Skip to Main content

Dysgu digidol yn natblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru: Dysgu o COVID-19 a llywio dulliau yn y dyfodol

23 Chwefror 2024
Canolig

Fe wnaethon ni ofyn i’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth adolygu’r dystiolaeth ar ddysgu digidol mewn ymateb i’r defnydd cynyddol ers 2020 i alluogi staff gofal cymdeithasol rheng flaen i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Cynhalion nhw weithdai a chyfweliadau yng Nghymru gyda staff awdurdodau lleol, darparwyr gofal cymdeithasol, darparwyr hyfforddiant, rheolwyr Gofal Cymdeithasol Cymru, a gweithwyr rheng flaen.

Darllen yr adroddiad.