
Mae'r cyngor hefyd wedi gweithio gydag awdurdodau lleol eraill sy'n bwriadu cyflwyno'r ap i'w gwasanaethau.
Beth maen nhw wedi'i ddysgu o'r prosiect?
Mae defnyddio'r ap digidol wedi cefnogi unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth i gymryd rheolaeth a pherchnogaeth o'u cynllun a’u nodau eu hunain.
Mae'r prosiect wedi magu hyder yr unigolion sy'n defnyddio'r ap, yn ogystal â hybu cyfathrebu rhwng y gwasanaeth, unigolion a'u teuluoedd.
Mae hefyd wedi rhoi ffordd newydd i'r gwasanaeth gyfathrebu â phobl nad ydyn nhw o bosib yn gallu darllen, gan eu galluogi i gofnodi eu cynnydd trwy luniau, fideos a sain.
Pwysleisiodd y tîm y budd o gael diwylliant sy'n cefnogi newid i ddulliau sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod yn benderfynol o oresgyn heriau cynnar. Roedd yr heriau hyn yn cynnwys:
- yr amser sydd ei angen i gwblhau asesiadau effaith diogelu data ac asesiadau risg
- annog staff i ddechrau defnyddio’r ffordd newydd o weithio.
I helpu i gyflwyno'r ap, cymerodd y tîm yn Nhorfaen gamau gan gynnwys:
- dechrau gyda grŵp bach o staff ac annog y grŵp hwn o ‘ddefnyddwyr cynnar’ i gefnogi cydweithwyr wrth iddyn nhw ddechrau defnyddio'r ap
- defnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn - gyda chaniatâd defnyddwyr gwasanaeth - i dynnu sylw at fanteision yr ap i staff
- creu amgylchedd diogel i staff brofi'r ap gan ddefnyddio achosion ffug
- defnyddio adborth staff i nodi lle y gallai fod angen mwy o hyfforddiant.
Cysylltwch
I gael gwybod mwy am y prosiect, cysylltwch â Jim Wright, Rheolwr Datblygu a Chyfleoedd Dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ar jim.wright@torfaen.gov.uk.
Darganfod mwy
Contact name:
Jim Wright