Cymuned Ddigidol
Ymunwch â Chymuned Ddigidol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Cymuned Ddigidol Gofal Cymdeithasol Cymru yn fan lle gallwch feithrin eich hyder gyda dulliau digidol, dysgu o brofiadau eraill, archwilio technoleg newydd a gwneud cysylltiadau.
Does dim ots os ydych chi’n dechrau ar eich taith ddigidol neu eisoes yn archwilio technolegau sy’n datblygu, mae croeso i chi ymuno.
Gweledigaeth y gymuned yw creu sector lle mae digidol yn cael ei defnyddio'n hyderus i ddarparu gofal gwell.
Mae’n cynnig cymysgedd o gyfleoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb i gysylltu a dysgu gan aelodau eraill.
Rydyn ni'n cynnal digwyddiadau cymunedol yn rheolaidd sy’n cwmpasu ystod o bynciau perthnasol. Mae gan aelodau hefyd fynediad at blatfform ar-lein, lle gallan nhw drafod pynciau ar ein bwrdd negeseuon, darllen neu ysgrifennu blog, a chael mynediad at ystod o adnoddau defnyddiol.
Ymunwch â’r Gymuned Ddigidol os ydych chi:
Os hoffech chi rannu eich llwyddiannau yn y maes digidol neu siarad am sut mae eich gwaith yn mynd i’r afael â heriau drwy ddefnyddio digidol er budd gofal cymdeithasol, cysylltwch â rheolwr y gymuned, Lilla Vér.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am ein Cymuned Ddata ar wahan yma.
Ymunwch â Chymuned Ddigidol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rheolwr Cymunedol - Cymuned Ddigidol
lilla.ver@gofalcymdeithasol.cymruFi yw Lilla, a byddaf yn gofalu am ein Cymuned Ddigidol newydd.
Fy nod yw creu a meithrin lle diogel i bobl ddysgu gyda’i gilydd, cysylltu a chefnogi ei gilydd.
Rwyf wedi datblygu ac arwain cymuned ymarfer arall yn y gorffennol, gan gasglu llawer o ddysgu y byddaf yn ei ddefnyddio yn y gymuned hon.
Rwy’n chwilfrydig am ddigidol ac yn awyddus i ddyfnhau fy nealltwriaeth o ddigidol ym maes gofal cymdeithasol ochr yn ochr â chi.