Skip to Main content

Buddion ymuno â'r gymuned Unigolion Cyfrifol (UC)

09 Medi 2024

Beth yw'r gymuned?

Gall rôl yr Unigolyn Cyfrifol (UC) deimlo'n ynysig ar adegau. Mae ein cymuned ymarfer yn dwyn ynghyd unigolion sy'n cyflawni'r gwaith hwn.

Mae cyfarfodydd rheolaidd yn rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd a sgwrsio am bethau sy'n berthnasol i'w gwaith. Er enghraifft: 

  • sut i baratoi ar gyfer arolygiadau
  • dulliau ymweliadau UC 
  • gwahanol ffyrdd o wneud adolygiadau ansawdd gofal
  • Sut mae aelodau wedi cyflawni sgoriau 'rhagorol'.

Mae ein platfform ar-lein yn cynnig gofod preifat lle gall pobl rannu adnoddau, postio ar ein fforwm a chadw golwg ar y newyddion diweddaraf.

Sut gall y gymuned fy helpu i fel UC?

Gallai perthyn i'r gymuned UC eich helpu:

Teimlo cysylltiad – bydd gennych chi fwy o bobl i helpu os fyddwch chi'n methu symud rhywbeth ymlaen, a lle diogel i ofyn cwestiynau.

Teimlo bod cefnogaeth ar gael – mae ein haelodau yn helpu ei gilydd drwy rannu arfer da ac awgrymiadau, beth sy'n gweithio neu ddim yn gweithio.

Gwneud eich rôl yn haws – mae deall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn mynd at y rôl yn golygu bod modd efelychu yn lle dechrau o'r dechrau.

Magu hyder – bydd bod yn rhan o grŵp a datblygu gwybodaeth yn eich helpu i deimlo eich bod yn gwneud y 'peth iawn' yn y gwaith.

Beth yw adborth ein haelodau

Gofynnon ni i aelodau'r gymuned ddweud ychydig am fanteision ymuno:

"Dywedodd fy arolygydd wrtha i, bod y modd rwy'n adrodd wedi gwella ers i mi ymuno â'r gymuned."

"Does gen i ddim ofn siarad oherwydd y grŵp yma. Rwy'n teimlo fy mod yn gwybod ychydig yn fwy ac rwy'n fwy hyderus i godi pethau gydag arolygwyr."

"Mae'n braf gwybod bod gennym ni i gyd broblemau, ac mae'r rheiny'n debyg."

"Mae'n dda clywed gan aelodau eraill. Pan fyddwch chi'n eistedd ar eich pen eich hun, mae'n llawer anoddach. Wrth ddod ar alwadau, clywed beth mae pobl eraill wedi'i wneud, mae'n dda gwybod ein bod ni i gyd yn yr un sefyllfa."

"Mae'n braf cael gwybod bod chi yma."

"Roedd yn hyfryd gweld pawb a chymryd rhan mewn trafodaethau meddylgar."

Ymunwch â'r gymuned

Ymunwch â'r gymuned heddiw drwy ddolen y gymuned

Prif gyswllt

Charlotte Powell

Charlotte Powell

Fi yw'r Rheolwr Cymunedol ar gyfer y gymuned Unigolion Cyfrifol. Cyn hyn, roeddwn i'n gweithio yn bennaf yn y trydydd sector i sefydliadau fel y Gymdeithas Alzheimer a Care and Repair yn rheoli gwasanaethau yn bennaf. Mae fy nghefndir gwaith yn bennaf mewn datblygu cymunedol, rheoli gwasanaethau, rheoli prosiectau a datblygu busnes. Rwyf hefyd wedi gweithio fel gofalwr sy’n byw gyda’r cleient a gofalwr cartref yn y gorffennol, yn ogystal â chwblhau MSC mewn Niwrodelweddu.