Mae'n Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth!
16 Mawrth 2026
Eleni, mae’r ffocws ar newid sefydliadol a rhannu arfer da.
Rydyn ni wedi cynhyrchu crynodeb tystiolaeth Cefnogi pobl niwrowahanol a’u teuluoedd i amlygu pwysigrwydd y paradeim niwroamrywiaeth i wasanaethau gofal a chymorth. Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o’r cysyniad o “drwsio” pobl, i gynllunio amgylcheddau’n fwy hygyrch drwy gael gwared ar rwystrau ac adnabod cryfderau.
Sut gallwn ni gefnogi pobl niwrowahanol a'u teuluoedd?
Mae'r crynodeb tystiolaeth yn archwilio:
- sut mae dulliau sy'n seiliedig ar gryfderau yn hybu hyder, llesiant ac ymgysylltiad
- cymorth sy'n osgoi dibynnu ar ddiagnosis yn unig – mae amser aros hir yn golygu bod angen dull “dim drws anghywir” ar deuluoedd
- sut y gall amgylcheddau hygyrch (trefniadau rhagweladwy, mannau sy’n gyfeillgar i’r synhwyrau, a chyfathrebu hyblyg) gwneud gwahaniaeth enfawr
- bod angen cefnogaeth ar rieni a gofalwyr hefyd, gan gynnwys empathi, gwybodaeth glir, a chymorth ymarferol.
Pam mae hyn yn bwysig?
Drwy ddylunio cymorth o amgylch profiadau bywyd a chryfderau pobl, rydyn ni’n creu amgylcheddau lle gall pobl niwrowahanol ffynnu.
Mae sicrhau bod pobl niwrowahanol yn cael eu cynnwys yn bwysig ym mhob agwedd o ofal cymdeithasol. Rydyn ni hefyd wedi nodi ymchwil i brofiadau pobl niwrowahanol yn y crynodebau tystiolaeth hyn: