
Cefnogi cynhwysiant cymdeithasol pobl hŷn a’u mynediad at ofal
Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a golygwyd gan Dr Kat Deerfield a Dr Flossie Caerwynt
Awst 2025
Gall fod yn anodd i bobl hŷn yng Nghymru gael gafael ar y math iawn o gymorth. Mae rhai pobl hŷn yn wynebu gwahanol fathau o allgáu sy'n eu hatal rhag cymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae'r crynodeb tystiolaeth hwn yn edrych ar sut beth yw allgáu cymdeithasol i bobl hŷn a sut gall gwasanaethau addasu i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Cyflwyniad
Mae pobl hŷn yng Nghymru yn aml yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y math cywir o gymorth (Age Cymru, 2024). Fel rhannau eraill o'r DU, mae gan Gymru gymdeithas sy'n heneiddio. Erbyn 2038, mae'n debygol y bydd un o bob pedwar person yng Nghymru dros 65 oed (Llywodraeth Cymru, 2021). Gallai newidiadau eraill i'r ffordd rydyn ni’n byw effeithio ar anghenion pobl hŷn, nawr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, mae mwy o bobl yn byw ar eu pen eu hunain, gan gynnwys mwy o bobl hŷn, ac mae mwy o bobl hŷn yn dod yn ofalwyr di-dâl (Llywodraeth Cymru, 2021).
Fe wnaethom ni ofyn i staff gofal cymdeithasol beth fyddai'n helpu i gefnogi eu gwaith gyda phobl hŷn. Un peth roedden nhw wedi gofyn amdano oedd mwy o ymchwil ar sut gall gwasanaethau helpu i leihau ynysigrwydd cymdeithasol i bobl hŷn a'u gofalwyr.
Dywedodd pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wrthym hefyd fod nifer o rwystrau’n atal pobl hŷn rhag cael gafael ar gymorth. Dywedon nhw ei bod yn anodd osgoi bylchau mewn gofal i bobl hŷn, yn enwedig pan oedden nhw’n cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Roedden nhw’n dweud mai'r rheswm am hyn oedd nad yw gwasanaethau bob amser yn cyd-gysylltu. Dywedon nhw hefyd eu bod yn poeni nad yw pobl hŷn bob amser yn cael y lefel briodol o gymorth yn ddigon cynnar. A bod pobl ag anghenion cymhleth yn aml yn ei chael hi'n anodd cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae'r crynodeb tystiolaeth hwn yn edrych ar ddwy ffordd benodol y mae pobl yn gweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn: cydweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a phresgripsiynu cymdeithasol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl â'r cymorth sydd ar gael yn eu cymunedau. Rydyn ni’n edrych ar yr hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud am effeithiolrwydd y ddau ddull a sut i’w defnyddio i wella llesiant wrth heneiddio.
Pobl hŷn a chynhwysiant cymdeithasol yn neddfwriaeth a chanllawiau Cymru
Mae sawl darn o ddeddfwriaeth yng Nghymru yn ymateb i allgáu cymdeithasol ac yn gweithredu fel fframweithiau ar gyfer hawliau dynol pobl hŷn a’u mynediad at ofal cymdeithasol.
Cymru o blaid pobl hŷn
Mae Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio yn nodi rhai egwyddorion gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Nod y strategaeth yw gwella llesiant pobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys targedu cymorth i bobl sy'n fwy difreintiedig. Mae'r cynllun hefyd yn cynnig sawl ffordd o wella mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol. Sef, gweithredu ar ganfyddiadau gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014), cyhoeddi Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd i wella casglu data, cynyddu mynediad at feddygon teulu, adolygu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, talu am fwy o ofal cymdeithasol, a gwella gofal mewn galar.
Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol
Yn y Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chynlluniau i gyflwyno a gwella presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru. Mae’n disgrifio manteision posibl fel gwella iechyd a llesiant, lleihau anghydraddoldebau, lleihau effaith ffactorau cymdeithasol ar iechyd pobl, a chefnogi adferiad COVID-19. Mae’n amlinellu model o bresgripsiynu cymdeithasol lle gall pobl gael gafael ar gymorth unigol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn gofyn bod nifer o sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd i alluogi pobl i gael gafael ar y gwahanol wasanaethau, grwpiau a gweithgareddau sydd eu hangen arnyn nhw.

Allgáu wrth heneiddio
Mae llawer o bobl hŷn yn wynebu cael eu hallgáu o wahanol agweddau ar fywyd. Mae Walsh et al. (2021) yn disgrifio pum ffordd wahanol y mae pobl hŷn yn aml yn cael eu hallgáu o gymdeithas. Yn yr adran hon, rydyn ni'n trafod y pum math hyn o allgáu. Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu allgáu digidol fel thema ychwanegol.
Allgáu cymdeithasol
Mae ymchwil ar allgáu cymdeithasol yn canolbwyntio ar sut y gall diffyg perthnasoedd cymdeithasol gael effaith negyddol ar sawl agwedd ar fywyd unigolyn.
Mae diffyg cysylltiadau cymdeithasol yn arwain at ddatgysylltu pobl oddi wrth y cymorth cymdeithasol sydd ei angen arnyn nhw. Mae perthnasoedd yn werthfawr ar gyfer llesiant cyffredinol, yn ogystal ag ar gyfer y cymorth ymarferol y gall pobl eraill ei ddarparu (Burholt ac Aartse, 2021). Mae pobl sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol hefyd yn aml yn brin o gyfleoedd i gymryd rhan mewn cymdeithas. Er enghraifft, hobïau, gweithgareddau gwleidyddol, a gwirfoddoli neu waith cyflogedig. Mae hyn yn golygu eu bod yn fwy ynysig fyth o'r byd o'u cwmpas (Walsh et al., 2021). Yn y DU, mae cysylltiadau cryf hefyd rhwng allgáu cymdeithasol ac allgáu economaidd (Van Regenmortel et al., 2021).
Allgáu economaidd
Mae llawer o bobl hŷn yn cael trafferthion ariannol. Mae data o 2024 yn dangos bod 16 y cant o bensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi (Llywodraeth Cymru, 2025). Mae pobl hŷn sy'n sengl yn fwy tebygol na chyplau o fyw mewn tlodi. Yn 2022, roedd 24 y cant o bobl hŷn sengl yn byw mewn tlodi, o'i gymharu ag 14 y cant o gyplau (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 2023). Mae ystadegau sydd ar gael ar gyfer gweddill y DU hefyd yn dweud wrthym y gallai pobl hŷn o rai cymunedau fod â chyfraddau llawer uwch o dlodi. Er enghraifft, yn Lloegr, mae mwy na 40 y cant o bobl dros 50 oed o gefndir Pacistanaidd yn byw mewn tlodi (Canolfan Heneiddio'n Well, 2024). Mae'r argyfwng costau byw hefyd wedi cael effaith sylweddol ar bensiynwyr. Rhwng 2021 a 2024, roedd nwyddau traul wedi codi 21 y cant. Ond nid yw pensiynau wedi cynyddu yn unol â chwyddiant (Canolfan Heneiddio'n Well, 2025).
Gwasanaethau
Weithiau, mae pobl hŷn yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Er enghraifft, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a thechnolegau cyfathrebu (Draulans, 2021). Mae ymchwil yn dangos bod sawl peth yn gallu rhwystro pobl rhag cael gafael ar wasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys (Srakar et al., 2015):
- lleoliad daearyddol (er enghraifft, ardaloedd anghysbell neu wledig)
- modelau gofal er-elw
- tlodi
- dulliau unffurf sydd ddim yn ystyried anghenion yr unigolyn.
Mae pobl LHDTC+ hŷn, pobl hŷn o gefndiroedd Du a lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl hŷn yn arbennig yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau pan nad yw'r gwasanaethau’n hygyrch i'r grwpiau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn fwy hygyrch i bobl LHDTC+ i'w gweld yn ein crynodeb tystiolaeth ar gefnogi pobl LHDTC+ hŷn ym maes gofal cymdeithasol.

Allgáu cymunedol a gofodol
Wrth iddi fynd yn anoddach i bobl hŷn symud o gwmpas, gallan nhw wynebu mwy o ynysigrwydd o fewn eu cymuned. Mae hygyrchedd yr amgylchedd adeiledig a chael mynediad at fannau cymunedol yn gwneud gwahaniaeth. Mae hygyrchedd yr amgylchedd adeiledig yn cynnwys adnoddau o fewn pellter cerdded cyfforddus. Er enghraifft, toiledau cyhoeddus hygyrch a meinciau ar lwybrau cerdded (Tournier a Vidovićová, 2021).
Mae heriau penodol o ran deall anghenion cymorth pobl sy'n byw mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig. Mae Burholt et al. (2018) yn nodi na fydd mesurau sy'n cael eu defnyddio i asesu anghenion cymorth ac ynysigrwydd mewn poblogaethau mwyafrifol yn gweithio gystal i bobl o gefndiroedd diwylliannol amrywiol. Yn benodol, maen nhw’n nodi bod rhai cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar y gymuned ac ar deuluoedd. Mae hyn yn golygu y bydd rhwydweithiau cymorth yn edrych yn wahanol ac y gallai anghenion cymorth edrych yn wahanol hefyd. Gallai hyn arwain at gymunedau lleiafrifol yn cael cymorth annigonol oherwydd stereoteipiau am gymunedau'n “darparu ar gyfer eu cymunedau eu hunain” (Burholt et al., 2018).
Allgáu dinesig
Mae llawer o bobl hŷn yn profi allgáu dinesig. Mae hyn yn golygu eu bod yn aml yn cael eu cau oddi wrth gyfleoedd i greu effaith neu i wneud penderfyniadau yn eu cymunedau a mathau eraill o ymgysylltu dinesig. Mae ymgysylltu dinesig yn cynnwys unrhyw fath o weithgaredd sy'n canolbwyntio ar weithio tuag at les cyffredin. Gall hyn olygu pethau fel gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac ymgyrchu (Torres, 2021).
Allgáu digidol
Mae pobl hŷn yn llai tebygol o allu defnyddio'r rhyngrwyd neu adnoddau digidol yn hyderus na phobl iau. Mae hyn yn arwain at anawsterau wrth geisio cael gafael ar rai gwasanaethau a gweithgareddau. Mae allgáu digidol yn gysylltiedig â mathau eraill o allgáu cymdeithasol, yn enwedig tlodi (Bucelli a McKnight, 2022).
Cafodd ymyriadau i fynd i'r afael ag allgáu digidol eu hadolygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Wale et al., 2024). Roedd y canfyddiadau cyffredinol yn nodi bod pobl hŷn a gymerodd ran mewn ymyriadau yn eu gweld yn gadarnhaol ar y cyfan. Fodd bynnag, nid oedden nhw’n dod yn llawer mwy cyfforddus yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein. Mae’r awduron yn dadlau fod rhywfaint o arwydd bod hyfforddiant yn gallu gwneud pobl hŷn yn fwy cyfforddus gyda thechnolegau digidol. Fodd bynnag, y ffordd orau o sicrhau nad yw allgáu digidol yn cael effaith negyddol ar bobl hŷn yw sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar bopeth sydd ei angen arnyn nhw heb ddibynnu ar dechnoleg ddigidol (Wale et al., 2024).

Y ffordd orau o sicrhau nad yw allgáu digidol yn cael effaith negyddol ar bobl hŷn yw sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar bopeth sydd ei angen arnyn nhw heb ddibynnu ar dechnoleg ddigidol
Mae'r gwahanol fathau o allgáu i gyd yn gysylltiedig, ac yn aml bydd mwy nag un yn effeithio ar bobl hŷn. Bydd allgáu economaidd, er enghraifft, yn ei gwneud yn llawer anoddach cael gafael ar wasanaethau neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol. Mae byw yn rhywle sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gwael neu heb drafnidiaeth hygyrch yn ei gwneud yn anoddach cael mynediad at y rhan fwyaf o bethau. Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi cynhwysiant i bobl hŷn.
Mae gofal cymdeithasol ei hun yn darparu gwasanaethau pwysig i bobl, a gall hefyd helpu i gael mynediad at rannau eraill o fywyd, gan gynnwys hwyluso cysylltiadau cymdeithasol, cefnogi mynediad at drafnidiaeth a gweithgareddau hamdden, a helpu pobl i aros mewn gwaith gyda'r math iawn o gymorth.
Cysylltu iechyd a gofal cymdeithasol
Pan fydd pobl hŷn yn dod i gysylltiad â gofal cymdeithasol, yn aml mae ganddyn nhw anghenion iechyd hefyd (Milne et al., 2014). Mae hyn yn golygu bod angen iddyn nhw ddefnyddio gwahanol fathau o gymorth ar yr un pryd. Mae'r cysylltiad rhwng gwahanol wasanaethau yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wella gofal. Gwnaeth Cameron et al. (2014) adolygiad o wahanol astudiaethau ar gydweithio a chydgysylltu ym maes gofal cymdeithasol i oedolion. Roedd rhaglenni i wella gweithio integredig ac ar y cyd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn gwella ansawdd bywyd cyffredinol pobl yn ogystal â chanlyniadau clinigol. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai fod effeithiau cadarnhaol eraill, fel lleihau derbyniadau amhriodol i ofal, a chefnogi pobl i aros yn annibynnol gartref am gyfnod hirach.
Un ffordd o wella'r cysylltiadau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yw drwy wneud yn siŵr bod yr adnoddau mewn cymuned neu ardal wedi'u cysylltu'n well. Y term am hyn yw “gofal sy’n seiliedig ar le”. Gallwch chi ddarllen mwy am hyn yn ein crynodeb tystiolaeth ar ofal sy'n seiliedig ar le.
Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn denu cyllid o wahanol ffynonellau ac mae gwahaniaethau sefydliadol eraill. Gall hyn ei gwneud yn anodd i bobl gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt gan y ddau. Roedd adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn 2018 yn galw am sefydlu un system iechyd a gofal di-dor yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2018). Roedd yr adroddiad yn argymell system yn seiliedig ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, heb lawer o rwystrau rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ymdrechion i greu cysylltiadau gwell rhwng gwahanol fathau o ofal yn parhau. Mae sawl menter yng Nghymru eisoes wedi'u sefydlu. Roedd adroddiad gan Unison Cymru a oedd yn edrych ar sut i uno iechyd a gofal cymdeithasol yn llwyddiannus yn ffocysu ar dair menter (Llewellyn et al., 2018):
- yn Ynys Môn, roedd model gwasanaeth arbenigol ar gyfer pobl â dementia ac anghenion iechyd cymhleth yn cefnogi pobl mewn cartref gofal drwy ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd
- ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cafodd pobl a oedd yn cael gofal a chymorth eu hatgyfeirio at dimau amlddisgyblaethol drwy'r Tîm Adnoddau Cymunedol. Roedd pobl yn ymuno â'r gwasanaeth drwy bwynt cyswllt canolog ac yna'n cael eu cefnogi gan therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol a nyrsys ardal. Canolbwyntiodd y timau ar ail-alluogi, ar rag-gynllunio gofal, ar annibyniaeth ac ar lesiant
- yn Sir Fynwy, roedd tair canolfan iechyd a gofal cymdeithasol yn galluogi pobl i gael gafael ar gymorth gan therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, nyrsys cymunedol, nyrsys cyflyrau cronig, gweithwyr cymdeithasol, a staff gofal uniongyrchol.
Mae'r enghreifftiau hyn yn amrywio o ran sut maen nhw’n gweithredu, i bwy maen nhw’n darparu gwasanaethau, a sut mae'r gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio.

Wrth i bobl heneiddio, efallai bydd angen iddyn nhw ddefnyddio gwahanol fathau o gymorth ar yr un pryd. Mae'r cysylltiad rhwng gwahanol wasanaethau yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wella gofal
Beth mae ymchwil yn ei ddweud am sut i gysylltu iechyd a gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon, rydyn ni’n trafod astudiaethau o raglenni penodol a oedd yn profi ffyrdd newydd o gydgysylltu gwaith rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan ganlyniadau'r astudiaethau hyn oblygiadau o ran sut i gefnogi ymdrechion presennol i wella cysylltiadau rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd.
Gallai sawl ffactor wella’r modd y mae darparwyr gofal cymdeithasol ac iechyd yn cydweithio.
Cefnogi cydweithio drwy arweinyddiaeth dda
Mae sawl astudiaeth yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i arweinwyr ddangos eu bod yn blaenoriaethu cydweithio a gwerthoedd cyffredin (Cameron et al., 2014). Gall uwch reolwyr ddangos hyn drwy ddyrannu adnoddau, dangos eu bod yn blaenoriaethu cydweithio, a bod yn glir ynghylch disgwyliadau a nodau (Llewellyn et al, 2018; Cameron et al., 2014). Teimlodd staff eu bod yn cael gwell cefnogaeth pan oedd uwch arweinwyr wedi ymrwymo'n gadarn i ddull gweithredu integredig. Roedd rhai ffyrdd yr oedd cymorth i gydweithio ar lefel strategol wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Er enghraifft, cefnogi hyfforddiant i bob gweithiwr proffesiynol i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o nodau dull integredig. Roedd hyn hefyd yn helpu'r gweithwyr proffesiynol i wneud y newidiadau angenrheidiol yn eu gwaith er mwyn i'r model hwn lwyddo (Banerjee et al., 2007; Rothera et al., 2008).
Cydbwyso diwylliannau a blaenoriaethau gwahanol
Mae astudiaethau’n dangos fod diffyg dealltwriaeth rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn ei gwneud yn anoddach i fentrau sy’n hyrwyddo cydweithio i ffynnu (Asthana a Halliday, 2003; Glasby et al., 2008; Clarkson et al., 2011).
Mewn astudiaeth o brosiect amlddisgyblaethol yn Sweden, gwelodd ymchwilwyr fod diffyg cydweithio rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol wedi cyfrannu at fethiant y prosiect yn y pen draw. Nod y prosiect oedd gwella'r cysylltiadau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn sydd â nifer o broblemau iechyd. Dangosodd yr astudiaeth fod gweithwyr proffesiynol o wahanol ddisgyblaethau yn cael trafferth deall gwerthoedd a diwylliannau proffesiynol ei gilydd. Yn hytrach na defnyddio'r sgiliau amrywiol yn y grŵp i ategu ei gilydd, roedd rhai gweithwyr proffesiynol yn ceisio argyhoeddi eraill mai eu ffordd nhw o wneud pethau oedd orau (Melin Emilsson et al., 2022).
Nododd yr ymchwilwyr anghydbwysedd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn nhîm y prosiect, gyda llawer mwy o weithwyr proffesiynol o faes iechyd yn cymryd rhan nag o faes gofal cymdeithasol. Efallai fod cyfansoddiad tîm y prosiect wedi cyfrannu at anghydbwysedd pŵer (Melin Emilsson et al., 2022). Mae hyn yn awgrymu ei bod yn bwysig, wrth ddylunio timau amlddisgyblaethol, feddwl am gydbwysedd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol o'r dechrau. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr fod gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu ymgysylltu ar sail gyfartal.

Cysylltu’r logisteg
Gall diwylliannau a phrosesau gwahanol hefyd fod yn her pan fydd systemau gwybodaeth a gweithdrefnau gweinyddol yn wahanol. Mae logisteg rhannu gwybodaeth ar draws gwahanol systemau yn gallu bod yn rhwystr. Ond mae agwedd weithgar tuag at wella dulliau cyfathrebu yn helpu i wneud i'r cydweithio digwydd yn fwy llwyddiannus (Cameron et al., 2014). Mae Llewellyn et al. (2018) yn pwysleisio pwysigrwydd edrych ar gydgysylltu gofal yn ymarferol. Mae cytuno ar y ffordd orau o gyfathrebu a meithrin ymddiriedaeth yn y tymor hir yn chwarae rhan bwysig o ran galluogi cydweithio cadarnhaol.
Mae rhannu data'n effeithiol yn un agwedd hanfodol ar gydweithio llwyddiannus. Dangosodd adolygiad o 24 astudiaeth ar rannu data rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn fod hyn yn bwysig ar gyfer (de Bell et al., 2024):
- asesu anghenion pobl
- cydlynu'r gwahanol wasanaethau y gallai fod eu hangen ar berson
- cefnogi pobl sy'n symud o’r ysbyty i gartref
- cydlynu gofal ar gyfer pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal
- sicrhau bod pobl yn cael gofal da ar ddiwedd eu hoes.
Canfyddiad yr adolygiad oedd bod ymddiriedaeth yn hanfodol er mwyn rhannu data'n dda. Ac roedd diffyg ymddiriedaeth rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol yn ei gwneud hi'n anoddach rhannu data. Nododd hefyd bod rhannu data yn gweithio'n well pan oedd polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith. Roedd hyn yn golygu bod pawb yn gallu gweithio’u ffordd drwy'r system yn effeithiol. Er mwyn gallu rhannu gwybodaeth berthnasol, roedd yn ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol ddeall beth roedd pobl eraill eisiau’r data ar ei gyfer, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu clir (de Bell et al., 2024).
Cynyddu cynhwysiant drwy bresgripsiynu cymdeithasol
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd arall o wella mynediad at wasanaethau a chysylltiad â'r gymuned i bobl hŷn er mwyn cefnogi eu hiechyd a'u llesiant (Wylwch et al., 2021).
Mae llawer o bobl hŷn yn cael trafferth gydag ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Mae ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn ffenomenâu cymdeithasol cymhleth, â gwahanol bethau’n eu hachosi. Mae astudiaeth sy’n edrych ar bresgripsiynu cymdeithasol yn Lloegr yn amlygu fod pobl hŷn yn disgrifio teimlo'n ynysig am amrywiaeth o resymau (Giebel et al., 2022). Gall unigrwydd beri gofid i bobl ynddo'i hun, ac mae hefyd yn gysylltiedig ag iechyd gwaeth a marwolaeth gynharach (Giebel et al., 2022).
I rai pobl, roedd salwch yn effeithio ar eu gallu i gynnal cysylltiadau cymdeithasol. Dywedodd rhai bod eu hynysigrwydd yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Dywedodd eraill bod eu rôl fel gofalwr yn cyfyngu ar gyfleoedd i ryngweithio'n gymdeithasol. Roedd rhai pobl yn yr astudiaeth wedi ceisio delio gyda’r ynysigrwydd cynyddol. Fodd bynnag, i eraill roedd cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n fwy anodd wrth i anghenion cymorth gynyddu. Roedd ffactorau fel tlodi, diffyg mynediad at drafnidiaeth, ac afiechyd ac eiddilwch yn ei gwneud yn anoddach i rai pobl hŷn gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau.
Nod presgripsiynu cymdeithasol yw mynd i'r afael â nifer o heriau allgáu cymdeithasol. Mae Giebel et al. (2022) yn nodi fod rhaglen cysylltwyr cymunedol yn Lloegr wedi galluogi pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau eraill. Mae cysylltydd cymunedol yn un math o ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol. Yn y rhaglen hon, roedd cysylltwyr cymunedol yn gweithio i gyngor lleol ac yn cynnal rhaglen i gefnogi unigolion i fynychu gweithgareddau cymdeithasol neu grwpiau cymorth. Roedd hyn yn cynnwys helpu gyda phethau fel teithio, cyfeirio, a hebrwng pobl i'r grwpiau neu'r gweithgareddau. Disgrifiodd y bobl hŷn yn yr astudiaeth fod ganddyn nhw fwy o hyder a'u bod yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i wneud pethau oherwydd y cymorth hwn (Giebel et al., 2022).

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn gallu helpu pobl hŷn mynd i'r afael â heriau allgáu cymdeithasol. Mae'n gallu cynnwys helpu gyda thrafnidiaeth, mynychu grwpiau a gweithgareddau, a magu hyder
Sut mae presgripsiynu cymdeithasol yn gweithio yng Nghymru?
Mae gwahanol fathau o bresgripsiynu cymdeithasol ar gael ledled Cymru. Dangosodd ymchwilwyr a fu’n mapio'r gwahanol fathau o bresgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru fod dros 25,000 o bobl yn ei ddefnyddio yn 2021 (Wallace et al., 2021). Dangosodd yr astudiaeth fod y term 'presgripsiynu cymdeithasol':
- yn cael ei ddefnyddio i olygu gwahanol fathau o waith neu weithgareddau
- yn cael ei ddarparu gan bobl â lefelau amrywiol o arbenigedd
- yn golygu cymorth i wahanol grwpiau o bobl.
Dangosodd yr ymchwil hwn fod presgripsiynwyr cymdeithasol yn gweithio'n bennaf i sefydliadau’r trydydd sector, gyda rhai'n eistedd mewn awdurdodau lleol neu feddygfeydd.

Gwelodd Wallace et al. (2021) hefyd fod sefydliadau presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru yn canolbwyntio'n gryf ar gynnig dulliau cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd y rhai sy'n gweithio ym maes presgripsiynu cymdeithasol yn gweld eu rôl fel rhywbeth mwy na chyfeirio at gymorth. Roedden nhw’n gweld eu gwaith fel meithrin perthynas â phobl a'u cysylltu ag ystod eang o wasanaethau a rhwydweithiau lleol.
Roedd y bobl a oedd yn defnyddio presgripsiynu cymdeithasol yn yr astudiaeth hefyd yn disgrifio eu bod yn teimlo eu bod wedi cysylltu â'u cymunedau’n well. Roedd magu hyder i gysylltu ag eraill wedi helpu llawer i fynd allan fwy. Fe ddywedon nhw hefyd eu bod wedi dod o hyd i fwy o lefydd i siarad am eu hiechyd meddwl.
Mae effeithiau cadarnhaol defnyddio cysylltwyr cymdeithasol i drechu unigrwydd ymysg pobl hŷn hefyd yn dod i'r amlwg mewn gwerthusiad o brosiect a gafodd ei redeg gan Age Cymru Gwynedd a Môn ar Ynys Môn. Bu'r prosiect Cadwyn Môn yn gweithio gyda phobl ar sail un-i-un i gynyddu eu cysylltiadau cymdeithasol (Roberts a Windle, 2020). Drwy'r prosiect, cafodd y bobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaeth eu paru â gwirfoddolwyr a oedd yn eu cefnogi i ganfod eu nodau a chymryd rhan mewn grwpiau cymunedol.
Roedd ymchwilwyr wedi dadansoddi ymatebion i'r arolwg gan 120 o bobl a oedd wedi cwblhau'r rhaglen. Nododd bobl gwelliannau sylweddol i'w hiechyd meddwl ac i ansawdd eu bywydau. Fe ddywedon nhw eu bod yn teimlo'n hapusach ac yn fwy hyderus, a bod ganddyn nhw agwedd mwy positif tuag at fywyd. Fe ddywedon nhw hefyd fod ganddyn nhw well iechyd corfforol a symudedd, eu bod yn defnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus, eu bod yn gwneud ffrindiau newydd neu’n ailgynnau hen gyfeillgarwch, eu bod yn ymgymryd â hobïau newydd, a’u bod yn dysgu sgiliau newydd.
