Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2024: Crynodeb o ymatebion gan weithwyr cymdeithasol
Dyma grynodeb o ymatebion i arolwg ‘Dweud eich Dweud’ y gweithlu 2024, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.
Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr.
Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y gweithwyr cymdeithasol.
Mae’r grŵp hwn o ymatebwyr yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd (25 y cant), gweithwyr cymdeithasol oedolion (41 y cant), gweithwyr cymdeithasol plant ac oedolion (10 y cant), myfyrwyr gwaith cymdeithasol (pump y cant), rheolwyr gwaith cymdeithasol eraill (12 y cant), a gweithwyr cymdeithasol eraill (chwech y cant).
Gallwch ddysgu rhagor am yr ymchwil a chael mynediad at yr adroddiad llawn yma.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r crynodeb hwn fel PDF neu ddogfen Microsoft Word.
Demograffeg
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- y gyfran fwyaf o bobl yn y grŵp oedran 35 i 44 oed
- 74 y cant yn fenywaidd a 23 y cant yn wrywaidd
- 86 y cant yn syth/heterorywiol, pedwar y cant yn hoyw neu’n lesbiaidd, a tri y cant yn ddeurywiol. Roedd hi’n well gan eraill beidio â dweud
- 73 y cant yn Wyn, 14 y cant yn Ddu, a phump y cant yn Asiaidd
- 25 y cant yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O’r rhai â chyflwr hirdymor, dywedodd 65 y cant ohonyn nhw ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
- 33 y cant yn awgrymu eu bod yn ofalwr y tu allan i’r gwaith
- 11 y cant yn dweud eu bod yn niwrowahanol
- 47 y cant yn dweud eu bod yn gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg
- 20 y cant yn dweud eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser
- 85 y cant yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy’n darparu gofal cymdeithasol, fel awdurdod lleol, corff trydydd sector neu gwmni preifat, a bod naw y cant yn cael eu cyflogi gan asiantaeth
- 50 y cant yn dweud eu bod yn aelod o undeb llafur, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn aelod o Unsain/Unison (33 y cant) neu Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol (10 y cant).
Recriwtio a chadw
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 76 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod am gael swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Teimlai 45 y cant y bydden nhw’n ei fwynhau, a 42 y cant y byddai’n addas i’w sgiliau. Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rheswm
- 41 y cant wedi dod i wybod am weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy ffrindiau a theulu sy’n gweithio yn y sector, 22 y cant trwy hysbysebu ar-lein, a chwech y cant trwy ffeiriau neu gwmnïau recriwtio
- 23 y cant yn anelu at adael y sector. Ymhlith y bobl a awgrymodd eu bod yn bwriadu gadael y sector, yr amser cyfartalog gwelon nhw eu hunain yn aros oedd 17 mis.
Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 53 y cant eisiau rôl arwain yn y dyfodol
- 67 y cant o’r farn ei bod yn bosibl iddyn nhw ddod yn arweinydd
- 43 y cant wedi ceisio camu ymlaen yn y flwyddyn ddiwethaf
- 83 y cant o’r farn bod ganddyn nhw ddigon o hyfforddiant i wneud eu swydd yn dda, ac 84 y cant eu bod yn cael digon o hyfforddiant i gyflawni gofynion DPP
- 53 y cant yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant i symud ymlaen yn eu gyrfa
- 55 y cant yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw broblemau o ran cael gafael ar hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith.
Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu
Yma, rydyn ni’n cyflwyno canran y gweithwyr cymdeithasol a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu o wahanol ffynonellau yn y 12 mis diwethaf.
- Gan reolwyr: Bwlio (11 y cant), gwahaniaethu (11 y cant), aflonyddu (pedwar y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan reolwr, roedd 54 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd tri y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 28 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
- Gan gydweithwyr: Bwlio (chwech y cant), gwahaniaethu (pedwar y cant) aflonyddu (dau y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan gydweithiwr, roedd 59 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd pump y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 38 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
- Gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu: Bwlio (wyth y cant), gwahaniaethu (chwech y cant), aflonyddu (12 y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu, roedd 77 y cant wedi rhoi gwybod amdano, dywedodd tri y cant fod cydweithiwr wedi rhoi gwybod amdano, a theimlai 44 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
- Fe wnaethon ni ddarganfod hefyd bod 69 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr wedi gweithredu’n deg mewn penderfyniadau am symud ymlaen yn eu gyrfa a dyrchafu, yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig.
Cyflog, telerau ac amodau
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 72 y cant yn hapus â’u telerau ac amodau
- chwech y cant yn cael eu cyflogi ar gontract dim oriau. O’r rhai a oedd ar gontract o’r fath, awgrymodd 71 y cant y byddai’n well ganddyn nhw fod ar gontract oriau sefydlog neu oriau rheolaidd
- 49 y cant yn teimlo eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, 28 y cant ‘dim ond yn llwyddo o drwch blewyn i dalu am bopeth angenrheidiol’, a 23 y cant yn ei chael hi’n ‘eithaf’ anodd neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi’n ariannol
- 62 y cant naill ai’n ei chael hi’n ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd ymdopi’n ariannol o gymharu â’r llynedd, a 13 y cant naill ai ‘ychydig’ yn haws neu’n ‘llawer’ haws
- 37 y cant yn anfodlon â’u tâl.
Iechyd a llesiant
Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio ONS4 – pedwar mesur sy’n cael eu defnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n defnyddio graddfa rhwng 0 a 10. Cymharon ni’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn gyda chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Mae pob un o’r canfyddiadau isod yn waeth na chyfartaledd y DU:
- Boddhad â bywyd: 6.75 (Cyfartaledd y DU: 7.45)
- Mae bywyd yn werth chweil: 7.40 (Cyfartaledd y DU: 7.73)
- Hapusrwydd ddoe: 6.53 (Cyfartaledd y DU: 7.39)
- Gorbryder: 4.84 (Cyfartaledd y DU: 3.23)
Gofynnon ni gwestiynau eraill am lesiant hefyd. Fe wnaethon ni ddarganfod:
- bod 70 y cant yn teimlo bod eu morâl yn dda
- bod 59 y cant yn teimlo eu bod yn cael trafferth peidio meddwl am y gwaith ar ôl gorffen
- bod 34 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
- mai llwyth gwaith (58 y cant), gwaith papur neu faich gweinyddol (52 y cant), a phoeni am bethau’r tu allan i’r gwaith (26 y cant) oedd prif achosion straen
- bod 54 y cant wedi awgrymu eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylen nhw fod wedi aros gartref.
Amodau gweithio
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 72 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu rheolwr
- 81 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr
- 48 y cant yn awgrymu bod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau
- 55 y cant yn teimlo eu bod yn gallu bodloni anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cynorthwyo.
Gofynnon ni hefyd faint yr oedd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gwahanol grwpiau maen nhw’n rhyngweithio â nhw.
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 74 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwr
- 85 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr
- 74 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo
- 55 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner
- 35 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd.
Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr yn Bath Spa University a Buckinghamshire New University, a chydweithwyr o Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW).