
Cefnogi cynhwysiant cymdeithasol pobl hŷn a’u mynediad at ofal: crynodeb tystiolaeth newydd!
Mae pawb yng Nghymru’n haeddu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i heneiddio'n dda. Ond gall pobl hŷn wynebu gwahanol fathau o allgáu sy'n ei gwneud yn anodd cael mynediad at ofal a chadw mewn cyswllt.
Mae’r crynodeb tystiolaeth newydd yn edrych ar ddwy ffordd o wella mynediad at ofal i bobl hŷn:
- cydweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol
- presgripsiynu cymdeithasol.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif y bydd un o bob pedwar o bobl yng Nghymru dros 65 oed erbyn 2038.
Mae llawer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau fel: allgáu cymdeithasol, tlodi, anhawster cael mynediad at wasanaethau neu fylchau mewn gwasanaethau.
Cydweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol
Wrth i bobl heneiddio, maen nhw’n aml angen cymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gall gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol:
- gwella ansawdd bywyd pobl
- arwain at well canlyniadau iechyd
- lleihau ymweliadau diangen i'r ysbyty
- helpu pobl i aros gartref am gyfnod hirach.
Mae cydweithredu effeithiol yn gweithio orau pan:
- fydd arweinwyr yn ymrwymo
- fydd cydbwysedd pŵer mewn unrhyw fentrau ar y cyd
- fydd timau'n deall nodau a blaenoriaethau ei gilydd
- fydd data’n cael ei rannu'n glir ac yn gyfrifol.

Presgripsiynu cymdeithasol
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â chymorth sydd ar gael yn eu cymuned.
Gall:
- helpu pobl hŷn i gael mynediad at wasanaethau
- gwella iechyd a llesiant
- lleihau ynysu cymdeithasol.
Mae'n gwneud hyn trwy helpu pobl hŷn i wneud pethau fel:
- ymuno â grwpiau
- gwneud ffrindiau
- defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- magu hyder.
Mae'r crynodeb tystiolaeth hefyd yn cydnabod bod gan bresgripsiynu cymdeithasol ei gyfyngiadau.
Nid yw'n disodli cyllid digonol a chefnogaeth arbenigol a gall hefyd fod yn llai effeithiol mewn ardaloedd sydd â llai o adnoddau cymunedol.
Mwy o wybodaeth
Ewch i'r crynodeb tystiolaeth: Cefnogi cynhwysiant cymdeithasol pobl hŷn a’u mynediad at ofal.