Skip to Main content

Pum prif gyngor ar gyfer ymgorffori Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd yn eich sefydliad

08 Medi 2025

Mewn blog diweddar ar y Grŵp Gwybodaeth, edrychodd Kerry Cleary, Hyfforddwr Arweinyddiaeth Seiliedig ar Werthoedd, ar yr heriau cyffredin sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol.  Cyflwynodd ni hefyd i’r model Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd, dull sy'n canolbwyntio ar nodi a deall gwerthoedd, ymddygiadau a chymhellion eich ymgeiswyr.

Nawr mae Kerry yn rhannu cyngor i’ch helpu chi ar eich taith Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd.

Dyma restr o gyngor gwych i’ch helpu chi i ymgorffori'r model Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd o fewn eich sefydliad! 

1. Nodi a disgrifio'n glir pa werthoedd sy'n bwysig i’ch tîm a'ch sefydliad

Diffinio eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau yn glir yw'r cam cyntaf a’r pwysicaf wrth ymgorffori’r model Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd. 

Ceisiwch gyfleu a nodi pa werthoedd ac ymddygiadau sydd bwysicaf i'ch gwaith. Meddyliwch sut y gellid cynnwys y gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn ym mhob cam o'ch proses recriwtio. 

Cyngor gwych a’r hyn a ddysgwyd

  • Ceisiwch gynnwys eich staff, a'r rhai sy'n defnyddio eich gwasanaeth neu gwsmeriaid wrth nodi eich prif werthoedd.
  • Os oes gennych chi werthoedd eisoes yn eich sefydliad, a ydyn nhw'n cael eu disgrifio'n glir yn y termau ymddygiad sy'n esbonio beth mae disgwyl i staff ei wneud wrth ddangos y gwerthoedd hynny?  Os ddim, lluniwch set o ymddygiadau sy'n dangos yn glir beth mae angen i bobl ei wneud wrth roi gwerthoedd eich sefydliad ar waith.

2. Rhannwch eich gwerthoedd gyda gwahanol grwpiau o ddarpar recriwtiaid gan ddefnyddio dulliau marchnata recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd

Edrychwch ar eich hysbysebion recriwtio a meddyliwch a ydyn nhw'n gwerthu'r gwerthoedd rydych chi wedi'u nodi sy’n rhai pwysig. A yw'r hysbysebion yn debygol o ddenu amrywiaeth eang o ymgeiswyr? 

Efallai gwelwch chi fod llawer o gyfleoedd i wneud yr hysbysebion yn fwy diddorol drwy werthu'r gwerthoedd. Mae'n bwysig cofio bod angen i ni apelio at galonnau pobl yn ogystal â'u deallusrwydd!

Cynghor gwych a’r hyn a ddysgwyd

  • Edrychwch ar eich hysbysebion i wneud yn siŵr eu bod yn adlewyrchu ac yn gwerthu eich gwerthoedd ac yn denu pobl sy'n rhannu'r gwerthoedd hynny.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich hysbysebion yn gynhwysol o ran yr iaith a'r delweddau rydych chi'n eu defnyddio.  A yw'r hysbysebion wedi'u gosod mewn mannau lle byddan nhw’n denu amrywiaeth eang o ymgeiswyr sy'n rhannu eich gwerthoedd?

3. Galluogi ymgeiswyr i rannu eu gwerthoedd yn hawdd ac yn effeithiol wrth ymgeisio am swydd

A yw eich ffurflen gais a'ch disgrifiadau swydd yn adlewyrchu eich gwerthoedd, neu'n rhoi cyfle i ymgeiswyr rannu eu gwerthoedd wrth ymgeisio?

Mae'n bwysig eich bod yn gallu gweld os yw'r bobl rydych chi'n eu gwahodd am gyfweliad yn gwybod beth yw eich gwerthoedd, ac yn eu rhannu. Mae hefyd yn bwysig i ymgeiswyr gael cyfle i feddwl am eich gwerthoedd ac a ydyn nhw'n cytuno â nhw cyn iddyn nhw drio am y swydd. 

Cynghor a’r hyn a ddysgwyd

  • Lluniwch becyn cais i'w anfon at ymgeiswyr sy'n cynnwys eich gwerthoedd, ymddygiad, diwylliant a'r rôl. Gofynnwch i'r ymgeisydd rannu sut mae eu gwerthoedd a'u hangerdd yn cyd-fynd â'ch sefydliad. Gallent gyflwyno’r rhain trwy lythyr eglurhaol neu yn yr adran gwybodaeth ychwanegol ar y ffurflen gais.
  • Adolygwch eich disgrifiadau swydd a manylebau person i wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys y gwerthoedd a'r ymddygiadau rydych chi'n chwilio amdanynt. Os na allwch eu hail-ysgrifennu, edrychwch sut y gallwch chi addasu ac ychwanegu datganiadau, fel "dangos gwerthoedd ein tîm yn eich holl waith”. 

