Dod o hyd i’r cymorth cywir: sesiwn galw heibio arloesedd
Dewch i ddarganfod sut y gallwn eich cefnogi i ddatblygu a gwella eich ymarfer a’r gwasanaethau rydych yn eu darparu.
Rydyn ni'n cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd i roi mwy o wybodaeth i chi am sut rydyn ni'n cefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol.
Yn y sesiynau ar-lein hyn, bydd Angharad Dalton, ein Pennaeth Gallu ac Anogaeth Aroloesedd, wrth law i gynnig cyngor ac i’ch cyfeirio at gymorth perthnasol Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r sesiynau’n agored, yn anffurfiol ac heb strwythur. Os ydych chi'n chwilfrydig ynghylch pa gymorth sydd ar gael neu eisiau archwilio syniadau newydd, hoffem yn fawr i chi ymuno â ni.
Nid oes angen i chi aros am y sesiwn gyfan – galwch heibio ar unrhyw adeg.
Archebwch eich lle
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i sicrhau eich bod yn derbyn dolen ar gyfer y sesiwn o’ch dewis.