Skip to Main content

Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2024: Crynodeb o ymatebion gan reolwyr

10 Hydref 2024
Byr

Dyma grynodeb o ymatebion i arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2024, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.  

Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr. 

Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y rheolwyr

Mae’r grŵp hwn o ymatebwyr yn cynnwys rheolwyr cartrefi gofal i oedolion (36 y cant), rheolwyr gofal cartref (34 y cant), rheolwyr gofal preswyl i blant (11 y cant) a rheolwyr gofal cymdeithasol eraill (20 y cant). 

Gallwch ddysgu rhagor am yr ymchwil a chael mynediad at yr adroddiad llawn yma.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r crynodeb hwn fel PDF neu ddogfen Microsoft Word.

Demograffeg

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • y gyfran fwyaf o bobl yn y grŵp oedran 50 i 54 oed  
  • 79 y cant yn fenywaidd a 20 y cant yn wrywaidd 
  • 89 y cant yn syth/heterorywiol, pedwar y cant yn hoyw neu’n lesbiaidd, a dau y cant yn ddeurywiol. Roedd hi’n well gan eraill beidio â dweud  
  • 91 y cant yn Wyn, pedwar y cant yn Ddu, ac un y cant yn Asiaidd 
  • 25 y cant yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O’r rhai â chyflwr hirdymor, dywedodd 63 y cant ohonyn nhw ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd  
  • 37 y cant yn awgrymu eu bod yn ofalwr y tu allan i’r gwaith  
  • wyth y cant yn dweud eu bod yn niwrowahanol  
  • 52 y cant yn dweud eu bod yn gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg  
  • 27 y cant yn dweud eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser   
  • 95 y cant yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy’n darparu gofal cymdeithasol, fel awdurdod lleol, corff trydydd sector neu gwmni preifat. Roedd dau y cant yn hunangyflogedig mewn gofal cymdeithasol, a dau y cant yn cael eu cyflogi gan asiantaeth 
  • 42 y cant yn dweud eu bod yn aelod o undeb llafur, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn aelod o Unsain/Unison (28 y cant), y GMB (pump y cant), neu’r Coleg Nyrsio Brenhinol (pump y cant). 

Recriwtio a chadw

Fe wnaethon ni ddarganfod bod:

  • 70 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod am gael swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Teimlai 43 y cant y bydden nhw’n ei fwynhau, 37 y cant y byddai’n addas i’w sgiliau, ac aeth 21 y cant i’w rôl o ganlyniad i brofiad personol gofalu am rywun. Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rheswm
  • 44 y cant wedi dod i wybod am weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy ffrindiau a theulu sy’n gweithio yn y sector, 30 y cant trwy hysbysebu ar-lein, a naw y cant trwy ffeiriau neu gwmnïau recriwtio, neu gyngor gyrfaol
  • 24 y cant yn anelu at adael y sector. Ymhlith y bobl a awgrymodd eu bod yn bwriadu gadael y sector, yr amser cyfartalog gwelon nhw eu hunain yn aros oedd 16 mis.

Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 65 y cant eisiau rôl arwain yn y dyfodol  
  • 80 y cant o’r farn ei bod yn bosibl iddyn nhw ddod yn arweinydd  
  • 46 y cant wedi ceisio camu ymlaen yn y flwyddyn ddiwethaf  
  • 92 y cant o’r farn bod ganddyn nhw ddigon o hyfforddiant i wneud eu swydd yn dda, ac 88 y cant o’r farn eu bod yn cael digon o hyfforddiant i gyflawni gofynion DPP  
  • 32 y cant yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant i symud ymlaen yn eu gyrfa 
  • 69 y cant yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw broblemau o ran cael gafael ar hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith. 

Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu

Yma, rydyn ni’n cyflwyno canran y rheolwyr a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu o wahanol ffynonellau yn y 12 mis diwethaf.

  • Gan reolwyr: Bwlio (saith y cant), gwahaniaethu (dau y cant), aflonyddu (pedwar y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan reolwr, roedd 49 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd pedwar y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 24 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Gan gydweithwyr: Bwlio (saith y cant), gwahaniaethu (dau y cant) aflonyddu (pedwar y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan gydweithiwr, roedd 65 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd pedwar y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 36 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu: Bwlio (chwech y cant), gwahaniaethu (dau y cant), aflonyddu (wyth y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu, roedd 82 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd dau y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 58 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Fe wnaethon ni ddarganfod hefyd bod 89 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr wedi gweithredu’n deg mewn penderfyniadau am symud ymlaen yn eu gyrfa a dyrchafu, yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig.

Cyflog, telerau ac amodau

Fe wnaethon ni ddarganfod bod:

  • 77 y cant yn hapus â’u telerau ac amodau
  • tri y cant yn cael eu cyflogi ar gontract dim oriau. O’r rhai a oedd ar gontract o’r fath, awgrymodd 79 y cant y byddai’n well ganddyn nhw fod ar gontract oriau sefydlog neu oriau rheolaidd
  • 54 y cant wedi awgrymu eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, 33 y cant ‘dim ond yn llwyddo o drwch blewyn i dalu am bopeth angenrheidiol’, ac 13 y cant yn ei chael hi’n ‘eithaf’ anodd neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi'n ariannol
  • 67 y cant naill ai yn ei chael hi’n ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd ymdopi’n ariannol o gymharu â’r llynedd, a saith y cant naill ai ‘ychydig’ yn haws neu’n ‘llawer’ haws
  • 35 y cant yn anfodlon â’u tâl.

Iechyd a llesiant

Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio ONS4 – pedwar mesur sy’n cael eu defnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n defnyddio graddfa rhwng 0 a 10. Cymharon ni’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn gyda chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Mae pob un o’r canfyddiadau isod yn waeth na chyfartaledd y DU:

  • Boddhad â bywyd: 6.48 (Cyfartaledd y DU: 7.45)
  • Mae bywyd yn werth chweil: 7.00 (Cyfartaledd y DU: 7.73)
  • Hapusrwydd ddoe: 6.76 (Cyfartaledd y DU: 7.39)
  • Gorbryder: 4.64 (Cyfartaledd y DU: 3.23)

Gofynnon ni gwestiynau eraill am lesiant hefyd. Fe wnaethon ni ddarganfod:

  • bod 78 y cant yn teimlo bod eu morâl yn dda
  • bod 74 y cant yn teimlo eu bod yn cael trafferth peidio meddwl am y gwaith ar ôl gorffen
  • bod 50 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
  • mai llwyth gwaith (55 y cant), gwaith papur neu faich gweinyddol (46 y cant), a phoeni am bethau’r tu allan i’r gwaith (27 y cant) oedd prif achosion straen
  • bod 57 y cant wedi awgrymu eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylen nhw fod wedi aros gartref.

Amodau gweithio

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 83 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu rheolwr  
  • 86 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr  
  • 65 y cant wedi awgrymu bod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau  
  • 81 y cant yn teimlo eu bod yn gallu bodloni anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cynorthwyo. 

Gofynnon ni hefyd faint yr oedd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gwahanol grwpiau maen nhw’n rhyngweithio â nhw.  

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 83 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwr  
  • 84 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr  
  • 79 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo  
  • 58 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner  
  • 41 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd. 

Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr yn Bath Spa University a Buckinghamshire New University, a chydweithwyr o Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW).