
Telerau ac amodau ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer
Drwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer, rydych chi'n cytuno â'r telerau ac amodau canlynol:
1. Cymhwysedd
Mae'r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd wedi dechrau neu sydd wrthi'n dechrau cymuned ymarfer i fynd i'r afael â her gofal cymdeithasol. Rhaid i'r her fod yn fater gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â'n strategaeth Ymlaen.
Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?
Mae'r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd â rôl yn y sector gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru, gan gynnwys:
- mewn awdurdodau lleol
- darparwyr preifat neu annibynnol o wasanaethau gofal oedolion a phlant
- trydydd sector neu gwirfoddol - elusennau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru
- Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru - sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru
- partneriaid mewn sectorau eraill sydd â rôl allweddol ym maes gofal cymdeithasol fel iechyd, tai neu ddigidol
- gwesteion sy'n cael eu gwahodd o sefydliadau partner a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled Cymru yn ôl disgresiwn Gofal Cymdeithasol Cymru.
Pwy sydd ddim yn gymwys?
Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal plant a blynyddoedd cynnar, efallai na fyddwch chi'n gymwys.
Os nad ydych chi'n siŵr os ydych chi'n gymwys, cysylltwch â ni cyn i chi wneud cais. Mae ein tîm yn hapus i drafod syniadau a chymhwysedd cyn i chi gyflwyno eich ffurflen mynegi diddordeb.
2. Mynegi diddordeb
Byddwn ni'n ystyried ceisiadau pan fyddwn ni'n derbyn ffurflen mynegi diddordeb wedi'i chwblhau.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu paru â rheolwr cymunedol ar ôl i'w cais gael ei drafod gan banel dethol. Byddwch chi'n derbyn cadarnhad o'ch cais a'ch bod wedi’ch dewis drwy e-bost.
Dydyn ni ddim yn derbyn ceisiadau dros y ffôn.
Dydy cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb ddim yn gwarantu cymorth.
Rhaid i bob cyfranogwr fynychu sesiwn wybodaeth cyn cael ei ystyried. Mae gwybodaeth am ein sesiwn gwybodaeth nesaf ar ein tudalen cymorth a datblygu cymunedau ymarfer.
Bydd y pecyn cymorth a hyd y cymorth yn cael eu cytuno gyda'r cyfranogwyr cyn dechrau darparu’r cymorth.
Mae cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb yn cadarnhau eich bod yn cytuno â'r telerau ac amodau hyn.
3. Cadarnhad
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cadarnhad o'u cais drwy e-bost, a bydd cadarnhad o'r penderfyniad yn cael ei wneud o fewn 21 diwrnod.
Os yw rheolwr cymunedol yn cael ei neilltuo i’ch prosiect, bydd yn cysylltu â chi i drefnu galwad fideo i drafod y cymorth a threfnu amserlen ar gyfer pryd bydd y cymorth yn cael ei ddarparu.
4. Ein cyfrifoldeb i ddiogelu eich data
Rydyn ni wedi cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
At ddibenion y gwasanaeth hwn, rydyn ni'n casglu ac yn prosesu'r wybodaeth hon fel rhan o'n rhwymedigaethau cyfreithiol. O dan adran 69 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf"), gallwn roi i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaeth gofal a chymorth gyngor neu gymorth arall (gan gynnwys grantiau) er mwyn hybu a gwella’r modd mae'r gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu.
Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:
- prosesu ceisiadau
- cadw rhestr o ymgeiswyr
- darparu gwasanaeth cydgysylltiedig gyda rhannau eraill o Ofal Cymdeithasol Cymru
- cysylltu â chi am y gwasanaeth
- rhoi gwybod i chi am hyfforddiant, dysgu ac adnoddau perthnasol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth
- cefnogi gweithgareddau
- hyrwyddo'r gwasanaeth yng Ngofal Cymdeithasol Cymru
- darparu adborth am y gwasanaeth a ffurfio rhan o'i werthuso
- eich gwahodd i fynychu digwyddiadau a rhwydweithiau
- llunio ystadegau er mwyn monitro ac adrodd.
