Skip to Main content

Archwilio’r pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion

05 Chwefror 2024

Archwilio’r pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion

Rydyn ni’n dechrau gweithio ar ymarfer gosod blaenoriaethau newydd sy’n ymateb i’r angen am fwy o ymchwil i’r pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. 

Byddwn ni’n gwrando ar ystod eang o bobl sy’n cyrchu ac yn darparu gofal a chymorth, yn ogystal ag ymchwilwyr a llunwyr polisi, a fydd yn dweud wrthym beth maen nhw eisiau gwybod a’i ddeall fwyaf. Rydyn ni wedi gweithio ar y cyd â’r James Lind Alliance (JLA) ar ddau ymarfer gosod blaenoriaethau. 

Rydyn ni wedi defnyddio’r rhain i lywio ac addasu ein hymagwedd at ymchwil gofal cymdeithasol a gosod blaenoriaethau.

Pam fod y pwnc hwn yn bwysig

Pan fydd person ifanc yn troi’n 18 oed ac yn cyrchu gofal a chymorth, gall symud o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.  

Weithiau bydd y cymorth sydd ar gael iddyn nhw fel plant yn dod i ben, neu mae’n llawer anoddach iddyn nhw gael gafael ar y cymorth hwnnw fel oedolyn.  

Gall pontio fod yn heriol iawn ac mae’n gyfnod o ansicrwydd a newid i bobl ifanc. 

Mae’n bwysig inni ddeall y gwahanol heriau. Yn sgil hynny gallwn ddarganfod sut i helpu pobl ifanc i symud ymlaen yn gadarnhaol trwy reoli'r broses yn ofalus a chael y cymorth cywir yn ei le.

Sut bydd yr ymarfer yn cael ei gynnal?

Rydyn ni’n bwriadu cynnal y prosiect am chwe mis, o fis Ionawr i fis Mehefin 2024.

Byddwn ni’n defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu barn pobl ar drawsnewidiadau ac yn chwilio am fylchau mewn gwybodaeth ac ymchwil.  

Byddwn ni’n cynnal gweithgareddau fel grwpiau ffocws, gweithdai a chyfarfodydd wedi’u hwyluso.  Rydyn ni hefyd wedi sefydlu gweithgor o arbenigwyr pwnc gan gynnwys ymarferwyr o ofal cymdeithasol oedolion a phlant, gweithwyr cymdeithasol, ymchwilwyr a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i’n helpu i lunio ac arwain yr ymchwil.

Byddwn ni’n casglu’r cwestiynau am drawsnewidiadau y gwyddom eu bod yn bwysig i’n grwpiau rhanddeiliaid ac ar gam olaf yr ymarfer, byddwn ni’n tynnu pobl ynghyd i gytuno ar y 10 cwestiwn blaenoriaeth uchaf ar gyfer ymchwil ar y pwnc hwn.  Byddwn ni’n rhannu ein hadroddiad ar ganfyddiadau’r ymchwil ar ein gwefan ar ddiwedd y prosiect.

Beth ydyn ni'n ei wneud â'n blaenoriaethau ymchwil?

Un o'r ffyrdd rydyn ni’n defnyddio ein blaenoriaethau ymchwil yw nodi pynciau ar gyfer ein crynodebau tystiolaeth. Mae crynodebau tystiolaeth yn rhoi trosolwg o’r ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud mewn maes.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Byddwn ni’n lansio arolwg ym mis Mawrth 2024 i gasglu barn a phrofiadau ynghylch pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. 

Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sydd â phrofiad personol o drawsnewidiadau neu bobl sy'n cefnogi'r trawsnewidiadau mewn rhyw ffordd, naill ai trwy waith neu fel aelod o'r teulu neu ofalwr.

Cadwch lygad ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol gan y byddwn ni'n hyrwyddo'r arolwg yn fuan.

Am fwy o wybodaeth ar hyn, neu ar ein gwaith gosod blaenoriaethau ehangach, cysylltwch ag: emma.taylor-collins@gofalcymdeithasol.cymru.