Skip to Main content

Y ddyfais botensial ddigidol: Golwg ar aeddfedrwydd a llythrennedd digidol y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru

24 Gorffennaf 2025
Hir

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau cynnar ein dyfais botensial ddigidol, sy'n helpu staff mewn sefydliadau gofal cymdeithasol i ddeall eu sgiliau a'u galluoedd digidol yn well.

Mae'r ddyfais hefyd yn cefnogi sefydliadau i nodi bylchau sgiliau a thargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf.

Fe wnaethon ni lansio'r ddyfais ym mis Ionawr 2025, ac mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar ymatebion 1,200 o unigolion ar draws 295 o sefydliadau.

Beth wnaethon ni ddarganfod

Fe wnaethon ni ddarganfod lefelau uchel o sgiliau digidol sylfaenol ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o ymatebwyr yn teimlo'n hyderus gyda thasgau digidol sylfaenol fel mynd ar-lein (92 y cant), chwilio am wybodaeth (95 y cant) ac ymuno â chyfarfodydd rhithwir (93 y cant).

Dywedodd staff sy'n darparu gofal a chefnogaeth uniongyrchol bod ganddyn nhw hyder uchel wrth helpu'r bobl maen nhw’n eu cefnogi i ddefnyddio offer digidol bob dydd, fel ffonau symudol, galwadau fideo a chyfryngau cymdeithasol.

Ar draws y rhan fwyaf o rolau a mathau o ddarparwyr, mae pobl eisiau dysgu sgiliau digidol newydd ac mae ganddyn nhw’r hyder i wneud hynny. Rhannodd 78 y cant eu bod yn hyderus yn dysgu sut i ddefnyddio offer a thechnolegau digidol newydd.

Yn gyffredinol, nododd staff ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru hyder da mewn diogelwch sylfaenol. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr (96 y cant) yn teimlo o leiaf rhywfaint yn hyderus wrth gadw systemau, dyfeisiau a data yn ddiogel yn eu gwaith.

Ond nododd yr adroddiad hefyd rai bylchau sgiliau pwysig, gan gynnwys:

  • datrys problemau technegol – dywedodd staff ar draws pob grŵp gweithlu eu bod yn cael trafferth datrys problemau technegol o ddydd i ddydd, hyd yn oed os ydyn nhw’n gyfforddus yn defnyddio offer digidol ar gyfer tasgau eraill
  • technolegau arbenigol ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn – dim ond 45 y cant o staff sy'n teimlo'n hyderus yn defnyddio technoleg ar gyfer llesiant, fel dyfeisiau therapi rhyngweithiol
  • deall a defnyddio offer AI – mae 41 y cant yn adrodd hyder isel neu ddim hyder yn y maes hwn, gyda llawer ddim yn ei weld yn berthnasol i'w rôl. Clywon ni hefyd gan 39 y cant sydd 'byth' yn defnyddio offer AI.

O ran seilwaith digidol, dywedodd 87 y cant o'r staff fod ganddyn nhw’r dechnoleg sydd ei hangen arnyn nhw i weithio'n effeithiol, gydag 84 y cant yn cytuno bod eu hoffer yn cael ei gynnal a'i ddiweddaru'n dda.

Mae dibynadwyedd rhyngrwyd swyddfa yn uchel (95 y cant), ond mae cysylltedd mewn lleoliadau cymunedol yn amrywio. Yn galonogol, mae arferion seiberddiogelwch yn gryf ar draws pob sefydliad, gydag 88 y cant o staff TG 'bob amser' neu 'weithiau' yn gwneud yn siŵr bod amddiffyniad malware neu antivirus yn cael ei osod a'i ddiweddaru ar bob dyfais.

Ond dywedodd staff TG fod cael gwahanol systemau i weithio gyda'i gilydd yn dal i fod yn her, gyda dim ond 35 y cant yn cytuno'n gryf bod eu gwahanol systemau yn cysylltu ac yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol.

Gwelon ni hefyd, er bod gan 34 y cant o sefydliadau preifat a thrydydd sector gynlluniau digidol clir ar waith, mae hyn yn gostwng i 16 y cant ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae rhannu dysgu ar drawsnewid digidol gyda sefydliadau eraill yn faes arall i'w wella. Dim ond 53 y cant o sefydliadau sy'n gwneud hyn o leiaf 'weithiau'

Beth mae'r adroddiad yn ei argymell

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

  • sefydlu cymuned ymarfer digidol genedlaethol i gysylltu dysgu, rhannu adnoddau a meithrin hyder digidol
  • datblygu fframwaith 'sut mae dda yn edrych’
  • creu fframwaith gallu digidol gyda llwybrau dysgu sydd wedi'u teilwra i weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ac sy'n mynd i'r afael â gofynion unigryw eu rolau yn seiliedig ar y fframwaith 'sut mae dda yn edrych'
  • gwneud cyfleoedd hyfforddi yn fwy gweladwy a hygyrch
  • rhannu enghreifftiau o arfer da o ddulliau hyfforddi a chyfathrebu sy'n cael eu defnyddio mewn sefydliadau sy'n hyderus yn ddigidol. Gellid gwneud hyn drwy'r porwr prosiectau ar ein gwefan Grwp Gwybodaeth.
  • creu rhaglen datblygu sgiliau digidol wedi'i thargedu a fyddai'n defnyddio canfyddiadau o'r ddyfais botensial ddigidol, y fframwaith gallu digidol, ac yn adeiladu ar yr hyfforddiant presennol
  • cryfhau arweinyddiaeth ddigidol a chynllunio strategol digidol
  • datblygu canllawiau ar y defnydd o dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, fel AI.

Mae'r argymhellion ar gyfer y sector gofal cymdeithasol cyfan, felly bydd angen i ni weithio gyda'n gilydd fel partneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i gyd-ddatblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar y canfyddiadau.

Wrth ddatblygu'r cynllun gweithredu, bydd angen i ni feddwl am bwy sydd orau i fynd â'r argymhellion ymlaen, beth mae'r argymhellion yn ei olygu yn ymarferol, pa adnoddau sydd eu hangen a sut byddan nhw’n cael eu hariannu.

Fe welwch restr lawn o'r argymhellion a mwy o wybodaeth am bob un ohonyn nhw yn yr adroddiad

Darllenwch yr adroddiad