Skip to Main content

Cymuned Unigolion Cyfrifol

Mae’r gymuned yn cysylltu Unigolion Cyfrifol ledled Cymru, drwy ddarparu cyfleoedd i aelodau ddysgu gyda’i gilydd a rhannu arfer da.

Mae Unigolion Cyfrifol yn uwch gynrychiolwyr darparwyr gofal cymdeithasol ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni rheoliadau perthnasol.

Rydyn ni eisiau i aelodau deimlo y gallan nhw gyflawni eu rôl yn hyderus.

Rydyn ni'n cyfarfod yn rheolaidd, ar-lein ac mewn person, ac rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad drwy lwyfan digidol.

Ymunwch â’r Gymuned Unigolion Cyfrifol

Prif gyswllt

Charlotte Powell

Charlotte Powell

Rwy'n rheoli cymuned ymarfer ar gyfer Unigolion Cyfrifol sy'n eu galluogi i wneud cysylltiadau newydd, dysgu gyda'i gilydd, a chefnogi ei gilydd. Rwyf wedi gweithio’n bennaf yn y trydydd sector gyda sefydliadau fel Care and Repair a’r Alzheimer’s Society. Rwyf hefyd wedi gweithio fel gweithiwr gofal cartref a gofalwr sy’n byw gyda’r cleient.