Beth mae Gofalwn Cymru wedi’i ddysgu o waith ymchwil diweddar ar ddenu, recriwtio a chadw
Yma, mae Rheolwr Rhaglen Gofalwn Cymru, Andrew Bell, yn trafod yr hyn mae’r rhaglen wedi’i ddysgu o waith ymchwil diweddar a edrychodd ar heriau o ran denu a recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
Mae’r sector gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn wynebu ystod eang o heriau. Mae’r heriau hyn yn bodoli nid yn unig o ran recriwtio’r gweithlu, ond hefyd yng nghanfyddiad ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o beth mae gweithio mewn gofal wir yn ei olygu.
Rydyn ni wedi gweld erthyglau yn y cyfryngau dros y blynyddoedd yn canolbwyntio ar agweddau negyddol ar y gweithlu hollbwysig hwn. Ynghyd â diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth cyffredinol, mae hyn yn creu rhwystr sylweddol i ddenu gweithwyr newydd ac i deimlad staff presennol eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Lansiwyd Gofalwn Cymru yn 2019 i roi sylw cadarnhaol i ofal, gan amlygu’r miloedd o bobl sy’n gweithio yn y sector a’r effaith gadarnhaol maen nhw'n ei chael ar fywydau pobl bob dydd.
Mae arddangos astudiaethau achos a hyrwyddo gyrfaoedd gofal trwy hysbysebion ar deledu cenedlaethol, cyfryngau cymdeithasol, bysiau, hysbysfyrddau a chyfryngau eraill i gyd yn helpu i newid barn pobl yn raddol.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld newid cadarnhaol mewn ymwybyddiaeth a defnydd cynyddol o adnoddau fel ein gwefan, porth swyddi a rhaglenni hyfforddi allweddol, fel y ‘Cyflwyniad i ofal cymdeithasol’ a ‘Cyflwyniad i ofal plant’.
Yn ddiweddar fe wnaethon ni gomisiynu sefydliad o’r enw Urban Foresight i gynnal ymchwil i’n helpu i ddeall yn well yr argyfwng denu a recriwtio yn y sector gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
Mae’r canfyddiadau’n cynnig ystod o feysydd myfyrio ar gyfer gwaith Gofalwn Cymru. Mae’r rhain yn rhoi cyfeiriad clir i’r dyfodol ond hefyd yn helpu i ddilysu’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn.
Mae’r adroddiadau a’r argymhellion yn perthyn i bedair thema eang:
- atyniad
- ymgysylltiad
- newid systemig
- datblygu adnoddau.
Mae pob thema yn amlygu meysydd ffocws allweddol er mwyn helpu i wreiddio a chefnogi uchelgais parhaus Gofalwn Cymru ymhellach.
Atyniad
Mae mawr angen codi ymwybyddiaeth trwy waith hyrwyddo ac mae'n parhau i fod yn sbardun allweddol trwy ymgyrchoedd i gefnogi atyniad gweithio ym maes gofal.
Enghraifft o un o’n hymgyrchoedd yw creu Diwrnod Gofal yn yr Eisteddfod Genedlaethol drwy ein nawdd i’r digwyddiad.
Ymgysylltiad
Mae ymgysylltu'n hanfodol wrth ystyried y ffordd orau o gysylltu â darpar weithwyr a'r partneriaid a darparwyr niferus o fewn gofal. Bydd pa mor effeithiol yw'r ymgysylltu hwn yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i gyflawni'r canlyniadau rydyn ni eu heisiau.
Fel mae'r ymchwil wedi ei amlygu, mae yna gynulleidfaoedd a phartneriaid niferus sy’n rhan allweddol o’r ymgysylltu sydd ei angen.
Mae partneriaeth yn allweddol i’r ffordd mae Gofalwn Cymru yn gweithio, ac mae ein gwaith yn cael ei gynghori trwy grŵp rhanddeiliaid sy’n cynnwys ystod eang o bartneriaid.
I gefnogi'r cysylltiad â saith rhanbarth ledled Cymru, mae gennym ni 'gysylltwyr gyrfa gofal rhanbarthol'. Mae’r rôl bwysig hon yn sicrhau bod negeseuon cenedlaethol yn gysylltiedig â’r gwahanol ranbarthau, a hefyd bod mewnwelediadau a heriau sy’n wynebu’r rhanbarthau yn gysylltiedig â’r gwaith cenedlaethol.
Newid systemig
Amlygodd yr ymchwil hefyd amrywiaeth o newidiadau systemig yr oedd eu hangen i gefnogi recriwtio a chadw mewn gofal.
Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r ffordd mae penderfyniadau yn cael eu gwneud, sut mae systemau yn cael eu datblygu, a’r buddsoddiad mewn gofal.
Mae gwaith ymgyrchu Gofalwn Cymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth a phroffil y sector gofal, gan ddod â’r materion hyn i sylw ehangach.
Datblygu adnoddau
I gefnogi’r newid cadarnhaol mewn denu, recriwtio a chadw, mae Gofalwn Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau.
O bethau fel y wefan a'r porth swyddi, i adnoddau i gefnogi ysgolion a chanolfannau gwaith, mae Gofalwn Cymru yn gweithio i helpu i hyrwyddo rolau a gwerth gweithio ym maes gofal.
Mae'r astudiaethau ymchwil pwysig hyn yn helpu i ddangos y gwaith cadarnhaol hyd yma ond hefyd lle gallai buddsoddiad pellach gael effaith gadarnhaol.
Mae’r neges waelodol drwy’r astudiaethau yn amlygu pwysigrwydd cydweithio rhwng partneriaid a mentrau i alluogi’r newid sydd ei angen.
Byddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu ar argymhellion yr adroddiad.
Darganfod mwy
Yn ogystal â chynhyrchu adroddiadau ac argymhellion, cynhyrchodd y gwaith hwn hefyd ddau adnodd newydd ar gyfer cyflogwyr - canllaw denu, recriwtio a chadw, a phecyn cymorth personas defnyddwyr. Gallwch chi gael mynediad i'r adroddiadau a'r adnoddau yn ardal 'Adroddiadau' y Grŵp Gwybodaeth.
Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi blog gan Dr Maddy Thompson, a arweiniodd yr ymchwil ar gyfer Urban Foresight.
I ddarganfod mwy a chymryd rhan yng ngwaith Gofalwn Cymru, ewch i gofalwn.cymru.