Y cyfyngiadau ar bresgripsiynu cymdeithasol
Mae dulliau sy'n canolbwyntio ar gysylltu pobl hŷn yn well ag adnoddau presennol yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ond mae ymchwil yn dangos hefyd fod cyfyngiadau ar bresgripsiynu cymdeithasol. Mae Daly a Westwood (2018) yn ysgrifennu am yr hyn maen nhw'n ei alw'n 'ddulliau sy'n seiliedig ar asedau', i ymateb i doriadau cyllid i wasanaethau a chymorth yn y DU. Mae'r toriadau hyn wedi creu sefyllfa lle mae pwysau i wneud mwy gyda llai. Mae’r dulliau hyn yn aml yn cynnwys mesurau fel cynlluniau cyfeillio, hyrwyddwyr iechyd, cymorth ar gyfer gwirfoddoli, neu fathau eraill o gynlluniau sy'n canolbwyntio ar gryfhau’r cysylltiadau cymdeithasol presennol.
Mae ymchwilwyr yn nodi y gallan nhw fod yn seiliedig ar dybiaethau sydd heb eu trafod neu sydd heb fawr o dystiolaeth. Mae'r tybiaethau hyn yn cynnwys y syniad y byddai pobl hŷn yn elwa o gael eu 'grymuso' drwy ddefnyddio adnoddau y tu allan i'r system ofal. Gall y syniad hwn fod yn broblemus oherwydd mae'n tybio ei bod bob amser yn gadarnhaol i bobl ddefnyddio llai o adnoddau gofal cymdeithasol neu iechyd. Ac y bydd hyn bob amser yn gwneud iddynt deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros eu bywydau. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth gref bod y 'grymuso' hwn yn fwy effeithiol o ran gwella llesiant nag, er enghraifft, cymorth gan y gweithlu gofal cymdeithasol (Daly a Westwood, 2018).

Mae helpu pobl hŷn i ymgysylltu â'u cymunedau'n beth pwerus, ond nid yw'n cymryd lle’r angen am gyllid digonol ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd
Mae'r dulliau hyn hefyd yn canolbwyntio ar berthnasoedd neu adnoddau sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys y sgiliau a’r galluoedd sydd gan bobl i ffurfio cysylltiadau cymdeithasol newydd. Er y gall y pethau hynny fod yn wirioneddol drawsnewidiol i bobl, mae Daly a Westwood (2018) yn nodi na allan nhw gymryd lle edrych ar adnoddau materol pobl. Mae'r ymchwilwyr hefyd yn mynegi pryderon na fydd dulliau sy'n seiliedig ar asedau’n gweithio gystal i bobl hŷn sy'n byw mewn ardaloedd tlotach. Er y gallai cysylltu'n well â’r adnoddau presennol gynnig llawer i bobl o ardaloedd mwy cyfoethog, gallai gynnig llawer llai i bobl mewn ardaloedd sydd wedi bod dan anfantais yn hanesyddol. Gallai hyn hefyd effeithio ar bobl sydd ag iechyd arbennig o wael neu sydd ag anghenion cymorth uwch. Efallai na fyddan nhw’n gallu cael gafael ar adnoddau os nad oes cyllid i roi cymorth personol iddynt.
Yn yr un modd, mae Wallace et al. (2021) yn disgrifio materion yn ymwneud â chapasiti ac arbenigedd. Maen nhw’n gweld bod y cynnydd mewn presgripsiynu cymdeithasol wedi arwain at greu llawer o swyddi newydd, ond bod y rhain yn aml yn gontractau cyfnod penodol gyda chyflogau cymharol isel. Roedd y bobl y buon nhw'n siarad â nhw hefyd yn disgrifio pryderon am adnoddau a chynaliadwyedd rhaglenni.
Mae'n bwysig cadw'r pryderon hyn mewn cof wrth gefnogi pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau. Gall grymuso pobl i gysylltu â'u cymunedau a defnyddio'r adnoddau o'u cwmpas fod yn bwerus. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod nad dyma'r dull iawn i bawb ac nad yw'n cymryd lle’r angen am gyllid digonol ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd.
Casgliad
Mae pawb yng Nghymru'n haeddu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i heneiddio'n dda. Weithiau, mae rhwystrau’n creu anghyfartaledd o ran cael mynediad at wasanaethau. Mae'r crynodeb tystiolaeth hwn yn cyflwyno ymchwil ynghylch dwy ffordd o fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol ac anawsterau wrth gael gafael ar wasanaethau.
Gall fod yn haws i bobl gyrchu’r gofal sydd ei angen arnyn nhw pan fydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cydweithio'n effeithiol. Mae cynhwysiant cymdeithasol hefyd yn rhan bwysig o sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y cymorth priodol, a gall presgripsiynu cymdeithasol fod yn un ffordd o weithio tuag at y nod hwnnw.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol pobl hŷn a’u mynediad at ofal sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
- Daly, M. a Westwood, S. (2018) ‘Asset-based approaches, older people and social care: an analysis and critique’, Ageing and Society, 38 (6), tt. 1087-1099, doi:10.1017/S0144686X17000071, ar gael yn https://doi.org/10.1017/S0144686X17000071.
- Giebel, C., Hassan, S., Harvey, G., Devitt, C., Harper, L. a Simmill-Binning, C. (2022) ‘Enabling middle-aged and older adults accessing community services to reduce social isolation: Community Connectors’, Health and Social Care in the Community, 30, tt. e461-e468, doi:10.1111/hsc.13228, ar gael yn https://doi.org/10.1111/hsc.13228.
- Llewellyn, M., Garthwaite, T., Blackmore, H. a McDonald, M. (2018) ‘Working for a shared common purpose - experiences of health and social care integration in Wales’, UNISON Cymru Wales, ar gael yn https://uswvarious1.blob.core.windows.net/uswvarious-prod-uploads/documents/UNISON_-_HSC_Integration_Report.pdf.
