Ein gwaith strategaeth
Rydyn ni'n darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer nifer o brosiectau sydd â'r nod o gael data a thystiolaeth i mewn i bolisïau, arferion a chynlluniau gwasanaethau.
Mae hyn yn cynnwys ein gwaith ar:
- arwain datblygiad Ymlaen, y strategaeth newydd ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru
- darparu arweiniad ar gyfer rhoi tystiolaeth ar waith
- arwain prosiectau data strategol
- arwain ffrwd gofal cymdeithasol rhaglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru.