Skip to Main content

Dewch i ymuno â'r lleoliad newydd ar gyfer myfyrwyr PhD!

21 Gorffennaf 2025

Rydyn ni’n cynnig lleoliad PhD fel rhan o’n rôl arweinyddiaeth ar thema gofal cymdeithasol yn rhaglen waith Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru.  

YDG Cymru

Mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad Administrative Data Research (ADR) UK. Mae ADR UK yn dod â data ac ymchwilwyr cymeradwy ynghyd i alluogi ymchwil gall lywio penderfyniadau polisi a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol. Yng Nghymru, mae YDG Cymru yn cynnwys arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru. 

Gyda’i gilydd maen nhw’n cynhyrchu tystiolaeth sy’n cael ei gyrru gan ddata gall helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol yng Nghymru.

Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Rhaid i fyfyrwyr cymwys fod yn ymgymryd â PhD ar ofal cymdeithasol mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Gall y lleoliad fod yn llawn amser am gyfnod o dri mis neu'n rhan-amser am chwe mis.

Diben y cynllun

Rydyn ni’n cynnal y lleoliad fel rhan o’n gwaith YDG Cymru er mwyn cefnogi a siapio ymchwilwyr gofal cymdeithasol y dyfodol. 

Mae'r lleoliad PhD yn cynnig cyfleoedd:

  • datblygu sgiliau ymchwil a’u rhoi ar waith yn y byd sydd ohoni
  • ennill profiad ymarferol o wneud ymchwil yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • cynyddu dealltwriaeth a phrofiad o bolisi ac ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • datblygu sgiliau personol a phroffesiynol bydd o fudd i yrfaoedd yn y dyfodol
  • datblygu rhwydweithiau a chysylltiadau ymhlith academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr.

Meysydd gwaith

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i gyfrannu at raglen amrywiol o waith a allai gynnwys:

  • hyrwyddo canfyddiadau'r gwaith gosod blaenoriaethau ymchwil ar gyfer ymchwil data cysylltiedig
  • ymgysylltu â'r grŵp ymchwil data gofal cymdeithasol i oedolion
  • ysgrifennu cynnwys sy'n hyrwyddo buddion ymchwil data cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol i oedolion
  • cefnogi defnydd o Fanc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL)
  • cefnogi ymchwilwyr a rhanddeiliad sy'n rhan o brosiectau data gofal cymdeithasol i oedolion   
  • datblygu sgiliau mewn dulliau data cysylltiedig.

"Mae’r profiad hwn wedi rhoi hyder i mi barhau â gyrfa mewn gofal cymdeithasol ar ôl i mi orffen y PhD." - Amber Browne, myfyriwr PhD a wnaeth elwa ar leoliad blaenorol. 

Gwneud cais

Gallwch chi ymgeisio drwy ein porth swyddi: https://swyddi.gofalcymdeithasol.cymru/

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Awst 2025.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn caniatâd gan eich goruchwyliwr, sefydliad ac ariannwr cyn gwneud cais am y lleoliad hwn.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y lleoliad, cysylltwch â: jeni.meyrick@gofalcymdeithasol.cymru

Gallwch chi ddysgu mwy am brofiad Amber yma: Fy lleoliad PhD gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.