- Milne, A., Sullivan, M.P., Tanner, D., Richards, S., Ray, M., Lloyd, L., Beech, C. a Phillips, J. (2014) Social work with older people: a vision for the future, The College of Social Work, ar gael yn http://www.cpa.org.uk/cpa-lga-evidence/College_of_Social_Work/Milneetal(2014)-Socialworkwitholderpeople-avisionforthefuture.pdf.
- Wallace, C., Davies, M., Elliott, M., Llewellyn, M., Randall, H., Owens, J., Phillips, J., Teichner, L., Sullivan, S., Hannah, V., Jenkins, B. a Jesurasa, A. (2021) ‘Deall rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru: astudiaeth dulliau cymysg’ Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR), Canolfan PRIME Cymru, Data Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gael yn icc.gig.cymru/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/deall-rhagnodi-cymdeithasol-yng-nghymru-astudeath-dulliau-cymysg-adroddiad-terfynol/.
Cyfeiriadau -
Age Cymru (2024) Pam ydyn ni’n aros o hyd? Oedi mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, ar gael yn age-cymru---pam-ydyn-nin-aros-o-hyd---oedi-mewn-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru---gorffennaf-2023---web.pdf (cyrchwyd: 7 Gorffennaf 2025).
Asthana, S. a Halliday, J. (2003) ‘Intermediate care: its place in a whole-systems approach’, Journal of Integrated Care, 11 (6), tt. 15-24, doi:10.1108/14769018200300054.
Banerjee, S., Willis, R., Matthews, D., Contell, F., Chan, J. a Murray, J. (2007) ‘Improving the quality of care for mild to moderate dementia: an evaluation of the Croydon memory service model’, International Journal of Geriatric Psychiatry, 22 (8), tt. 782–788, doi:10.1002/gps.1741.
Bucelli, I. a McKnight, A. (2022) ‘Tlodi ac allgáu cymdeithasol: adolygiad o dystiolaeth ryngwladol ar allgáu digidol’, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ar gael yn 211025-WCPP-Poverty-Review-Digital-exclusion-en_gb-cy-C.pdff (cyrchwyd: 4 Ebrill 2025).
Burholt, V. ac Aartse, M. ‘Introduction: Framing Exclusion from Social Relations’, yn Walsh, K., Scharf, T. Van Regenmortel, S. a Wanka, A. (gol.) (2021) Social Exclusion in Later Life: Interdisciplinary and Policy Perspectives, Cham, Springer International Publishing, tt. 77-82.
Burholt, V., Dobbs, C. a Victor, C. (2018) ‘Social support networks of older migrants in England and Wales: the role of collectivist culture’, Ageing & Society, 38, tt. 1453-1477, doi:10.1017/S0144686X17000034.
Cameron, A., Lart, R., Bostock, L. a Coomber, C. (2014) ‘Factors that promote and hinder joint and integrated working between health and social care services: a review of research literature’, Health and Social Care in the Community, 22 (3), tt. 225-233, doi:10.1111/hsc.12057.
Canolfan Heneiddio'n Well (2024) State of Ageing 2023-24, ar gael yn https://ageing-better.org.uk/financial-security-state-ageing-2023-4 (cyrchwyd: 11 Gorffennaf 2025).
Canolfan Heneiddio'n Well (2025) State of Ageing 2025, ar gael yn https://ageing-better.org.uk/financial-security-state-ageing-2025 (cyrchwyd: 11 Gorffennaf 2025).
Clarkson, P., Brand, C., Hughes, J. a Challis, D. (2011) ‘Integrating assessments of older people: examining evidence and impact from a randomised controlled trial’, Age and Ageing, 40 (3), tt. 388-391, doi:10.1093/ageing/afr015.
Daly, M. a Westwood, S. (2018) ‘Asset-based approaches, older people and social care: an analysis and critique’, Ageing and Society 38 (6), tt. 1087-1099, doi:10.1017/S0144686X17000071.
de Bell, S., Zhelev, Z., Bethel, A., Thompson Coon, J. ac Anderson, R. (2024) ‘Factors influencing effective data sharing between health care and social care regarding the care of older people: a qualitative evidence synthesis’, Health and Social Care Delivery Research,12 (12), tt. 1-87, doi:10.3310/TTWG4738.
Draulans, V. a Lamura, G. ‘Introduction: Framing Exclusion from Services’, yn Walsh, K., Scharf, T. Van Regenmortel, S. a Wanka, A. (gol.) (2021) Social Exclusion in Later Life: Interdisciplinary and Policy Perspectives, Cham, Springer International Publishing, tt. 135-140.
Giebel, C., Hassan, S., Harvey, G., Devitt, C., Harper, L. a Simmill-Binning, C. (2022) ‘Enabling middle-aged and older adults accessing community services to reduce social isolation: Community Connectors’, Health and Social Care in the Community, 30, e461–e468, doi:10.1111/hsc.13228.
Glasby, J., Martin, G., a Regen, E. (2008) ‘Older people and the relationship between hospital services and intermediate care: results from a national evaluation’, Journal of Interprofessional Care, 22(6), tt. 639-649, doi:10.1080/13561820802309729
Llewellyn, M., Garthwaite, T., Blackmore, H. a McDonald, M. (2018) ‘Working for a shared common purpose - experiences of health and social care integration in Wales’, UNISON Cymru Wales, ar gael yn https://uswvarious1.blob.core.windows.net/uswvarious-prod-uploads/documents/UNISON_-_HSC_Integration_Report.pdf (cyrchwyd: 3 Chwefror 2025).
