Skip to Main content

Deall rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol

03 Mehefin 2025
Hir

Mae'r adroddiad hwn yn ein helpu i ddeall yn well sut mae gwirfoddoli’n cyfrannu at ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cafodd yr astudiaeth ymchwil ei gomisiynu'r llynedd i gasglu mewnwelediad gan wirfoddolwyr, staff gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill ynghylch eu profiadau o wirfoddoli.

Ffocws yr ymchwil oedd gwirfoddoli mewn cartrefi gofal preswyl sy'n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru. Defnyddiodd y tîm wahanol ddulliau i gasglu tystiolaeth, gan gynnwys adolygiad tystiolaeth gyflym, astudiaethau achos ansoddol ac arolwg ar-lein. 

Mae'r canfyddiadau’n ein helpu i ddeall mwy am bethau fel:

  • graddfa gwirfoddoli mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru
  • pwy sy'n gwirfoddoli a pham
  • gwahanol rolau y mae gwirfoddolwyr yn eu chwarae
  • Sut i recriwtio, hyfforddi, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr
  • manteision a heriau gwirfoddoli
  • yr hyn sydd angen newid mewn polisi ac arfer i wella gwerth gwirfoddoli.

Cafodd yr ymchwil ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, sydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Prifysgol De CymruSefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Ganolfan Effeithiolrwydd Elusennol yn Ysgol Fusnes Bayes oedd yn cynnal yr ymchwil.