Pontio: safbwyntiau pobl ifanc a'u teuluoedd
Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a Dr Beti Thomas, golygwyd gan Dr Kat Deerfield a Dr Flossie Caerwynt
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n trafod ymchwil sy’n edrych ar bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. Rydyn ni’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr yn y broses bontio.
Rydyn ni’n edrych ar sut gall gofal cymdeithasol gefnogi annibyniaeth pobl ifanc yn ystod y broses a sut gall yr annibyniaeth gynyddol hon fod yn heriol i lawer o deuluoedd.
Rydyn ni'n edrych ar bwysigrwydd perthnasoedd a chymuned i bobl ifanc a sut gall cymorth cyson helpu i hwyluso'r broses o bontio i ofal oedolion. Rydyn ni hefyd yn trafod sut mae pobl ifanc a'u teuluoedd eisiau mwy o hyblygrwydd a chyfathrebu gwell yn y broses bontio.
Yn olaf, rydyn ni’n edrych ar y rôl y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae'n aml i wneud iawn am ddiffyg cymorth. Rydyn ni’n archwilio sut i gefnogi rhieni a gofalwyr yn well, yn ogystal â'r anghydraddoldebau posibl sy'n wynebu pobl ifanc heb y cymorth teuluol hwnnw.
Cyflwyniad
Gall dod yn oedolyn fod yn heriol i bawb. Ar y pwynt hwn, mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn meddwl am ba fath o fywyd maen nhw ei eisiau a sut i'w gyflawni. I bobl ifanc sy'n cael gofal a chymorth, gall hwn fod yn gyfnod arbennig o anodd. Rhaid iddynt lywio newidiadau i'w cymorth yn ogystal â'r heriau arferol sy'n gysylltiedig â thyfu i fyny.
Un ffordd o ddeall y cyfnod pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion yw ei ystyried fel un sydd â thri cham gwahanol (Bridges, 1991; Codd a Hewitt, 2021):
- diweddglo (gadael gofal cymdeithasol i blant)
- cyfnod addasu (symud i'r sefyllfa newydd)
- ymsefydlu (cael gafael ar gymorth newydd).
Mae'n gwneud synnwyr bod pobl ifanc a theuluoedd yn profi emosiynau cryf drwy gydol tair rhan y broses bontio hon. Gall pontio i wasanaethau oedolion fod yn gyfnod arbennig o heriol, yn enwedig gan ei fod yn aml yn golygu llai o opsiynau cymorth.
Weithiau mae pobl yn disgrifio gorfod cefnogi proses bontio eu plant i wasanaethau oedolion fel “ail sioc” (Hanley-Maxwell et al., 1995). Y sioc gyntaf yw’r amgylchiadau gwreiddiol a arweiniodd at gael cymorth. Mae diwedd gofal cymdeithasol i blant yn arwain at golli perthnasoedd ac arferion.
Gall anhawster llywio neu ddod o hyd i wasanaethau priodol i oedolion achosi i deuluoedd deimlo eu bod yn cael eu llethu ac achosi pryder am y dyfodol. Mae rhai rhieni’n disgrifio’r teimlad hwn fel “camu i’r tywyllwch neu syrthio oddi ar glogwyn” (Codd a Hewitt, 2021; gweler hefyd Cynghrair Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr Alban, 2017; Broad et al., 2017).
Gwyddom gan bobl sy’n cael gofal a chymorth yng Nghymru fod pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion yn heriol i lawer o deuluoedd. Yn ein hymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil, dywedodd pobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr eu bod yn aml heb wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus. Dywedon nhw ei bod hi'n anodd darganfod pa wasanaethau oedd ar gael a sut i gael mynediad atynt. Mae’r canfyddiad hwn yn cael ei adlewyrchu ar draws astudiaethau, sy’n dangos bod angen mwy o gymorth o fewn gwasanaethau oedolion ar gyfer pobl ifanc sy’n pontio o wasanaethau plant (Shanahan et al., 2020; Jacobs et al., 2021).
Gwybodaeth am y crynodeb tystiolaeth hwn
Rydyn ni’n cynhyrchu nifer o grynodebau tystiolaeth sy’n ymwneud â phontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion. Nod y crynodebau hyn yw cefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i helpu i weithredu’r cymorth cywir ar gyfer pobl ifanc sy’n mynd drwy gyfnod pontio. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n edrych yn benodol ar beth mae ymchwil yn ei ddangos o ran yr hyn sy’n bwysig i bobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn pontio’n dda i wasanaethau oedolion.
Does dim llawer o ymchwil ar gael ar sut beth yw pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru. Dyna pam rydyn ni wedi defnyddio nifer o ffynonellau sy’n edrych ar bontio mewn gwahanol gyd-destunau neu mewn gwahanol lefydd. O’r rhain, gallwn ddysgu gwersi a allai fod yn ddefnyddiol i weithwyr gofal cymdeithasol, i sicrhau bod pobl ifanc sy’n pontio i wasanaethau oedolion yn cael y profiad gorau posibl.
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n canolbwyntio ar ymchwil am bobl ifanc sy’n cael cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl, pobl ifanc niwrowahanol, a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Mae nifer o astudiaethau wedi cael eu cynnal sy’n edrych ar sut mae pobl ifanc yn pontio i wasanaethau oedolion ym maes gofal iechyd. Mae rhai astudiaethau hefyd sy’n edrych ar bontio gofal cymdeithasol mewn gwledydd eraill. Wrth gwrs, efallai na fydd y profiadau hyn bob amser yn cyfateb i brofiadau pobl ifanc sy’n defnyddio gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae rhai elfennau yn yr astudiaethau hyn a all ein helpu i ddeall profiadau ehangach pobl ifanc sy’n pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru.
Pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion mewn polisi a deddfwriaeth
Er nad oes gennym ddeddfwriaeth benodol sy’n cyfeirio at y math hwn o bontio, gallwn edrych ar bolisi a deddfwriaeth ehangach am arweiniad.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rheoleiddio darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae egwyddorion craidd y Ddeddf yn cynnwys:
- llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn ac anghenion yr unigolyn wrth wraidd pob gofal a rhoi llais a rheolaeth iddynt i gyrraedd y canlyniadau a fydd yn helpu sicrhau llesiant
- llesiant - cefnogi pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain, a mesur llwyddiant gofal a chymorth
- cyd-gynhyrchu - dylai pobl fod yn rhan o benderfyniadau ynghylch sut mae’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio yn cael eu datblygu a’u rhedeg.
Mae’r Ddeddf hefyd yn pwysleisio canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cael gofal a chymorth, ac y dylai pawb gael mynediad hawdd at wybodaeth am eu gofal.
Pan fydd pobl ifanc yn symud o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion, mae’r Ddeddf yn datgan bod ganddyn nhw’r hawl i ofyn am asesiad newydd (Llywodraeth Cymru, 2015). Y rheswm am hyn yw bod dod yn oedolyn yn golygu llawer o newidiadau a allai effeithio ar ba gymorth y gall rhywun ei gael.
Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi cael cefnogaeth mewn gwahanol feysydd o’u bywydau y tu hwnt i’r broses bontio
Gweld y person cyfan
Er mwyn cefnogi pobl ifanc i bontio i ofal cymdeithasol i oedolion, mae’n bwysig edrych ar eu bywydau yn eu cyd-destun. Mewn astudiaeth ryngwladol ar bontio i gymorth iechyd meddwl i oedolion, pwysleisiodd pobl ifanc bwysigrwydd cael cymorth mewn gwahanol feysydd o’u bywyd y tu hwnt i’r broses bontio (O’Hara et al., 2020).
Drwy gydol yr astudiaethau rydym wedi cyfeirio atynt, mae pobl ifanc a’u teuluoedd yn siarad am yr heriau sy’n gysylltiedig ag addasu i wasanaethau newydd ar adeg pan fo cymaint yn newid yn eu bywydau. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n edrych ar nifer o bethau y mae pobl ifanc a’u teuluoedd yn dweud sy’n bwysig iddyn nhw yn y broses bontio. Sef:
- annibyniaeth
- perthnasoedd
- cysondeb
- hyblygrwydd
- gwybodaeth
- cefnogaeth i'r teulu cyfan.
Yn gyntaf, rydyn ni’n edrych ar sut mae cefnogi annibyniaeth pobl ifanc a’r teimladau cymhleth a allai ddod law yn llaw â hynny. Yna, rydyn ni’n trafod gwerthfawrogi’r perthnasoedd sy’n bwysig ym mywydau pobl ifanc. Ac yn edrych ar bwysigrwydd cysondeb mewn gofal, hyblygrwydd o ran amseru cyfnodau pontio, a gwybodaeth dda am opsiynau pobl ifanc. Yn olaf, rydyn ni’n trafod pwysigrwydd darparu cymorth i’r teulu cyfan. Rydyn ni hefyd yn edrych ar sut mae pobl ifanc heb gymorth teuluol yn arbennig o agored i niwed yn y broses bontio.
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni wedi cynnwys deunydd sy’n edrych yn bennaf ar bontio i ofal cymdeithasol i oedolion o safbwynt pobl ifanc sydd â chymorth teuluol. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o’r ymchwil ar bontio i wasanaethau oedolion yn edrych ar bobl ifanc a’u teuluoedd. Fodd bynnag, mae’n bwysig deall bod pobl ifanc heb gymorth teuluol yn llawer mwy tebygol o syrthio drwy’r rhwyd. Gall hyn olygu eu bod mewn sefyllfa lle nad ydynt yn gallu cael gafael ar y gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt, neu yn wir unrhyw fath o ofal.
Gwerthfawrogi annibyniaeth
I’r rhan fwyaf o bobl ifanc, mae tyfu’n oedolion yn golygu bod yn gyfrifol am eu bywydau eu hunain. Mae ymchwil yn dangos bod pobl ifanc yn gwerthfawrogi cymorth sy’n eu helpu i ddatblygu eu hannibyniaeth. Mae pobl ifanc a’u teuluoedd hefyd yn dweud yr hoffent gael mwy o reolaeth dros y broses bontio ei hun.
Daeth pwysigrwydd cryfhau annibyniaeth a gwneud penderfyniadau i’r amlwg fel thema gref mewn astudiaeth o 111 o bobl ar draws pum gwlad (O’Hara et al., 2020). Roedd yr astudiaeth yn cynnwys pobl a oedd naill ai wedi pontio o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion eu hunain, neu wedi cefnogi aelod o’r teulu drwy’r broses. Dywedodd cyfranogwyr yr astudiaeth fod rhoi rheolaeth i bobl ifanc dros y broses bontio yn bwysig gan ei bod yn eu helpu i ymgysylltu pan oedd angen rhagor o gymorth arnynt. Roedden nhw hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd asesu pobl ifanc ar sail eu hanghenion unigol, nid yn unig ar sail eu diagnosis (gweler hefyd Broad et al., 2017; Culnane et al., 2023).
Roedd un astudiaeth yn archwilio pa syniadau oedd gan bobl ifanc ag anabledd dysgu am eu dyfodol, a beth oedd yn eu galluogi neu’n eu hatal rhag gwireddu’r dyfodol hwnnw (Singh et al., 2024). Roedd gan bobl ifanc lawer o syniadau gwahanol ynghylch sut y dylai eu dyfodol edrych. Roedd rhai eisiau mwy o annibyniaeth ac ymreolaeth, tra bod eraill eisiau aros yn agos at y teulu. Mewn astudiaeth arall, disgrifiodd rhai pobl ifanc dan ofal iechyd meddwl eu cyfnod pontio i wasanaethau oedolion fel cyfle i gymryd mwy o reolaeth dros eu gofal eu hunain (Broad et al., 2017). Gan fod dyheadau gwahanol gan bawb, mae’n bwysig bod gweithwyr proffesiynol yn rhoi rheolaeth i bobl ifanc dros eu proses bontio. Mae hyn yn golygu cynnwys pobl ifanc a’u teuluoedd mewn penderfyniadau am eu gofal.
Mae mwy o annibyniaeth i bobl ifanc yn gallu arwain at deimladau cymysg. Efallai y bydd gan rieni bryderon ynghylch annibyniaeth gynyddol eu plant a’i risgiau posibl. Nododd Codd a Hewitt (2021) fod rhieni plant ag anabledd dysgu weithiau’n poeni y bydd eu plant yn agored i wahanol fathau o niwed wrth iddynt gael annibyniaeth. I’r rheini sy’n darparu gofal a chymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd, mae’n bwysig taro cydbwysedd rhwng pryderon diogelu a chefnogi hawl pobl i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. Mae’r tensiwn hwn hefyd yn cael ei archwilio yn ein crynodeb o dystiolaeth ar gefnogi pobl i wneud penderfyniadau am eu gofal.
Mae gan bobl ifanc ddyheadau gwahanol, felly mae’n bwysig rhoi rheolaeth iddyn nhw dros eu proses bontio
Gwerthfawrogi perthnasoedd
Wrth i bobl ifanc dyfu i fyny, mae llawer yn disgwyl cyrraedd cerrig milltir fel addysg bellach, cael swydd, neu adael cartref. Mae’r llwybr yn wahanol i bob person. Wrth weithio gyda phobl sy’n cael gofal a chymorth, mae’n bwysig cydnabod y gallent ymdrechu i gael mathau gwahanol o fywyd a dyfodol.
Fe wnaeth Jacobs et al. (2021) gynnal cyfweliadau â staff gofal cymdeithasol a oedd yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu wrth iddynt bontio i fod yn oedolion. Daeth i’r amlwg bod gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ag anghenion cymorth uchel weithiau’n canolbwyntio ar agweddau penodol o fod yn oedolyn, heb ystyried beth sy'n bwysig i’r person ifanc. Gyda rhai pobl sydd ag anghenion cymorth uchel, gall fod yn anodd deall beth a fyddai’n well ganddynt. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd gan bobl anawsterau cyfathrebu. Nid yw pob person sy’n cael gofal a chymorth yn mynegi ei hun orau drwy iaith lafar.
Gall pobl ag anghenion cymorth uwch gael eu tangynrychioli mewn data sy’n dibynnu ar bobl yn siarad am eu bywydau, yn enwedig os yw’r ymchwil wedi’i chyfyngu i gasglu gwybodaeth drwy iaith lafar neu’n ysgrifenedig. Felly, rydyn ni hefyd yn cynnwys ymchwil sy’n defnyddio dulliau eraill, fel treulio amser gyda phobl ifanc ac arsylwi ar y broses bontio, neu siarad â rhieni a gofalwyr neu weithwyr proffesiynol.
Mae Jacobs et al. (2021) yn dadlau ei bod yn bwysig canolbwyntio ar gysylltiadau a rhwydweithiau pobl. Sylwodd yr ymchwilwyr fod cyfeillgarwch yn arbennig o bwysig i bobl ag anableddau dysgu. Roedd hyn yn cynnwys cysylltiad â gweithwyr allweddol. Yn ystod cyfnodau pontio, gallent golli’r cysylltiadau hyn yn ogystal â pherthnasoedd eraill a oedd yn cael eu cynnal drwy gefnogaeth gweithwyr allweddol.
Fe wnaeth pobl ifanc yn yr astudiaeth dan arweiniad Singh et al. (2024) hefyd roi gwerth uchel iawn ar berthnasoedd. Roedden nhw’n disgrifio ei chael hi’n anodd ymdopi ag ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd ac yn dweud eu bod weithiau’n cael trafferth gwneud ffrindiau. Soniodd ymatebwyr yn astudiaeth Shanahan et al. (2020) am y diffyg cefnogaeth i bobl ifanc gymdeithasu mewn gwasanaethau oedolion hefyd. Mynegodd rhai rhieni bryder bod eu plant mewn perygl o gael eu hynysu, neu eu bod yn cael eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau llai heriol yn unig.
Gwerthfawrogi cysondeb
Er bod perthnasoedd personol yn bwysig i bobl ifanc yn ystod y cyfnod pontio, mae rhai astudiaethau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd perthnasoedd â staff yn y gwasanaethau plant, teulu ac oedolion. Gall siarad â phobl anghyfarwydd ac ymddiried ynddynt fod yn heriol i bobl ifanc sy’n cael cymorth. Mae ymchwil yn dangos bod pobl ifanc sy’n cael cymorth iechyd meddwl yn aml yn ystyried gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn gynnes ac yn feithringar. Fodd bynnag, maen nhw’n ystyried bod gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn fwy amhersonol ac oer (Broad et al., 2017; Mulvale et al., 2019).
Un thema sy’n dod i’r amlwg ar draws astudiaethau yw ei bod yn anodd i deuluoedd sicrhau cymorth i’w plant wrth iddynt dyfu (Y Comisiwn Ansawdd Gofal, 2014). Mewn astudiaeth yn yr Alban yn 2014, dywedodd rhieni eu bod “yn teimlo wedi’u hanwybyddu” gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnod pontio (Y Comisiwn Ansawdd Gofal, 2014). Dywedodd rieni eu bod yn gorfod mynd ar drywydd gwasanaethau’n gyson, a phrin eu bod yn clywed ganddynt wedyn. Gall cyfraddau trosiant staff uchel mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd wneud pontio’n anoddach i bobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr (Jacobs et al., 2021; Y Comisiwn Ansawdd Gofal, 2014).
Roedd pobl ifanc mewn rhai astudiaethau hefyd yn rhannu pryderon sylweddol am y posibilrwydd o golli gofal pan fyddan nhw’n rhy hen i wasanaethau plant. Dywedon nhw fod cael cymorth gan wasanaethau plant ac oedolion ar yr un pryd am gyfnod byr yn fodd i leddfu eu pryder (Broad et al., 2017).
Mewn ymchwil am bontio i wasanaethau iechyd oedolion, dywedodd rhai pobl ifanc fod cwrdd â gweithwyr proffesiynol newydd yn heriol ac yn achosi pryder (Sefydliad Nyrsio’r Frenhines, 2017). Roedd cyfarfod â gweithwyr iechyd proffesiynol blaenorol ar yr un pryd â gweithwyr proffesiynol newydd yn un ffordd i leihau’r pryder hwnnw. Soniodd un person ifanc yn yr astudiaeth am gael un nyrs ddynodedig o’r gwasanaethau plant i’w cefnogi drwy ei holl apwyntiadau pontio. Roedd cael y cyfranogiad parhaus hwn yn gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus am y broses (Sefydliad Nyrsio’r Frenhines, 2017).
Roedd rhai adroddiadau am brofiadau cadarnhaol gyda “chyfarfodydd pontio”. Roedd yn gyfle i bobl ifanc a’u rhieni neu ofalwyr gyfarfod â gwasanaethau plant ac oedolion i drafod y broses o drosglwyddo. Gall fod yn anodd trefnu’r cyfarfodydd hyn ar y cyd yn logistaidd, ond mae pobl ifanc a’u teuluoedd yn dweud eu bod yn eu gwerthfawrogi’n fawr (Shanahan et al. 2020).
Gallai cael mynediad at gymorth gan wasanaethau plant a gwasanaethau oedolion ar yr un pryd am gyfnod byr leddfu pryder pobl ifanc
Gwerthfawrogi hyblygrwydd
Mae’r llenyddiaeth hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gall pobl ifanc a’u teuluoedd ei chael hi’n anodd pontio’n sydyn i wasanaeth oedolion.
Dangosodd un astudiaeth fod pobl ifanc niwrowahanol a’u rhieni’n poeni am yr oedran y mae pontio’n digwydd (Shanahan et al., 2020). Dywedodd llawer fod symud i wasanaethau oedolion yn 18 oed yn digwydd yn gyflym iawn, gan ddweud y byddai proses bontio fwy graddol wedi bod yn ddefnyddiol.
Gall hyn fod yn arbennig o anodd i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan fod llawer o gyflyrau iechyd meddwl yn dod i’r amlwg am y tro cyntaf yn ystod eu llencyndod. Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt lawer o amser i ddod yn gyfarwydd ac yn gyfforddus â’u cymorth cyn iddynt wedyn symud i ofal oedolion (O’Hara et al., 2020).
Yn yr un modd, mae Beresford et al. (2013) yn nodi fod gan rieni pobl ifanc awtistig bryderon am yr oedran pontio ac a yw’n briodol i bob person ifanc. Roedden nhw’n teimlo bod oedi datblygiadol yn golygu y gallai rhai pobl ifanc gael gwell cymorth o fewn gwasanaethau plant am gyfnod hirach.
Mae Shanahan et al. (2020) yn awgrymu ehangu’r amserlen bontio. Hynny yw, yn lle pontio’n sydyn yn 18 oed, fod y broses yn digwydd rhwng 16 ac 20 oed. Wrth i amserlen ehangach leihau rhai newidiadau sydyn, gallai hyn helpu i osgoi straen diangen.
Nododd Broad et al. (2017) hefyd fod pobl ifanc sy’n pontio i wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn gwerthfawrogi pontio graddol sy’n addasu i’w hanghenion unigol. Roedden nhw’n pwysleisio’r angen hefyd am gynlluniau iechyd unigol, a oedd yn caniatáu rhywfaint o ofal cyfochrog neu gydweithio rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion.
Gwerthfawrogi gwybodaeth
Gall gwybodaeth dda am gyfnodau pontio gyfeirio at wahanol bethau, fel:
- rhoi gwybodaeth hygyrch i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
- hawl unigolion i weld eu gwybodaeth eu hunain
- rhannu gwybodaeth yn foesegol rhwng gwasanaethau.
Mae ymchwil am bontio gofal yn dangos bod rhai pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol oherwydd nad ydynt yn deall y broses yn llawn (Broad et al., 2017). Hyd yn oed pan oedden nhw’n rhan o’r broses, dywedodd rhai nad oedden nhw’n deall beth oedd gweithwyr proffesiynol yn ei ddweud (Broad et al., 2017; O’Loughlin, 2012).
Mae gwybodaeth am bobl ifanc sy’n cael ei chadw gan wasanaethau hefyd yn bwysig. Yn astudiaeth Singh et al. (2024) gyda phobl ag anableddau dysgu, roedd gan bobl ifanc syniadau am eu dyfodol yn aml, ond roedden nhw’n teimlo nad oedd gwybodaeth am eu hopsiynau yn hygyrch.
Dywedodd rhai pobl ifanc fod pontio yn fwy gofidus oherwydd eu bod yn gorfod ailadrodd eu stori i weithwyr proffesiynol newydd. Gall rhannu gwybodaeth yn well a chyfarfodydd ar y cyd ei gwneud yn haws i bobl ifanc gael gafael ar ofal a chymorth heb fod angen ailadrodd sgyrsiau sy’n achosi straen neu ofid (Broad et al., 2017).
Mae rhieni’n aml yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gamu i mewn i drefnu gofal ar gyfer eu plant
Gwerthfawrogi cymorth i'r teulu cyfan
Mae cymorth i deuluoedd yn rhan fawr o wneud yn siŵr bod pontio pobl ifanc yn mynd yn dda. Mae’n bwysig cydnabod gwaith caled llawer o rieni a gofalwyr wrth sicrhau cymorth i’w plant. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod anghenion rhieni a gofalwyr yn cael eu diwallu. Ar yr un pryd, nid oes gan rai pobl ifanc cymorth teuluol, neu mae eu teuluoedd yn llai abl i drefnu cymorth.
Gall cymorth i deuluoedd fod yn arbennig o bwysig i bobl ifanc ag anableddau dysgu. Yn y DU, mae 40 y cant o bobl ag anableddau dysgu yn byw gyda theulu neu ffrindiau sy’n darparu gofal a chymorth iddynt (Hatton et al., 2016).
Mewn ymchwil gyda gofalwyr teuluol, mae rhai yn adrodd y gall y gwaith maen nhw’n ei wneud i drefnu gwasanaethau cymorth ar gyfer aelod o’u teulu fod yn arbennig o ofidus (Griffith et al., 2011, Hassall et al., 2005, Codd a Hewitt, 2021). Mewn ymchwil ar bobl ifanc niwrowahanol a phontio, nododd Shanahan et al. (2020) fod rhieni’n aml yn teimlo bod yn rhaid iddynt gamu i mewn i drefnu gofal eu plant. Digwyddodd hyn oherwydd nad oedd y cymorth yr oedd ei angen ar eu plant i reoli’r broses bontio ar gael.
Dywedodd rhieni fod yr angen i sicrhau mynediad at ofal yn achosi straen mawr iddynt ac yn eu rhoi mewn perygl o “orlethu”. Roedden nhw’n dweud eu bod yn cael trafferth dod o hyd i’r cymorth iawn a sut i’w hawlio. Yn yr un modd, roedd yn rhaid i rieni plant ag anableddau dysgu difrifol eirioli’n gryf ar ran eu plant i gael unrhyw fath o gymorth. Roedden nhw hefyd yn mynegi pryder am bobl ifanc nad oedd ganddynt rieni’n eirioli ar eu rhan. Roedden nhw’n cwestiynu a fyddai’r bobl ifanc hynny’n gallu cael gafael ar y cymorth yr oedd ei angen arnynt (Jacobs et al., 2021; Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol, 2007). Dywedodd rhai rhieni hefyd eu bod yn gorfod talu’n breifat am gymorth i’w plant, neu i ddiwallu eu hanghenion cymorth eu hunain (Codd a Hewitt, 2021). Gall hyn greu baich ariannol sylweddol ar rieni a gofalwyr.
Mae yna nifer o bethau a all gymhlethu cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd. Fel y noda Shanahan et al. (2020), gall pethau fynd yn gymhleth pan fydd awydd pobl ifanc am annibyniaeth yn gwrthdaro gyda sut y mae rhiant neu ofalwr yn eiriol ar eu rhan. A gall pobl ifanc sydd heb gymorth rhiant neu ofalwr fod dan anfantais ddifrifol.
Casgliad
Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu cael gafael ar ofal a chymorth a fydd yn caniatáu iddynt gael y math o fywyd y maen nhw am ei fyw. Mae hyn yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, ac mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar leisiau pobl ifanc a’u teuluoedd.
