Skip to Main content

Crynodeb cymunedau: Darganfyddwch beth sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau

01 Ebrill 2025

Rydyn ni'n credu y bydd creu mannau i gysylltu a datblygu perthnasoedd yn arwain at newid parhaol a chadarnhaol.

Mae ein cymunedau yn dod ag ymarferwyr gofal cymdeithasol, arloeswyr a phobl sydd â phrofiad byw ynghyd i greu'r egni a'r momentwm ar gyfer newid.

Maen nhw’n fannau i bobl rannu eu gwybodaeth a’u syniadau ac i ddysgu gan eraill, gan greu perthnasoedd ar draws gwahanol sectorau ledled Cymru.

Mae'r cymunedau'n cyfarfod ar-lein a mewn person, tra gall aelodau hefyd gysylltu trwy blatfform ar-lein.

Yma, mae’r Grŵp Gwybodaeth yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau ers dechrau'r flwyddyn.
 

Lansio gwasanaeth cymorth newydd

Ym mis Mawrth fe wnaethon ni lansio ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer newydd.

Mae rheolwyr ein cymunedau eisiau rhannu eu gwybodaeth a'u profiad gydag eraill sy'n meddwl y gallai dod â phobl at ei gilydd eu helpu i fynd i'r afael â heriau gofal cymdeithasol.

Dyna pam rydyn ni wedi creu'r gwasanaeth hwn, i gefnogi pobl a allai elwa o ddefnyddio dull cymunedol. Mae'r gwasanaeth yn agored i bobl sydd â diddordeb mewn archwilio dull cymunedol a'r rhai sydd eisoes wedi dechrau dod â phobl at ei gilydd.

Trwy gynnig y gefnogaeth hon, rydyn ni'n anelu at helpu i sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynllunio a'u rhedeg mewn ffordd sy'n rhoi'r cyfle gorau iddyn nhw i gyflawni eu nodau.

I ddarganfod mwy am y gwasanaeth, os ydych chi'n gymwys a sut i wneud cais, ewch i'n tudalen gwasanaeth cymorth a datblygu cymunedau ymarfer. Neu cofrestrwch i ymuno â'n sesiwn wybodaeth nesaf.

Cymuned Dystiolaeth

Rhwng Ionawr a Mawrth, daeth y Gymuned Dystiolaeth at ei gilydd ar gyfer tair sesiwn Myfyrio ar Dystiolaeth. Edrychodd y sesiynau ar wahanol erthyglau cyfnodolion ar themâu chwilfrydedd proffesiynol, salwch ffug neu achosedig, ac archwilio a yw'n foesegol dweud celwyddau wrth bobl â dementia.  

Cafodd cymuned ymholi ei chynnal ar bwnc anhwylder sbectrwm alcohol y ffetws. Hwyluswyd hyn gan Nick Andrews o Ddatblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) a Rebecca Govan o Brifysgol Dinas Birmingham.  

Cynhaliodd y gymuned ei chyfarfod grŵp craidd chwarterol hefyd. Mae grŵp craidd y Gymuned Dystiolaeth yn agored i unrhyw un sydd eisiau cael mwy o lais yn y cyfeiriad y mae'r gymuned yn ei gymryd. Os hoffech ddod yn aelod o'r grŵp hwn, cysylltwch â rhiannon.wright@gofalcymdeithasol.cymru.  

Cafodd sawl blog newydd eu cyhoeddi ar blatfform ar-lein y gymuned. Roedd y themâu yn cynnwys dathlu gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn, ymarfer gwrth-hiliol, goruchwyliaeth mewn gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd, dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau mewn gofal cymdeithasol i oedolion, a chyfathrebu ar ddiwedd oes. 

Cafodd erthyglau newyddion eu rhannu am ganllawiau ymarfer newydd ar gyfer ymgorffori tystiolaeth mewn gofal cymdeithasol plant, ymchwil diweddar ar awtistiaeth a rhieni, a chanllawiau newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar y pwnc rhianta trwy adfyd. 

Ymunwch â'r Gymuned Dystiolaeth 

Beth sydd i ddod?

Rheolwyr ein cymunedau

Rhiannon Wright

Rhiannon Wright

Cymuned Dystiolaeth

Rwy’n angerddol am wneud ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol yn hygyrch ac yn haws i’w defnyddio yn ymarferol. Rwy’n weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac mae gennyf gefndir mewn gwasanaethau plant awdurdodau lleol. Treuliais hefyd flynyddoedd lawer yn y trydydd sector yn gweithio’n therapiwtig gyda phlant, gan ganolbwyntio ar bynciau camfanteisio rhywiol, ymddygiad rhywiol niweidiol a thrawma datblygiadol. Ychydig cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn yn gweithio i fwrdd diogelu rhanbarthol, yn cydlynu adolygiadau ymarfer oedolion a phlant ac yn datblygu eu strategaeth sicrhau ansawdd.
Lilla Vér

Lilla Vér

Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le

Rwy'n gofalu am ein Cymuned Gofal sy'n Seiliedig ar Le. Fy rôl i yw creu a meithrin gofod i bobl ddysgu gyda'i gilydd, cysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae fy mhrofiadau blaenorol yn cynnwys datblygu llwybrau cymorth yn y systemau cyfiawnder troseddol a chamddefnyddio sylweddau, a rheoli prosiectau.
Mathew Morgan

Mathew Morgan

Cymuned Unigolion Cyfrifol

Rwyf wedi ymuno'n ddiweddar fel rheolwr cymunedol ar gyfer y gymuned Unigolion Cyfrifol (UC). Cyn hyn, roeddwn i'n gweithio o fewn ein tîm gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn i'n gweithio fel UC yn elusen Goleudy, yn Abertawe. Mae'r elusen yn arbenigo mewn cefnogi oedolion mewn lleoliadau sy'n pontio digartrefedd. Fe wnes i oruchwylio sefydliad y rôl UC, ailgofrestru gwasanaethau gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, cofrestru staff gofal cartref gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac arwain yr ymateb i COVID-19.