Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2025: Crynodeb o ymatebion gan weithwyr cymdeithasol
Dyma grynodeb o ymatebion i arolwg ‘Dweud eich Dweud’ y gweithlu 2025, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.
Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr.
Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y gweithwyr cymdeithasol.
Mae’r grŵp hwn o ymatebwyr yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd (21 y cant), gweithwyr cymdeithasol oedolion (41 y cant), gweithwyr cymdeithasol plant ac oedolion (13 y cant), myfyrwyr gwaith cymdeithasol (chwech y cant), rheolwyr gwaith cymdeithasol eraill (13 y cant), a gweithwyr cymdeithasol eraill (chwech y cant).
Gallwch ddysgu rhagor am yr ymchwil a chael mynediad at yr adroddiad llawn yma.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r crynodeb hwn fel ddogfen Microsoft Word.
Demograffeg
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- yr oedran fwyaf cyffredin rhwng 40 a 44 oed
- 76 y cant yn fenywaidd a 22 y cant yn wrywaidd
- 86 y cant yn syth/heterorywiol
- 72 y cant yn Wyn ac 17 y cant yn Ddu
- 24 y cant yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O’r rhai â chyflwr hirdymor, dywedodd 51 y cant ohonyn nhw ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
- 35 y cant yn awgrymu eu bod yn ofalwr y tu allan i’r gwaith
- 17 y cant yn dweud eu bod yn niwrowahanol
- 48 y cant yn dweud eu bod yn gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg
- 20 y cant yn dweud eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser
- 82 y cant yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy’n darparu gofal cymdeithasol, fel awdurdod lleol, corff trydydd sector neu gwmni preifat, a bod saith y cant yn cael eu cyflogi gan asiantaeth
- 49 y cant yn dweud eu bod yn aelod o undeb llafur, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn aelod o UNISON (32 y cant) neu Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol (wyth y cant).
Recriwtio a chadw
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 55 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod am gael swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Teimlai 13 y cant y byddai’n addas i’w sgiliau, ac 11 y cant y bydden nhw’n ei fwynhau. Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rheswm
- 39 y cant wedi dod i wybod am weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy ffrindiau a theulu sy’n gweithio yn y sector, 21 y cant trwy hysbysebu ar-lein, a naw y cant trwy ffeiriau neu gwmnïau recriwtio
Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 45 y cant eisiau rôl arwain yn y dyfodol
- 65 y cant o’r farn ei bod yn bosibl iddyn nhw ddod yn arweinydd
- 30 y cant wedi ceisio camu ymlaen yn y flwyddyn ddiwethaf
- 83 y cant o’r farn bod ganddyn nhw ddigon o hyfforddiant i wneud eu swydd yn dda, ac 83 y cant eu bod yn cael digon o hyfforddiant i gyflawni gofynion DPP
- 51 y cant yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant i symud ymlaen yn eu gyrfa
- 60 y cant yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw broblemau o ran cael gafael ar hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith.
Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu
Yma, rydyn ni’n cyflwyno canran y gweithwyr cymdeithasol a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu neu gwahaniaethu o wahanol ffynonellau yn y 12 mis diwethaf.
- Gan reolwyr: Bwlio (11 y cant), gwahaniaethu (10 y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu neu gwahaniaethu gan reolwr, dywedodd 49 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr. O’r rhai a adroddodd, teimlodd 18 y cant ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
- Gan gydweithwyr: Bwlio (wyth y cant), gwahaniaethu (pump y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu neu gwahaniaethu gan gydweithiwr, dywedodd 60 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr. O’r rhai a adroddodd, teimlodd 30 y cant ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
- Gan bobl maen nhw’n eu cefnogi neu eu teulu: Bwlio (saith y cant), aflonyddu (saith y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu neu gwahaniaethu gan bobl maen nhw’n eu cefnogi neu eu teulu, dywedodd 72 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr. O’r rhai a adroddodd, teimlodd 49 y cant ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
Fe wnaethon ni ddarganfod hefyd bod 69 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr wedi gweithredu’n deg mewn penderfyniadau am symud ymlaen yn eu gyrfa a dyrchafu, yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig.
Cyflog, telerau ac amodau
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 71 y cant yn hapus â’u telerau ac amodau
- chwech y cant yn cael eu cyflogi ar gontract dim oriau. O’r rhai a oedd ar gontract o’r fath, awgrymodd 80 y cant y byddai’n well ganddyn nhw fod ar gontract oriau sefydlog neu oriau rheolaidd
- 51 y cant yn teimlo eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, 25 y cant ‘dim ond yn llwyddo o drwch blewyn i dalu am bopeth angenrheidiol’, a 22 y cant yn ei chael hi’n ‘eithaf’ anodd neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi’n ariannol
- 49 y cant naill ai’n ei chael hi’n ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd ymdopi’n ariannol o gymharu â’r llynedd, a 13 y cant naill ai ‘ychydig’ yn haws neu’n ‘llawer’ haws
- 39 y cant yn anfodlon â’u tâl.
Iechyd a llesiant
Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio ONS4 – pedwar mesur sy’n cael eu defnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n defnyddio graddfa rhwng sero a 10. Cymharon ni’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn gyda chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Mae pob un o’r canfyddiadau isod yn uwch na chyfartaledd y DU:
- Boddhad â bywyd: 7.51 (Cyfartaledd y DU: 7.45)
- Mae bywyd yn werth chweil: 7.93 (Cyfartaledd y DU: 7.73)
- Hapusrwydd ddoe: 7.46 (Cyfartaledd y DU: 7.39)
- Gorbryder: 5.38 (Cyfartaledd y DU: 3.23)
Gofynnon ni gwestiynau eraill am lesiant hefyd. Fe wnaethon ni ddarganfod:
- bod 76 y cant yn teimlo bod eu morâl yn dda
- bod 54 y cant yn teimlo eu bod yn cael trafferth peidio meddwl am y gwaith ar ôl gorffen
- bod 40 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
- mai llwyth gwaith (50 y cant), gwaith papur neu faich gweinyddol (47 y cant), a phoeni am bethau’r tu allan i’r gwaith (27 y cant) oedd prif achosion straen
- bod 49 y cant wedi awgrymu eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylen nhw fod wedi aros gartref.
Amodau gweithio
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 74 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu rheolwr
- 84 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr
- 57 y cant yn awgrymu bod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau
- 62 y cant yn teimlo eu bod yn gallu bodloni anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cynorthwyo.
Gofynnon ni hefyd faint yr oedd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gwahanol grwpiau maen nhw’n rhyngweithio â nhw.
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 74 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwr
- 83 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr
- 76 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo
- 55 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner
- 37 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd.
Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr yn Buckinghamshire New University a Bath Spa University, a chydweithwyr o Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW).