
Cysylltu data gofal cymdeithasol i oedolion drwy’r Labordy GOFAL
Rydyn ni’n falch o gydweithio ar raglen Labordy GOFAL dan arweiniad Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) Prifysgol Caerdydd.
Beth yw Labordy GOFAL?
Mae hon yn rhaglen tair blynedd (Ebrill 2025 hyd at fis Mawrth 2028) sy’n cael ei hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Nod Labordy GOFAL yw deall mwy am ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i lywio polisi a gwella gwasanaethau i bobl yng Nghymru a ledled y DU.
Sut bydd y gwaith yn cael ei wneud?
Mae Labordy GOFAL yn archwilio tueddiadau mewn darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a nodi bylchau ac anghydraddoldebau y mae angen mynd i'r afael â nhw.
Bydd y fenter yn cysylltu data sydd eisoes yn cael ei gasglu ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a ffynonellau gwybodaeth eraill fel gofal iechyd, gofal cymdeithasol plant a chyfrifiad 2021.
Bydd yn defnyddio'r Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL). Mae SAIL yn storio data iechyd a gofal cymdeithasol dienw am bobl yng Nghymru.
Beth yw ein rôl?
Byddwn ni’n darparu cymorth strategol i Labordy GOFAL a chymorth i rannu canfyddiadau gyda'r gweithlu gofal cymdeithasol trwy gynnwys hygyrch fel crynodebau ymchwil.
Gallwch chi ddarganfod mwy am ein gwaith i wneud ymchwil yn hygyrch yma: Crynodebau tystiolaeth.
Ein cyfraniad at ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion
Fel arweinwyr ar y thema gofal cymdeithasol ar gyfer rhaglen waith Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru, rydyn ni’n deall gwerth ymchwil data cysylltiedig.
Mae ein rôl fel llysgennad yn cynnwys cyfathrebu a hyrwyddo manteision ymchwil data cysylltiedig. Rydyn ni hefyd wedi helpu i osod blaenoriaethau ymchwil ar gyfer ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Sut alla i gymryd rhan yn yr ymchwil?
Os ydych chi'n ymchwilydd sydd â diddordeb mewn potensial cysylltu data mewn ymchwil gofal cymdeithasol i oedolion, dyma rai cyfleoedd cyfredol a allai fod o ddiddordeb:
Mae Labordy GOFAL wedi agor ceisiadau am ysgoloriaeth PhD tair blynedd (amser llawn) neu bum mlynedd (rhan-amser) i ategu eu rhaglen ymchwil: 'Archwilio data gweinyddol cysylltiedig ar oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru.'
Mae ceisiadau'n cau ar 28 Gorffennaf 2025.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth yma: Ysgoloriaeth PhD a ariennir gan NIHR: Archwilio data gweinyddol cysylltiedig ar oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru. ym Mhrifysgol Caerdydd ar FindAPhD.com
Ar hyn o bryd rydyn ni hefyd yn cynnal cyfle lleoliad i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cychwyn PhD. Naill ai gyda phrofiad neu ddiddordeb mewn ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion. Mae'r lleoliadau am dri mis (llawn amser) neu chwe mis (rhan amser).
Y dyddiad cau ar gyfer ein lleoliad presennol yw 25 Awst 2025.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Dewch i ymuno â'r lleoliad newydd ar gyfer myfyrwyr PhD!
- Mae Ein cynnig cymorth i ymchwilwyr yn rhoi gwybodaeth ar y Grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol i oedolion. Mae'r grŵp yn dwyn ynghyd ymchwilwyr sy'n defnyddio, neu sydd â diddordeb mewn defnyddio, ymchwil data cysylltiedig yn eu gwaith.