Adnoddau newydd i'ch helpu i roi ein canllaw AI ar gyfer gofal cymdeithasol ar waith
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni lansio'r canllaw Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, a grëwyd i helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i archwilio sut y gellid defnyddio AI yn gyfrifol i gefnogi eu gwaith.
Gall AI gefnogi tasgau fel gweinyddu a chofnodi gwybodaeth yn fwy effeithlon, gan helpu gweithwyr i dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar y bobl maen nhw'n eu cefnogi.
Pan gaiff ei ddefnyddio'n gyfrifol, gall fod yn offeryn gwerthfawr ochr yn ochr â'r wybodaeth, y sgiliau a'r perthnasoedd sydd wrth wraidd gofal cymdeithasol.
Dros y 12 mis diwethaf, mae pobl sy'n gweithio ar draws rolau gofal cymdeithasol, digidol, data a pholisi wedi defnyddio'r canllaw i archwilio beth yw deallusrwydd artiffisial, sut y gellid ei ddefnyddio, a'r egwyddorion a ddylai arwain ei ddefnydd cyfrifol.
Blwyddyn yn ddiweddarach, rydym yn rhannu set newydd o adnoddau ategol i helpu i wireddu prif themâu'r canllaw.
Adnoddau newydd
Mae'r adnoddau newydd yn cynnwys animeiddiad byr a chyfres o bosteri sy'n dadansoddi themâu craidd y canllaw, gan helpu pobl i:
- dysgu am AI a pham ei fod yn bwysig i ofal cymdeithasol
- deall sut mae AI yn gweithio
- ystyried y prif egwyddorion ar gyfer defnyddio AI yn gyfrifol
- deall pwysigrwydd caniatâd gwybodus wrth ddefnyddio offer AI
- nodi meysydd lle gallai AI gefnogi eu gwaith.
Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi trafodaethau tîm, sesiynau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth ehangach, a gellir eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â'r canllaw llawn.
Er bod deallusrwydd artiffisial yn parhau i esblygu, mae un peth yn aros yr un fath: ni all technoleg ddisodli'r perthnasoedd dynol, y farn broffesiynol, y profiad a'r tosturi sydd wrth wraidd gofal cymdeithasol.
Ond, pan gaiff ei ddefnyddio'n gyfrifol, gall deallusrwydd artiffisial helpu i ryddhau mwy o amser ar gyfer rhyngweithiadau a chefnogaeth ystyrlon.
Adnoddau a chanllaw AI
Canllaw AI ar gyfer gofal cymdeithasol
Sesiwn sbotolau data gofal cymdeithasol
Ymunwch â ni am y cyntaf yn ein cyfres newydd o sesiynau sbotolau data gofal cymdeithasol lle byddwn yn edrych yn agosach ar yr adnoddau AI newydd. Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i archebu lle ar y sesiwn.