Mae dod yn oedolyn yn gyfnod anodd ym mywydau’r rhan fwyaf o bobl, ac mae pawb yn wynebu heriau gwahanol. Gall pobl ifanc sy’n cael gofal a chymorth wynebu heriau ychwanegol a mwy cymhleth na phobl ifanc eraill. Ond gall gofal cymdeithasol hefyd gefnogi pobl ifanc i fyw bywydau sy’n ystyrlon ac yn llwyddiannus ar eu telerau eu hunain. Gall canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl ifanc a’u teuluoedd helpu i wneud yn siŵr bod y cyfnod pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion mor gefnogol a chadarnhaol â phosibl.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol ar bontio o safbwynt pobl ifanc a’u teuluoedd sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
- Broad K.L., Sandhu V.K., Sunderji N. a Charach A. (2017) ‘Youth experiences of transition from child mental health services to adult mental health services: a qualitative thematic synthesis’, BMC Psychiatry, 17 (380), doi:10.1186/s12888-017-1538-1, ar gael yn https://doi.org/10.1186/s12888-017-1538-1.
- Culnane, E., Efron, D., Williams, K., Marraffa, C., Antolovich, G., Prakash, C. a Loftus, H. (2023) ‘Carer perspectives of a transition to adult’ care model for adolescents with an intellectual disability and/or autism spectrum disorder with mental health comorbidities’, Child: Care, Health and Development, 49 (2), tt. 281-291, doi:10.1111/cch.13040, ar gael yn https://doi.org/10.1111/cch.13040.
- Hanley-Maxwell, C., Whitney-Thomas, J. a Pogoloff, S. M. (1995) ‘The second shock: A qualitative study of parents’ perspectives and needs during their child’s transition from school to adult life’, Journal of the Association for Persons with Severe Handicaps, 20 (1), tt. 3-15, doi:10.1177/154079699502000102, ar gael yn https://doi.org/10.1177/154079699502000102.
- Jacobs, P., Quayle, E., Wilkinson, H. a MacMahon, K. (2021) ‘Relationships matter! — Utilising ethics of care to understand transitions in the lives of adults with severe intellectual disabilities’, British Journal of Learning Disabilities, 49 (3), tt. 329-340, doi:10.1111/bld.12380, ar gael yn https://doi.org/10.1111/bld.12380.
- Singh, N., Justice, M., Melton, S., Kelly, A., Richards, B. a Loveridge, B. (2024) ‘Moving On Project: Exploring the experiences of young people with a learning disability as they move into adulthood’, ar gael yn https://movingon.blogs.bristol.ac.uk/about/ (cyrchwyd: 9 Gorffennaf 2025).
Cyfeiriadau -
Beresford, B., Moran, N., Sloper, T., Cusworth, L., Mitchell, W., Spiers, G., Weston, K. a Beecham, J. (2013) Transition to adult services and adulthood for young people with autistic spectrum conditions, Social Policy Research Unit, Prifysgol Caer Efrog, ar gael yn https://www.york.ac.uk/inst/spru/pubs/pdf/TransASC (cyrchwyd: 10 Chwefror 2026).
Bridges, W. (1991) Managing Transition: Making the Most of Change, Massachusetts, Addison-Wesley.
Broad K.L., Sandhu V.K., Sunderji N. a Charach A. (2017) ‘Youth experiences of transition from child mental health services to adult mental health services: a qualitative thematic synthesis’, BMC Psychiatry, 17 (380), doi:10.1186/s12888-017-1538-1.
Codd, J. a Hewitt, O. (2021) ‘Having a son or daughter with an intellectual disability transition to adulthood: A parental perspective’, British Journal of Learning Disabilities, 49 (1), tt. 39–51, doi:10.1111/bld.12327.
Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol (2007) Growing Up Matters: Better transition planning for young people with complex needs, ar gael yn https://www.bipsolutions.com/docstore/pdf/16064.pdf (cyrchwyd: 5 Medi 2025).
Culnane, E., Efron, D., Williams, K., Marraffa, C., Antolovich, G., Prakash, C. a Loftus, H. (2023) ‘Carer perspectives of a transition to adults care model for adolescents with an intellectual disability and/or autism spectrum disorder with mental health comorbidities’, Child: Care, Health and Development, 49 (2), tt. 281-291, doi:10.1111/cch.13040.
