Skip to Main content

Deall prinder staff yn y sector gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru

05 Gorffennaf 2024

Yn ddiweddar, arweiniodd Dr Maddy Thompson o Urban Foresight ymchwil i’r heriau wrth geisio denu a recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Yma, mae hi'n siarad am yr hyn wnaeth yr ymchwil ei ddarganfod a pham ei fod yn bwysig.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant yn cyflawni rôl bwysig mewn cymdeithas. Maen nhw’n cefnogi unigolion ag ystod eang o anghenion ac yn helpu pobl i fyw bywydau iach a llawn. 

Fodd bynnag, mae’r heriau hirdymor i ddenu a recriwtio staff i’r sector wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid oes digon o bobl yn barod i weithio mewn rolau gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae hyn yn golygu bod y sector yn wynebu 'argyfwng gweithlu'.

Cafodd Gofalwn Cymru ei sefydlu gan Ofal Cymdeithasol Cymru yn 2019 i leddfu rhywfaint ar y pwysau o ran staff a wynebir yng Nghymru. Nod Gofalwn Cymru yw codi proffil y sector a'i wneud yn fwy deniadol i geiswyr gwaith. 

Mae'n gwneud hynny drwy gynnal ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol, datblygu adnoddau ar-lein, hysbysebu swyddi gwag a darparu cefnogaeth i geiswyr gwaith a chyflogwyr.

Ein hymchwil

Ddiwedd 2022, comisiynodd Gofal Cymdeithasol Cymru ein tîm yn Urban Foresight i gynnal ymchwil i ddeall yn well yr argyfwng o ran denu a recriwtio yn y sector gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. 

Yng nghanol 2023, gofynnodd Gofal Cymdeithasol Cymru i ni ychwanegu at yr ymchwil hwn drwy archwilio'r hyn rydyn ni’n gwybod am ddewisiadau ac arferion ceiswyr gwaith – pobl sy'n chwilio am swyddi newydd. Fe wnaethon ni cynnal ymchwil ar draws pedwar prif faes:

  • yr heriau presennol sy'n wynebu darparwyr a chyflogwyr wrth ddenu a recriwtio staff
  • datrysiadau ac arfer gorau o ran denu, recriwtio a chadw staff
  • dewisiadau ac arferion ceiswyr gwaith, gan ganolbwyntio ar sut mae COVID-19 wedi newid arferion ceiswyr gwaith
  • effaith Gofalwn Cymru o safbwynt cefnogi'r sector.

Wrth gynnal ein hymchwil, fe wnaethon ni siarad â 52 o ddarparwyr a chyflogwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, a 13 o bobl eraill o bum gwasanaeth ategol. 

Fe wnaethon ni hefyd adolygu llenyddiaeth ac adroddiadau a threulio amser yn edrych ar negeseuon mewn fforymau lle mae ceiswyr gwaith yn aml yn mynd i gael cyngor.

Beth wnaethon ni ei ddarganfod

Fe wnaethon ni ddarganfod bod yr heriau sy'n wynebu cyflogwyr gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru yn debyg i raddau helaeth i'r heriau sy'n wynebu'r sector mewn rhannau eraill o'r byd.

Mae pethau fel cyflogau isel, statws isel, y cyfrifoldeb sy'n gysylltiedig â'r rolau hyn, a'r oriau hir, i gyd yn atal pobl rhag bod eisiau ymuno â'r sector. Mae'r rhain i gyd yn heriau mewnol i'r sector gofal cymdeithasol a gofal plant.

Fodd bynnag, mae rhai pethau y tu hwnt i reolaeth y sector - Brexit, COVID-19, yr argyfwng costau byw a newidiadau i economi'r DU. Mae’r rhain i gyd yn effeithio ar ba mor barod yw pobl i weithio mewn rolau gofal cymdeithasol a gofal plant. 

Er enghraifft, clywon ni yn aml fod cyflogwyr yn cystadlu ag archfarchnadoedd i ddenu staff. Mae gweithio mewn archfarchnadoedd yn apelio mwy at geiswyr gwaith gan fod yr oriau’n fwy rhagweladwy ac mae staff yn cael gwell cymhellion fel gostyngiadau ar y bwyd maen nhw’n ei brynu a chyflogau uwch.

Beth mae hyn yn ei olygu i gyflogwyr a darparwyr

Er bod llawer o heriau wedi’u hamlygu, nid yw'n newyddion drwg i gyd. Mae rhai pobl yn teimlo'n angerddol iawn am weithio yn y sector, ac mae rhai cyflogwyr yn gwneud pethau gwych i ddenu staff. Mae llawer o wersi pwysig y dylai cyflogwyr eraill eu hystyried.

Fe wnaethon ni ddarganfod bod cyflogwyr a darparwyr gofal ledled y wlad yn ymateb yn greadigol i'r her. Rydyn ni wedi rhestri isod enghreifftiau o'u cynlluniau sy'n gweithio:

  • datblygu hysbysebion ac ymgyrchoedd recriwtio
  • darparu cymhellion
  • cymryd rhan mewn gwaith allgymorth gydag ysgolion a lleoedd lle mae ceiswyr gwaith yn mynd iddyn nhw (fel canolfannau gwaith)
  • ceisio cyfleoedd ariannu lleol a chenedlaethol
  • addasu eu prosesau recriwtio
  • archwilio'r defnydd o dechnolegau digidol
  • datblygu dulliau wedi'u targedu
  • cymryd rhan mewn trafodaethau lleol a chenedlaethol am y sector
  • cydweithio â chyflogwyr eraill.

Sut mae Gofalwn Cymru yn helpu?

Mae Gofalwn Cymru yn cael ei ystyried yn ddylanwad cadarnhaol ar y sector yn gyffredinol. Yn benodol, mae'r cwrs Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol wedi bod yn boblogaidd. Mae'n codi ymwybyddiaeth o'r sector ac yn paratoi darpar ymgeiswyr ar gyfer y math o waith dan sylw.

Mae fideos yr ymgyrch a gynhyrchwyd gan Gofalwn Cymru sy'n dangos diwrnod arferol neu gipolwg ar y sector gofal wedi’i gweld gan niferoedd mawr, gyda dros 330,000 wedi edrych ar y fideo ‘Ni’n gofalu, wnewch chi?' ar YouTube.

Mae Gofalwn Cymru hefyd yn hwyluso rhaglen eang o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu. Er enghraifft, mae cysylltwyr gyrfa gofal rhanbarthol yn cysylltu darparwyr ag ysgolion a chanolfannau gwaith ledled Cymru.

Mae Gofalwn Cymru hefyd yn datblygu adnoddau i gyflogwyr fel pecynnau cymorth rhanddeiliaid sy'n eu cefnogi yn eu gweithgareddau recriwtio eu hunain.

Mae yna rai ffyrdd y gall Gofalwn Cymru addasu i gefnogi'r sector yn well. Mae hyn yn cynnwys:

  • ehangu ei waith hysbysebu ac ymgyrchu
  • datblygu mwy o adnoddau i gefnogi cyflogwyr mewn gweithgareddau denu a recriwtio, gan ganolbwyntio'n benodol ar sefydliadau llai
  • datblygu a sefydlu mwy o ffyrdd i gefnogi ymgeiswyr i ddeall beth yw pwrpas y rôl, drwy adnoddau ar y gwefannau a chyrsiau cyflwyniad i'r sector
  • parhau i ymgysylltu â sefydliadau lleol ledled Cymru a datblygu rhwydweithiau.

Beth arall sydd angen ei wneud?

Dangosodd ein hymchwil hefyd fod llawer o'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu y tu hwnt i allu cyflogwyr neu hyd yn oed Gofal Cymdeithasol Cymru i’w newid. 

Er mwyn sicrhau bod gan Gymru sector gofal cymdeithasol a gofal plant cynaliadwy wrth symud ymlaen, mae angen newidiadau ar lefel system. Gallai hyn gynnwys:

  • dull ar draws y sector o ran cyflogau a chynnydd mewn cyflogau
  • buddsoddiad cyfalaf tymor hir yn Gofalwn Cymru
  • ystyried anghenion y sector mewn cyfarwyddebau polisi nad yw’n ofal
  • ailgynllunio systemau buddion
  • mwy o ymrwymiad i gyd-baratoi polisïau a dulliau
  • cydweithio amlsector i ddatblygu cyflenwad o staff yn y dyfodol.

Darllen yr adroddiad

Gallwch ddarllen yr adroddiad a chael mynediad at yr adnoddau i gyflogwyr drwy glicio ar y ddolen isod:

Deall atyniad, recriwtio ac ymddygiadau ceisio gwaith - adroddiadau ac adnoddau

Awdur y blog

Dr Maddy Thompson

Dr Maddy Thompson

Prif Ymgynghorydd- Urban Foresight

Mae Dr Maddy Thompson yn brif ymgynghorydd y mae ei harbenigedd yn canolbwyntio ar y groesffordd rhwng gofal cymdeithasol, iechyd, llafur a'r amgylchedd. Arweiniodd y prosiect ymchwil hwn ar gyfer Urban Foresight.