Gwerthuso'r rhaglen cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau
Fe wnaethon ni ofyn i’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE) adolygu’r dystiolaeth ar ein rhaglen newydd sy’n canolbwyntio ar ryddhau o'r ysbyty. Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol a gymerodd ran yn y rhaglen yn meddwl gallai arwain at arosiadau byrrach i gleifion.
Bwriad y rhaglen Cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau (BRR): rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol integredig – cefnogi newid diwylliannol oedd canolbwyntio mwy ar gryfderau cleifion wrth wneud penderfyniadau i'w rhyddhau o’r ysbyty.
Wnaethon ni ddatblygu'r rhaglen trwy adeiladu ar ddwy raglen iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli, ac sy’n rhannu egwyddorion cyffredin – Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol a Nodau Gofal.
Gan weithio gydag Uned Gyflawni’r GIG, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac awdurdodau lleol rhanbarth Gwent, wnaethon ni brofi’r rhaglen gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses ryddhau cleifion o’r ysbyty.
Cafodd y gwaith hwn ei wneud yn ystod y pandemig coronafeirws.