Skip to Main content

Llunio'r Gymuned Ddata gyda'n gilydd

Mae'r sesiwn hon yn dod â phobl ynghyd i helpu i lunio Cymuned Data Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r Gymuned Data ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru sy'n credu y gall gwell defnydd o ddata gefnogi gwell gofal. Mae'n cysylltu pobl o wahanol rolau a sefydliadau i rannu syniadau, dysgu oddi wrth ei gilydd ac archwilio sut y gall data wella gwneud penderfyniadau, ymarfer a chanlyniadau.

Fel rhan o lunio'r gymuned, byddwn yn dechrau ffurfio grŵp cynghori cychwynnol i helpu i arwain ei chyfeiriad a'i datblygiad.

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr data i gymryd rhan, dim ond diddordeb mewn sut y gall gwybodaeth gefnogi gofal mwy effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y person.

Mae'r sesiwn hon i:

  • unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd eisiau gwneud gwell defnydd o ddata
  • ymarferwyr, rheolwyr ac arweinwyr gwasanaeth
  • dadansoddwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi
  • pobl sy'n chwilfrydig ynghylch sut y gall data wella bywydau pobl.

Dyma fydd ein cyfle cyntaf i ddod ynghyd, rhannu blaenoriaethau, a sicrhau bod y gymuned yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysicaf

Archebwch eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn

Cwblhewch ein ffurflen byr ar-lein er mwyn sicrhau eich lle.