Archebwch eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn
Cwblhewch ein ffurflen byr ar-lein er mwyn sicrhau eich lle.
Rydyn ni'n lansio Cymuned Ddigidol Gofal Cymdeithasol Cymru – cymuned ymarfer ar gyfer digidol ym maes gofal cymdeithasol.
Mae’r gymuned yn agored i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru a bydd yn eu cefnogi i feithrin hyder digidol a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Yn ogystal â chyfle i gysylltu drwy blatfform ar-lein, bydd y gymuned hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar bynciau perthnasol.
Mae’r digwyddiad cyntaf hwn yn agored i bawb a bydd yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer cyfeiriad y gymuned yn y dyfodol. Nid oes angen unrhyw arbenigedd.
Yn ystod y sesiwn ar-lein hon byddwn yn archwilio:
Mae digidol ar gyfer pawb – felly does dim ots os ydych chi’n dechrau arni, yn ansicr ynghylch digidol neu’n archwilio technolegau sy’n dod i’r amlwg. Mae yna groeso i bawb.
Bydd gennych gyfle i gwrdd â phobl eraill, rhannu eich meddyliau a llunio cyfeiriad y gymuned.
Cwblhewch ein ffurflen byr ar-lein er mwyn sicrhau eich lle.