Cydweithio i wneud penderfyniadau ar ymchwil
Mae’r Grŵp Gwybodaeth yn ymwneud â sut rydyn ni’n cefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddefnyddio tystiolaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth. Yn draddodiadol, mae ymchwil yn cael ei wneud oherwydd bod cyllidwr neu ymchwilydd yn penderfynu ei fod yn bwysig. Ond rydyn ni'n credu ei bod yn bwysig gofyn i bobl sy’n cyrchu a darparu gofal a chymorth, pa ymchwil yr hoffen nhw ei weld.
Rydyn ni'n credu bod hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd ymchwil yn cael effaith ar arfer. Dyna pam rydyn ni’n mabwysiadu ymagwedd gynhwysol a democrataidd at osod blaenoriaethau ymchwil ym maes gofal cymdeithasol.
Sut ydyn ni'n gwneud hyn?
Rydyn ni wedi gweithio yn y gorffennol gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar y cyd â'r James Lind Alliance (JLA) i gyflawni dau ymarfer gosod blaenoriaethau – un ar ofal a chymorth ar gyfer oedolion hŷn ac un ar wasanaethau cymorth i deuluoedd.
Deilliodd y dull JLA o ymchwil gofal iechyd. Mae’n ymwneud â llenwi’r bylchau o amgylch yr hyn nad ydyn ni’n ei wybod am rai arferion neu ymyriadau. Mae’r dull yn dod â chleifion, gofalwyr a chlinigwyr ynghyd i gytuno ar ba fylchau sydd bwysicaf a lle mae angen mwy o ymchwil. Rydyn ni wedi addasu'r dull hwn i greu fersiwn sy'n gweithio ar gyfer pennu blaenoriaethau ymchwil ym maes gofal cymdeithasol.
Fe wnaeth y ddau ymarfer gyda JLA ein helpu i nodi 10 blaenoriaeth ymchwil ar gyfer pob un o'n pynciau. Roedd y broses yn cynnwys siarad ag amrywiaeth enfawr o bobl oedd yn cyrchu a darparu gofal a chymorth, yn ogystal ag ymchwilwyr a llunwyr polisi. Fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw beth oedd eu materion a chwestiynau pwysicaf ar y pynciau hyn er mwyn deall y blaenoriaethau ar gyfer ymarfer. Yna, fe wnaethon ni wirio beth oedd eisoes wedi'i gwmpasu gan ymchwil bresennol, i ddarganfod lle mae angen mwy o ymchwil.
Beth ydyn ni'n gwneud â'r blaenoriaethau hyn?
Mae'r ymarferion blaenorol hyn wedi ein helpu i benderfynu ar y pynciau ar gyfer y crynodebau tystiolaeth y mae ein tîm ymchwil yn eu cynhyrchu a'r cynnwys ar gyfer ein sioeau teithiol ymchwil a gafodd eu cynnal yn gynharach eleni. Maen nhw hefyd wedi ysbrydoli ymchwil ar bynciau fel rhannu data ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a chynhwysiant digidol mewn gwasanaethau i oedolion hŷn. Rydyn ni’n defnyddio’r blaenoriaethau pan fyddwn ni’n siarad â chyllidwyr ac ymchwilwyr am yr ymchwil sy’n bwysig i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Beth nesaf?
Rydyn ni’n datblygu dull pwrpasol o osod blaenoriaethau ymchwil sy’n adeiladu ar egwyddorion JLA. Rydyn ni bellach yn cynnal dau ymarfer newydd – un ar ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol oedolion, fel rhan o’n gwaith YDG Cymru ac un ar trawsnewidiadau o wasanaethau gofal cymdeithasol plant i wasanaethau oedolion. Daeth ein cyfarfodydd gweithgor cyntaf ar gyfer yr ymarferion hyn ag ymarferwyr ac ymchwilwyr ynghyd i'n helpu i lunio'r pwnc.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Rydyn ni am glywed gennych chi ac yn croesawu eich barn ar y blaenoriaethau ymchwil ar gyfer y pynciau hyn.
Cadwch lygad ar ein gwefan am ddiweddariadau a chyfleoedd i gyfrannu at yr ymarferion hyn yn ystod y misoedd nesaf.
Gwybodaeth bellach
Am ragor o wybodaeth ar y gwaith hwn ewch at ein tudalen gosod blaenoriaethau ymchwil.