Cynghrair Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr Alban (2017) Experiences of Transitions to Adult Years and Adult services, ar gael yn https://www.alliance-scotland.org.uk/wp-content/uploads/2017/11/ALLIANCE-GIRFEC-Experiences-of-Transitions-to-Adult-Years-and-Adult-Services-2017-1.pdf (cyrchwyd: 29 Awst 2025).
Griffith, G. M., Hastings, R. P., Nash, S., Petalas, M., Oliver, C., Howlin, P. a Tunnicliffe, P. (2011) ‘”You have to sit and explain it all, and explain yourself.” Mothers’ experiences of support services for their offspring with a rare genetic intellectual disability syndrome’, Journal of Genetic Counselling, 20, tt. 165-177, doi:10.1007/s10897-010-9339-4.
Hanley-Maxwell, C., Whitney-Thomas, J. a Pogoloff, S. M. (1995) ‘The Second Shock: A Qualitative Study of Parents’ Perspectives and Needs during Their Child’s Transition from School to Adult Life’, Journal of the Association for Persons with Severe Handicaps, 20 (1), tt. 3-15, doi:10.1177/154079699502000102.
Hassall, R., Rose, J. a McDonald, J. (2005) ‘Parenting stress in mothers of children with an intellectual disability: The effects of parental cognitions in relation to child characteristics and family support’, Journal of Intellectual Disability Research, 49, tt. 405-418. doi:10.1111/j.1365-2788.2005.00673.x
Hatton, C., Glover, G., Emerson, E. a Brown, I. (2016) People with learning disabilities in England 2015: Main report, Public Health England, ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/people-with-learning-disabilities-in-england-2015 (cyrchwyd: 10 Chwefror 2026).
Jacobs, P., Quayle, E., Wilkinson, H. a MacMahon, K. (2021) ‘Relationships matter! — Utilising ethics of care to understand transitions in the lives of adults with severe intellectual disabilities’, British Journal of Learning Disabilities, 49 (3), tt. 329-340, doi:10.1111/bld.12380.
Llywodraeth Cymru (2015) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 3 (Asesu Anghenion Unigolion) of Practice, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-09/deddf-gwasanaethau-cymdeithasol-a-llesiant-cymru-2014.pdf (cyrchwyd: 5 Medi 2025).
Mulvale, G.M., Nguyen, T.D., Miatello, A.M., Embrett, M.G., Wakefield, P.A. a Randall, G.E. (2019) ‘Lost in transition or translation? Care philosophies and transitions between child and youth and adult mental health services: a systematic review’, Journal of Mental Health, 28 (4), tt. 379-388.
O’Hara, L., Holme, I., the MILESTONE Consortium, Tah, P., Franic, T., Vrljičak Davidović, N., Paul, M., Singh, S. P., Street, C., Tuomainen, H., Schulze, U., a McNicholas, F. (2020) ‘A cross-cultural qualitative study of the ethical aspects in the transition from child mental health services to adult mental health services’, Child and Adolescent Mental Health, 25 (3), tt. 143-149, doi:10.1111/camh.12377.
O’Loughlin, S. (2012) ‘The transition from child and adolescent to adult services in eating disorders: a qualitative study of service user and carer perspectives’, Thesis PhD, Prifysgol Glasgow.
Sefydliad Nyrsio’r Frenhines (2017) Young Peoples’ Transition project: Focus Group Summary, ar gael yn https://qicn.org.uk/wp-content/uploads/2017/02/Child_to_Adult_Focus_Groups_Report.pdf (cyrchwyd: 5 Medi 2025).
Shanahan, P., Ollis, L., Balla, K., Patel, R. a Long, K. (2021) ‘Experiences of transition from children's to adult's healthcare services for young people with a neurodevelopmental condition’, Health and Social Care in the Community, 29 (5), tt. 1429-1438, doi:10.1111/hsc.13198.
Singh, N., Justice, M., Melton, S., Kelly, A., Richards, B. a Loveridge, B. (2024) ‘Moving On Project: Exploring the experiences of young people with a learning disability as they move into adulthood’, ar gael yn https://movingon.blogs.bristol.ac.uk/about/ (cyrchwyd: 9 Gorffennaf 2025).
Y Comisiwn Ansawdd Gofal (2014) From the pond into the sea – Children’s transition to adult health services, ar gael yn https://www.cqc.org.uk/sites/default/files/CQC_Transition%20Report.pdf (cyrchwyd: 10 Chwefror 2026).