4. Nodi sut mae ymgeiswyr yn rhannu eich gwerthoedd a'ch gweledigaeth

Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau dethol sy'n seiliedig ar werthoedd, gan gynnwys cyfweliad seiliedig ar werthoedd

Mae cymaint o ffyrdd y gallwch asesu a yw ymgeiswyr yn rhannu eich gwerthoedd yn y broses ddethol, ac mae cyfweliad sy’n seiliedig ar werthoedd yn ffordd effeithiol o wneud hyn. Mae llawer o Reolwyr Gofal yng Nghymru eisoes yn defnyddio gweithgareddau defnyddwyr gwasanaeth, ymarferion grŵp, cyflwyniadau, a gweithgareddau ysgrifenedig yn ystod cyfweliadau. Gall hyn eich helpu i ddysgu mwy am gymhellion a gwerthoedd eich ymgeisydd, ac iddyn nhw ddysgu mwy am eich rolau a'ch sefydliad.

Cynghor gwych a’r hyn a ddysgwyd

  • Adolygwch eich proses ddethol bresennol a sut rydych chi'n asesu gwerthoedd ac ymddygiadau ymgeiswyr. A yw eich proses yn eich galluogi i ddod o hyd i'r ymgeiswyr a fydd yn parhau i ddangos y gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn chwe mis ar ôl dechrau'r swydd? Os na, beth allwch chi ei newid neu ei wneud yn wahanol?
  • Gofynnwch gwestiynau sy'n seiliedig ar werthoedd yn eich proses gyfweld fel y gall ymgeiswyr roi enghreifftiau i chi o adegau pan maen nhw wedi rhoi eich gwerthoedd ar waith.

5. Ymgorfforwch eich gwerthoedd yn y rhaglen sefydlu, hyfforddi a rheoli i helpu staff newydd i ddysgu eich diwylliant sy'n seiliedig ar werthoedd

Mae recriwtio diogel sy'n seiliedig ar werthoedd yn dechrau, a nid yn gorffen, unwaith y bydd rhywun yn cael cynnig swydd. 

Er mwyn cadw staff sy'n rhannu eich gwerthoedd ac yn gwneud gwahaniaeth i eraill bob dydd, mae'n rhaid i chi eu paratoi ar gyfer llwyddiant. Rhannwch eich disgwyliadau gyda nhw o'r dechrau, fel eu bod yn gwybod sut i fod y fersiwn orau ohonynt eu hunain. 

Mae cynnwys eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau yn y broses sefydlu yn gwneud yn siŵr bod staff newydd yn gwybod o'r diwrnod cyntaf beth rydych chi’n ddisgwyl ohonynt. Trwy hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus, gallwch wneud yn siŵr eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ei bod yn ddiogel iddynt rannu pryderon, a’u bod wedi'u grymuso i ddangos eu gwerthoedd a'u hymddygiadau yn eu gwaith. 

Cynghor gwych a’r hyn a ddysgwyd

  • Adolygwch eich rhaglen sefydlu a hyfforddi ar gyfer recriwtiaid newydd a nodwch gyfleoedd i ymgorffori eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau yn fwy effeithiol.
  • Ceisiwch gynnwys trafodaethau gyda'r aelod newydd o staff am y ffordd maen nhw'n dangos gwerthoedd ac ymddygiadau eich sefydliad. Gall goruchwyliaeth, sesiynau un i un ac arfarniadau fod yn gyfleoedd i'w gwerthfawrogi a'u cefnogi. Gallant hefyd fod yn gyfle i nodi unrhyw broblemau yn gynnar, ac ymateb iddynt.

 

"Recriwtio am agwedd, hyfforddi am sgil” (Walt Disney)

Rwy'n hoff iawn o Disney ac mae'r dyfyniad hwn gan Walt Disney yn crynhoi nod Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd.  

Chwiliwch am staff sydd â'r agwedd a'r gwerthoedd iawn, ac sy'n gwybod pam fod gweithio ym maes gofal mor bwysig - yna ewch ati i’w hyfforddi a'u cefnogi i lwyddo!

Dysgu mwy

Darllenwch flog Kerry: Recriwtio’n Seiliedig ar Werthoedd: Pam ei bod hi’n heriol recriwtio a chadw staff sy’n gofalu? - Gofal Cymdeithasol Cymru - Ymchwil, data ac arloesi

Mae adnoddau am ddim ar gael i'ch helpu i ddechrau ar eich taith recriwtio sy'n Seiliedig ar Werthoedd drwy ddilyn y ddolen yma.