Pum peth wnaethon ni eu dysgu yng Nghynhadledd Ymchwil Data Gweinyddol y DU 2023
Fel rhan o'n harweinyddiaeth ar thema gofal cymdeithasol rhaglen Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru, aeth criw ohonom i Gynhadledd YDG DU 2023 yn Birmingham ym mis Tachwedd 2023.
Mae Cymru'n rhagori ymhell tu hwnt i’r disgwyl o ran ymchwil data cysylltiedig
Roedd y gynhadledd yn cwmpasu'r DU gyfan, ond cafodd Cymru lawer o sylw am dorri tir newydd mewn ymchwil data cysylltiedig. Denodd banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) gryn edmygedd gan bawb
Rhoddodd ymchwilwyr o Gymru gyflwyniadau ardderchog, ar bynciau fel y Rhaglen Cefnogi Pobl, cynlluniau tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru, effaith amgylchedd y cartref a'r cyffiniau ar ganlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn, ac archwilio'r defnydd o wasanaethau iechyd gan ofalwyr di-dâl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Hefyd, roedd gan bobl ddiddordeb yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud yng Ngofal Cymdeithasol Cymru i hyrwyddo ymchwil data cysylltiedig. Roedd ein gweithdy ar y pwnc yn llwyddiant mawr gyda phresenoldeb ac adborth gwych.
Mae data cysylltiedig yn gallu adnabod patrymau grŵp ond nid yw mor ddefnyddiol o ran unigolion
Un o'r cyflwyniadau gwych oedd hwnnw gan Marion Oswald, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Northumbria. Gan dynnu ar ei phrofiadau ei hun yn gweithio yn y system cyfiawnder troseddol, aeth â ni drwy darddiad yr hawl i breifatrwydd. A sut y cafodd ei gynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ar ôl yr Ail Ryfel Byd mewn ymateb i dargedu poblogaethau yn yr Almaen Natsïaidd.
Gallwn ni ddefnyddio algorithmau i nodi ffactorau risg ar gyfer ymddygiad penodol mewn data. Ond gwnaeth y cyflwyniad hwn pwysleisio'r ffaith bod eu defnyddio ar lefel unigol yn gallu achosi problemau.
Mae algorithm yn gallu dweud bod rhan benodol o'r boblogaeth yn fwy tueddol o ymddwyn mewn ffordd benodol, ond nid yw hyn yn fawr o gymorth o ran adnabod unigolion. Pam? Oherwydd ein bod ni'n llawer mwy cymhleth yn y pen draw na'r labeli neu'r priodoleddau sy’n cael eu rhoi i ni.
Mae angen i ymchwilwyr feddwl am effaith bosibl eu hymchwil o'r cychwyn cyntaf
Amlygodd Marion Oswald beryglon defnyddio data mewn ffordd amhriodol o ran adnabod unigolion. Ac o ddefnyddio algorithmau i wneud penderfyniadau sy'n newid bywyd, er enghraifft, am bethau fel troseddolrwydd posib.
Pwysleisiodd pa mor bwysig yw hi fod ymchwilwyr yn ystyried o'r dechrau sut y gallai eraill ddehongli eu hymchwil ar gyfer penderfyniadau polisi neu ymarfer, ac i gymryd y camau cywir i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o hyn. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag ymarferwyr a phobl a allai gael eu heffeithio gan benderfyniadau polisi.
Wrth i ni arwain ar y thema gofal cymdeithasol yn rhaglen waith YDG Cymru, bydd y math hwn o ymgysylltu yn ein helpu i osod blaenoriaethau ymchwil. Gallai'r rhain lywio polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol.
Mae ymgysylltu â'r cyhoedd o’r pwys mwyaf
Roedd pwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn thema gyson gydol y gynhadledd. Fe wnaeth Lynsey Cross, ein Swyddog Ymchwil, gydgyflwyno gweithdy am ymgysylltu. Soniodd am sut mae SAIL yn gweithio gyda phanel o aelodau o’r cyhoedd i adolygu a rhoi adborth ar ansawdd prosiectau ymchwil data cysylltiedig.
Siaradodd Ed Humpherson, pennaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR), am adroddiad ei sefydliad a gyhoeddwyd yn 2022, Data Sharing and Linkage for the Public Good, a phwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd am gwestiynau data.
Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n teimlo'n angerddol amdano yng Ngofal Cymdeithasol Cymru ac rydyn ni’n cyfeirio at adroddiad OSR yn aml wrth ein gwaith. Mae angen dealltwriaeth dda arnom o sut y gall pobl ymateb i fathau gwahanol o ddefnydd data. Mae hyn yn ein helpu ni wrth wneud penderfyniadau am ba mor eang rydyn ni’n rhannu data neu sut rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil. Mae hon yn ystyriaeth bwysig i'n gwaith ar arwain ar ofal cymdeithasol gydag YDG Cymru.
Am ragor o wybodaeth:
Gallwch ddarllen mwy am ein gwaith yn arwain ar thema gofal cymdeithasol YDG Cymru, yn ogystal â thudalen we sy’n esbonio ymchwil data cysylltiedig a’n blog ymchwil data cysylltiedig.