Deall atyniad, recriwtio ac ymddygiadau ceisio gwaith - adroddiadau ac adnoddau
07 Mai 2024
Canolig
Fe wnaethon ni gomisiynu sefydliad o’r enw Urban Foresight i gynnal ymchwil a archwiliodd sut i fynd i’r afael â’r heriau gweithlu sy’n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rhannwyd yr ymchwil ar draws dwy thema:
- Deall ymddygiadau ceisio gwaith
- Deall atyniad a recriwtio a rôl Gofalwn Cymru
Yn ogystal â chynhyrchu adroddiadau ac argymhellion ar draws y ddau faes ymchwil, gan gynnwys adroddiad sy’n canolbwyntio’n benodol ar y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant, cynhyrchodd y gwaith ddau adnodd newydd ar gyfer cyflogwyr:
- Canllaw denu, recriwtio a chadw - Mae’r canllaw yn cynnwys cyngor ar bethau fel y ffordd orau o ddenu pobl i weithio yn y sector a gwneud i staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ar ôl iddyn nhw ymuno.
- Pecyn cymorth personas defnyddwyr - Mae'r pecyn cymorth yn disgrifio sut i ddefnyddio personas defnyddwyr i gefnogi ceiswyr gwaith yn y sector gofal cymdeithasol, gyda sawl person enghreifftiol.
Gallwch lawrlwytho'r ddau adnodd, ynghyd â phob un o'r adroddiadau, am ddim isod.