Cymuned Ddata
Ymunwch â Chymuned Ddata Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Cymuned Data Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru sy'n credu y gall defnydd gwell o ddata helpu i ddarparu gofal gwell.
P'un a ydych chi'n ddadansoddwr, strategydd, rheolwr, ymarferydd rheng flaen, neu'n chwilfrydig ynglŷn â sut y gall gwybodaeth wella bywydau pobl, mae croeso i chi gymryd rhan.
Mae'r gymuned yn dwyn ynghyd bobl o bob sefydliad a rôl i archwilio sut y gall data gefnogi gwneud penderfyniadau, cryfhau arfer, a gwella canlyniadau i bobl a chymunedau.
Gall aelodau:
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr data i gymryd rhan, dim ond diddordeb mewn sut y gall gwybodaeth gefnogi gofal mwy effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y person.
Mae'r gymuned yn cysylltu trwy ddigwyddiadau a llwyfan ar-lein lle gall aelodau barhau â thrafodaethau, rhannu adnoddau a chydweithio. Bydd grŵp cynghori cychwynnol yn helpu i lunio'r gymuned wrth iddi ddatblygu.
Ein nod yw adeiladu cymuned gefnogol ac ymarferol sy'n helpu gofal cymdeithasol yng Nghymru i wneud y gorau o'i ddata er budd pobl a chymunedau.
Ymunwch â Chymuned Ddata Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rheolwr Cymunedol - Cymuned Ddata
zoe.davies@gofalcymdeithasol.cymruRwy'n gofalu am ein Cymuned Ddata. Fy rôl i yw creu lle hygyrch, heb farnu, i ni feithrin ein sgiliau data, cysylltu â'n gilydd a rhannu dysgu. Rwy'n credu, trwy gydweithio, bod gan ddata gofal cymdeithasol y potensial i drawsnewid gwasanaethau a chanlyniadau i'r bobl sydd angen gofal a chymorth. Cyn hwn, roeddwn i'n ddadansoddwr data i Gofal Cymdeithasol Cymru a Dŵr Cymru.