Yn y blog hwn, mae Rhiannon Wright, rheolwr ein Cymuned Dystiolaeth, yn myfyrio ar waith un o'i haelodau cymunedol, Dr Lesley Deacon. Mae Dr Deacon, gweithiwr cymdeithasol ac academydd, wedi datblygu model sy'n cefnogi ymarferwyr i weld eu hunain fel ymchwilwyr.
Cefndir
Mae Dr Deacon wedi creu'r model Hwyluso ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer (FPR) - © hawlfraint Prifysgol Sunderland. Mae'n fodel sy'n cefnogi ymarferwyr i deimlo'n hyderus i gymryd rhan mewn ymchwil am ofal cymdeithasol:
"Mae'n gosod ymarferwyr fel ymchwilwyr drwy fframio eu sgiliau presennol fel ymchwil. Mae'n bosib gwneud ymchwil yn berthnasol i ymarfer drwy ddefnyddio iaith gwaith bob dydd ac osgoi terminoleg ymchwil am y tro.
Mae ymarferwyr yn cydweithio i fyfyrio ar faterion ymarfer, cyd-ddylunio a chyd-gynnal darn o ymchwil ymarfer grŵp. Mae adroddiad ymarfer yn cael ei gyd-adeiladu gan y grŵp, sy'n cael ei rannu ar draws yr holl bartneriaid i'w roi ar waith ar unwaith." – Dr Lesley Deacon
Mae'r model FPR yn pwysleisio bod ymarferwyr yn arbenigwyr yn eu maes. Nid yw ymchwil yn perthyn yn unig i'r byd academaidd sy'n aml yn bell o realiti ymarfer. Un o brif fanteision y model hwn yw y gall gael effaith ar ymarfer ar unwaith oherwydd bod ymarferwyr yn arwain y ffordd.
Prosiect ymchwil FPR
Defnyddiodd prosiect ymchwil diweddar, 'Gweithio gyda'n gilydd ym maes diogelu', y model FPR i helpu ymarferwyr gofal cymdeithasol i gynnal ymchwil ar y thema diogelu. Roedd y ffocws ar ddeall safbwyntiau gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol plant ac oedolion yn y maes diogelu. Y nod oedd dod o hyd i ffyrdd o wella perthnasoedd gwaith rhwng sefydliadau, yn ogystal â chreu gwell canlyniadau i bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau.
Cymerodd 63 o 'weithwyr proffesiynol cysylltiedig' o 12 awdurdod lleol ran yn yr astudiaeth. Mae'r term gweithwyr proffesiynol cysylltiedig yn cyfeirio at bobl sy'n gweithio ar draws asiantaethau cysylltiedig fel addysg, iechyd, tai, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a'r trydydd sector. Roedd pawb a gymerodd ran yn ymwneud â diogelu plant neu ddiogelu gweithdrefnau oedolion.
Mae'r prosiect yn nodi'r cwestiynau ymchwil posibl hyn:
- Pa mor dda y mae gweithwyr proffesiynol cysylltiedig yn teimlo eu bod yn deall eu dyletswyddau eu hunain o ran diogelu?
- Sut mae gweithwyr proffesiynol cysylltiedig yn nodi risgiau diogelu a beth mae hyn yn ei olygu'n ymarferol?
- Beth mae gweithwyr proffesiynol cysylltiedig yn disgwyl i ymarferwyr gwaith cymdeithasol ei wneud o ran diogelu, a beth yw eu profiadau ohonyn nhw'n ymarferol?
- Beth sydd wedi bod o ddefnydd neu wedi cefnogi o ran ymgysylltu ag ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn y maes diogelu?
Roedd y prosiect yn amlygu rhai agweddau pwysig ar wella'r ffordd y mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol cysylltiedig:
mae cyfathrebu dwyffordd yn hanfodol - er enghraifft, rhoi gwybod i bawb am gynnydd atgyfeiriadau a'r camau nesaf
gwerthfawrogi ei gilydd - disgrifiodd gweithwyr proffesiynol cysylltiedig y teimlad bod gweithwyr cymdeithasol yn dangos diffyg gwerthfawrogiad a pharch tuag atyn nhw
mae cysondeb yn bwysig - mae trosiant uchel o staff mewn gwaith cymdeithasol yn gallu arwain at ymarferwyr gwahanol yn rhoi cyngor gwahanol
darparu gwybodaeth mewn da bryd - dywedodd gweithwyr proffesiynol cysylltiedig nad oes ganddyn nhw ddigon o amser i ddarllen adroddiadau diogelu cyn mynychu cyfarfodydd.
"Mae'r prosiect wedi newid sut rwy'n cyfathrebu â gweithwyr proffesiynol eraill. Erbyn hyn rwy'n cynnig un prynhawn yr wythnos lle mae gweithwyr proffesiynol eraill yn gwybod fy mod yn rhydd i siarad â nhw a gallan nhw hawlio amser i drafod achos. Rwy'n gwneud ymdrech ymwybodol hefyd i wirio gyda gweithwyr proffesiynol. Ac yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn wedi annog mwy o gyfathrebu agored ac wedi bod yn fwy effeithiol o ran rheoli amser."
- Dean Stamp (cyfranogwr i'r prosiect FPR)
Pwyso a mesur: adolygiad o'r prosiect
Dyma rai o fanteision y model FPR a ddaeth yn amlwg mewn digwyddiad y Gymuned Dystiolaeth yn ddiweddar:
- gall helpu ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain ac amlygu heriau sy'n gyffredin i ni i gyd
- gall wella perthnasoedd gwaith rhwng gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau partner
- mae'n creu tir cyffredin ac yn annog cydweithredu (er enghraifft, dod ag ymarferwyr o wasanaethau plant ac oedolion at ei gilydd)
- mae'n annog ymarferwyr i feddwl amdanyn nhw eu hunain fel ymchwilwyr o'r cychwyn cyntaf
- mae'n galluogi ymarferwyr i roi gwersi ymchwil ar waith, ar unwaith.
"Mae cael ymchwilwyr sy'n ymarferwyr yn addas iawn gan nad ydyn nhw'n bell o ymarfer. Roeddwn i'n hoffi hynny'n fawr iawn." - cyfranogwr digwyddiad Cymuned Dystiolaeth.