Llywodraeth Cymru (2018) ‘Chwyldro o’r tu mewn: trawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru’, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-01/Adolygiad-o-Iechyd%20a-Gofal-Cymdeithasol-adroddiad-terfynol.pdf (cyrchwyd: 3 Chwefror 2025).
Llywodraeth Cymru (2021) ‘Cymru o Blaid Pobl Hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio’, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-10/ein-strategaeth-ar-gyfer-cymdeithas-syn-heneiddio_0.pdf (cyrchwyd: 3 Chwefror 2025).
Llywodraeth Cymru (2025) Canran yr holl unigolion, plant, oedolion oedran gweithio a phensiynwyr sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 1995 a FYE 2023 (cyfartaleddau o 3 blynedd ariannol), StatsCymru, Caerdydd, ar gael yn https://statswales.gov.wales/Catalogue/Community-Safety-and-Social-Inclusion/Poverty/householdbelowaverageincome-by-year (cyrchwyd: 7 Gorffennaf 2025).
Melin Emilsson, U., Strid, A.L. a Söderberg, M. (2022) ‘Lack of Coordination between Health Care and Social Care in Multi-Professional Teamwork - the Obstacle for Coherent Care of Older People Suffering from Multi-Morbidity’, Journal of Population Ageing, 15, tt. 319–335, doi:10.1007/s12062-020-09300-8.
Milne, A., Sullivan, M.P., Tanner, D., Richards, S., Ray, M., Lloyd, L., Beech, C. a Phillips, J. (2014) Social work with older people: a vision for the future, The College of Social Work, ar gael yn http://www.cpa.org.uk/cpa-lga-evidence/College_of_Social_Work/Milneetal(2014)-Socialworkwitholderpeople-avisionforthefuture.pdf (cyrchwyd: 11 Gorffennaf 2025).
Older People’s Commissioner for Wales (2023) Understanding Wales’ ageing population: key statistics, ar gael yn https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2023/01/221222-Understanding-Wales-ageing-population-24-November.pdf (cyrchwyd: 7 Gorffennaf 2025).
Roberts, J.R. a Windle, G. (2020) ‘Evaluation of an intervention targeting loneliness and isolation for older people in North Wales’, Perspectives in Public Health, 140 (3), tt. 153-161, doi:10.1177/1757913919868752.
Rothera, I., Jones, R., Harwood, R., Avery, A.J., Fisher, K., James, V., Shaw, I. a Waite, J. (2008) ‘An evaluation of a specialist multiagency home support service for older people with dementia using qualitative methods’, International Journal of Geriatric Psychiatry, 23 (1), tt. 65–72.
Srakar, A., Hrast, M.F., Hlebec, V. a Majcen, B. ‘Social exclusion, welfare regime and unmet long-term care need: Evidence from SHARE’, yn Börsch-Supan, A, Kneip, T., Litwin, H., Myck, M. a Weber, G. (gol.) (2015) Ageing in Europe: Supporting policies for an inclusive society, Berlin, de Gruyter, tt. 189-198.
Torres, S. ‘Introduction: Framing Social Exclusion’, yn Walsh, K., Scharf, T. Van Regenmortel, S. a Wanka, A. (gol.) (2021) Social Exclusion in Later Life: Interdisciplinary and Policy Perspectives, Cham, Springer International Publishing, tt. 239-243.
Tournier, I. a Vidovićová, A. ‘Introduction: Framing Community and Spatial Exclusion’, yn Walsh, K., Scharf, T. Van Regenmortel, S. a Wanka, A. (gol.) (2021) Social Exclusion in Later Life: Interdisciplinary and Policy Perspectives, Cham, Springer International Publishing, tt. 185-192.
Van Regenmortel, S., Winter, B., Thelin, A., Burholt, V. a De Donder, L. (2021) ‘Exclusion from Social Relations Among Older People in Rural Britain and Belgium: A Cross-National Exploration Taking a Life-Course and Multilevel Perspective’, yn Walsh, K., Scharf, T. Van Regenmortel, S. a Wanka, A. (gol.) (2021) Social Exclusion in Later Life: Interdisciplinary and Policy Perspectives, Cham, Springer International Publishing, tt. 83 -98.
Wale, A., Everitt, J., Ayres, T., Okolie, C., Morgan, H., Shaw, H., Tudor Edwards, R., Davies, J., Lewis, R., Cooper, A. a Edwards, A. (2024) ‘Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn’, Iechyd Cyhoeddus Cymru, doi:10.1101/2024.03.21.24304670; Infograffeg Cymraeg ar gael yn https://researchwalesevidencecentre.co.uk/sites/default/files/2024-03/Infograffeg.pdf (cyrchwyd: 29 Gorffennaf 2025).
Wallace, C., Davies, M., Elliott, M., Llewellyn, M., Randall, H., Owens, J., Phillips, J., Teichner, L., Sullivan, S., Hannah, V., Jenkins, B. a Jesurasa, A. (2021) ‘Deall rhagnodi yng Nghymru: astudiaeth dulliau cymysg’ Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR), Canolfan PRIME Cymru, Data Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gael yn icc.gig.cymru/cyhoeddiadau/cyhoeddiadau/deall-rhagnodi-cymdeithasol-yng-nghymru-astudeath-dulliau-cymysg-adroddiad-terfynol/ (cyrchwyd: 4 Ebrill 2025).
Walsh, K., Scharf, T., Van Regenmortel, S. a Wanka, A., ‘The Intersection of Ageing and Social Exclusion’, yn Walsh, K., Scharf, T. Van Regenmortel, S. a Wanka, A. (gol.) (2021) Social Exclusion in Later Life: Interdisciplinary and Policy Perspectives, Cham, Springer International Publishing, tt. 3-21.