Cwmpasu fframwaith datblygiad proffesiynol ar gyfer dadansoddwyr gofal cymdeithasol
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y gweithlu data mewn awdurdodau lleol.
Roedden ni eisiau gwybod pwy oedd yn gweithio gyda data ym maes gofal cymdeithasol a deall sut wnaethon nhw ddysgu eu sgiliau, a'r ffordd orau o'u cefnogi i ddatblygu'r sgiliau hynny ac i ddefnyddio data gofal cymdeithasol.
Yr hyn roeddem ni'n awyddus i'w ddarganfod
Roeddem ni am ddysgu mwy am y bobl sy’n gweithio ym maes data yn y gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol.
Roedden ni eisiau gwybod:
- sut mae pobl yn dod i weithio mewn rolau data gofal cymdeithasol
- sut maent yn ennill sgiliau
- pa gyfleoedd sydd ganddynt ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a dilyniant gyrfa
- a fyddai'n ddefnyddiol cael cynllun datblygiad proffesiynol i helpu i wella sgiliau pobl.
Beth wnaethom ni
Ar ddechrau 2022, fe wnaethom ni gomisiynu Social Finance, cwmni ymgynghori dielw, i gynnal ymchwil i ddarganfod mwy am y bobl sy’n gweithio ym maes data yng ngwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.
Daeth yr ymchwil â mwy nag 80 o bobl ynghyd o awdurdodau lleol, gofal iechyd, addysg uwch a sefydliadau llywodraeth ledled Cymru. Fe wnaethon nhw gymryd rhan mewn gweithdai, cyfweliadau ac arolwg.
Yr hyn a ddywedodd yr ymchwil wrthym
Canfu’r ymchwil dystiolaeth o amrywiaeth o sgiliau a galluoedd ar gyfer defnyddio data’n effeithiol a bod gan wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru lawer o’r un problemau â sgiliau data â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd y rhan fwyaf o ddadansoddwyr wrthym eu bod wedi dysgu eu sgiliau ‘yn y swydd’ oherwydd gall cyfleoedd hyfforddi ar gyfer dadansoddwyr data fod yn ddrud.
Canfuom hefyd nad yw rheolwyr timau data bob amser yn gwybod pa gyrsiau y dylent anfon eu staff arnynt, ac yn aml, mae cyrsiau hyfforddi mewnol yn ymdrin â phynciau fel llywodraethu data yn unig.
Dywedodd yr ymchwil wrthym hefyd fod y dadansoddwyr data angen sgiliau data technegol a gwybodaeth dda am ofal cymdeithasol i fod mor llwyddiannus â phosibl. Gall fod yn anodd cael y wybodaeth hon heb lawer o brofiad yn y swydd.
Yr hyn rydyn ni'n ei wneud o ganlyniad i’r ymchwil
Mae gan yr adroddiad argymhellion a allai gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes data ym maes gofal cymdeithasol.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
- cyflwyno cyfres o brosiectau ar raddfa fach, megis creu llyfrgell adnoddau hyfforddi
- swydd ddisgrifiadau torfol i weld a yw hyn yn helpu'r gweithlu i ddatblygu
- dod â dadansoddwyr data ynghyd mewn cymuned ar-lein
- gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu eu teithiau data.