Efallai y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth hon gyda:
- aelodau'r panel dethol
- unigolion sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth hon
- gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cymru
- cyflenwyr trydydd parti sy'n ymwneud â darparu a gwerthuso'r gwasanaeth hon.
Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys pob cais llwyddiannus ac aflwyddiannus) am 12 mis ar ôl i ni werthuso ein gwaith. Mae hyn yn ein galluogi i adrodd ar ein gweithgarwch a defnyddio data gwerthuso i wella ein gwasanaeth. Ar ôl y pwynt hwn, bydd eich gwybodaeth yn ddienw.
Os hoffech chi ddiweddaru eich manylion, e-bostiwch communities@socialcare.wales
Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data a sut a pham rydyn ni'n prosesu eich data personol ar gael ar ein hysbysiad preifatrwydd.
5. Cymhwyso safonau cyfle cyfartal i'n prosesau mynegi diddordeb a dethol
5.1 Mae'r safonau hyn yn amlinellu'r nodau a'r amcanion wrth gynnal a hyrwyddo cyfle cyfartal a chyfrifoldebau'r rheolwyr cymunedol a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r gwasanaeth, ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi ymrwymo'n llawn i fabwysiadu a hyrwyddo egwyddorion allweddol a threfniadau gweithio'r safonau hyn.
5.2 Mae cyfle cyfartal yn cael ei gydnabod gan Ofal Cymdeithasol Cymru fel hawl sylfaenol i bob defnyddiwr a chan y rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau cymorth.
5.3 Ni fydd unrhyw gyfranogwr nac unigolyn neu tîm yn cael ei drin yn llai ffafriol yn ystod y broses mynegi diddordeb, y camau dethol, neu sesiynau cymorth, ar sail hil, crefydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu oedran.
5.4 Mae tîm Gofal Cymdeithasol Cymru yn cydnabod bod cyfle cyfartal o fudd cadarnhaol i ddysgu.
5.5 Mae rheolwyr cymunedol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau posibl dros sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu hyrwyddo. Mae disgwyl iddyn nhw fod yn effro i ymarfer gwahaniaethol sy’n digwydd neu a allai ddigwydd ganddyn nhw eu hunain ac eraill sy'n ymwneud â hwyluso gweithgareddau cymorth mewn unrhyw ffordd.
5.6 Gall unrhyw ymarfer y mae'r tîm o reolwyr cymunedol yn sylwi arno neu yn ystyried sy’n groes i'r safonau hyn arwain at reolwr cymunedol yn tynnu’n ôl ei gymorth ar gyfer prosiect.
5.7 Bydd prosesau yn cael eu cynllunio i gefnogi'r safonau hyn.
5.8 Mae gan unrhyw gyfranogwr, grŵp neu unigolyn yr hawl i godi unrhyw agwedd o'r gweithgareddau cymorth yn ffurfiol os ydyn nhw'n credu eu bod wedi bod yn destun gwahaniaethu neu aflonyddu.
5.9 Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn mynd ati’n rheolaidd i fonitro’r modd mae'r polisi hwn yn cael ei weithredu a chanlyniadau ei roi ar waith.
6. Dewis iaith
Rydyn ni'n cynnig ein holl wasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau am ein gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg.
Ni fyddwn yn trin un iaith yn fwy ffafriol na'r llall.
Byddwn ni'n defnyddio eich dewis iaith i gefnogi sut mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig i chi.
Os nad ydych chi'n hapus gyda'r ffordd y mae'r gwasanaeth wedi'i ddarparu i chi drwy'r Gymraeg, cysylltwch â Stephanie Griffith, ein Rheolwr Arloesedd, ar stephanie.griffith@gofalcymdeithasol.cymru a byddwn ni'n ymateb i'ch pryderon.
7. Cwynion
Os nad ydych chi'n hapus gyda safon y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, cysylltwch â Stephanie Griffith, ein Rheolwr Arloesedd, ar stephanie.griffith@gofalcymdeithasol.cymru neu Emma Taylor-Collins, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data ac Arloesedd, ar emma.taylor-collins@gofalcymdeithasol.cymru neu cwblhewch ein ffurflen gwyno.