
Gwerth economaidd a chymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru
Mae gofal cymdeithasol yn darparu cymorth allweddol i bobl o bob oed yn ein cymunedau. Mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf gan Brif Arolygydd Gofal Cymru yn dangos bod y rhan fwyaf o’r gofal hwn yn cael ei sgorio’n ‘dda’ neu’n ‘ardderchog’.
Rydyn ni’n gwybod fod y bobl sy’n derbyn gofal a chymorth, yn ogystal â’u teuluoedd, yn gwerthfawrogi’r gofal hwn, a dywedodd 72 y cant o’r cyhoedd yng Nghymru yn 2023 bod ganddyn nhw hyder yn y bobl sy’n gweithio ym maes gofal.
Ond, nid yw’r cyfraniad pwysig y mae gofal cymdeithasol yn ei wneud i gymdeithas ac economi Cymru yn cael digon o gydnabyddiaeth.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cafodd Alma Economics eu comisiynu gan Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu i ysgrifennu cyfres o adroddiadau i ddadansoddi gwerth economaidd a chymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn y Deyrnas Unedig ac ym mhob un o’r pedair gwlad, gan ddefnyddio data o 2022 a 2023.
Mae canfyddiadau’r adroddiadau’n cael eu defnyddio i gyfrannu at y canlynol:
- yr achos economaidd dros fuddsoddi ym maes gofal cymdeithasol a’r gweithlu
- creu polisïau
- penderfyniadau am fuddsoddiadau yn yr adolygiad cenedlaethol o wariant.
Bu i'r adroddiad ganfod mai £4.6 biliwn oedd gwerth anuniongyrchol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru.
Yn 2023, £22.6 biliwn oedd buddion economaidd-gymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru, ac £8.1 biliwn oedd y costau.
Golyga hyd fod pob £1 a wariwyd ar ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru wedi arwain at werth £2.78 o fuddion economaidd-gymdeithasol.
Awgryma hyn bod gwerth economaidd a chymdeithasol gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn fwy na chostau darparu gofal.
Gallwch chi ddysgu mwy am ganfyddiadau’r adroddiad yn ein crynodeb o’r data.
Gwerth economaidd a chymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion: dadansoddiad cenedlaethol a dadansoddiad o'r sefyllfa yn y Deyrnas Unedig
Os hoffech chi ddysgu mwy am werth economaidd a chymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn y Deyrnas Unedig, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn 2023, ewch i wefan Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygu.